Dr Emma Taylor-Collins

Teitl swydd Uwch Swyddog Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt emma.taylor-collins@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02920870738

Mae Emma yn Uwch Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn arwain prosiectau cyfiawnder cymdeithasol. Mae ei phrosiectau presennol yn cynnwys gwaith ar Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol Llywodraeth Cymru, astudiaeth sy’n edrych ar farn arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru ar galedi, a phrosiect ESRC i rannu dysgu rhwng Canolfannau What Works a chenhedloedd datganoledig.

Cyn hyn, roedd Emma yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham, wedi’i secondio i Step Up To Serve, sef yr elusen sy’n cynnal ymgyrch #iwill. Roedd ei phrosiect mwyaf diweddar yn ystyried sut olwg sydd ar arfer gweithredu cymdeithasol i bobl ifanc yn y DU. Mae cefndir Emma yn y sector elusennol, lle mae wedi gweithio i WE ac English PEN, yn ogystal â’r felin drafod Credos. Mae ganddi BA (Anrh) dosbarth cyntaf mewn Hanes o Brifysgol Warwick.

Mae Emma hefyd yn astudio’n rhan-amser ar gyfer PhD ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ymchwil Trydydd Sector Prifysgol Birmingham ar y rhan y mae merched dosbarth gweithiol yn ei chwarae mewn gweithredu cymdeithasol.

Mae prif ddiddordebau ymchwil Emma mewn cyfiawnder cymdeithasol a’r trydydd sector.

Tagiau