Dr Ruth Hall

(CB, FRCP, FRCPCH, FFPHM)

Mae gan Ruth gefndir meddygol, ac mae’n gyn-Brif Swyddog Meddygol i Gymru.

Mae ganddi ddiddordebau arbenigol ym maes iechyd amgylcheddol, ac yn ddiweddar bu’n gyd-gadeirydd ar Gydweithfa Gofal Iechyd Canolbarth Cymru, gan ganolbwyntio ar anghenion cymunedau gwledig. Mae llawer o’i gyrfa wedi canolbwyntio ar waith yng ngwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth Cymru, ond mae ganddi brofiad yn Lloegr hefyd, a bu’n cyflawni penodiadau ymgynghorol i NICE ac OFWAT.

Ruth oedd Is-Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), ac yn aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Bu gynt yn gyfarwyddwr anweithredol ar Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan Ruth gadair wadd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, mae’n lifreiwr yng Nghymdeithas Anrhydeddus yr Apothecarïaid, ac yn un o Ryddfreinwyr Dinas Llundain.

Tagiau