Dr Helen Tilley

Teitl swydd Uwch-gymrawd Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt helen.tilley@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02922510272

Mae Dr Helen Tilley yn Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac yn arwain gwaith y Ganolfan ar yr economi. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys economi wleidyddol; gwleidyddiaeth ymchwil a’r defnydd o dystiolaeth; a’r heriau cynhyrchiant a’r twf economaidd sy’n wynebu Cymru.

Mae gan Helen brofiad helaeth o weithio ym maes datblygu rhyngwladol yn Affrica ac Asia; gyda llywodraethau a rhoddwyr, gan gynnwys DFID, Banc y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd ac asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar feithrin gallu llywodraeth leol a chanolog i ddefnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau, rheoli cyllid cyhoeddus a gweithredu diwygiadau cyllidebol, a datblygu polisïau cyhoeddus mewn ystod o feysydd gan gynnwys hinsawdd, addysg, iechyd, twf economaidd a lleihau tlodi. Mae gan Helen brofiad o arwain timau o ymchwilwyr; hwyluso gweithdai; a datblygu a chymhwyso fframweithiau dadansoddol a methodolegau dysgu.

Mae gan Helen PhD ac MSc mewn Economeg o SOAS, a BA mewn Economeg o Brifysgol Caergrawnt.

Tagiau