Dr Amy Lloyd

Teitl swydd Cydymaith Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt amy.lloyd@wcpp.org.uk

Mae Amy’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Treialon Ymchwil sydd ar secondiad i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fel Cydymaith Ymchwil er mwyn cael gwybod rhagor am rôl tystiolaeth wrth ddatblygu a gweithredu polisi. Mae ei gwaith yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n cynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau drwy ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraethu a gweithredu.

Am y saith mlynedd diwethaf, mae Amy wedi bod yn rheolwr astudiaethau gwella gofal iechyd aml-safle ac yn datblygu, yn gweithredu ac yn gwerthuso mentrau gwella iechyd a gofal cymdeithasol. Amy hefyd yw dirprwy arweinydd y grŵp ymchwil ansoddol yn y Ganolfan Treialon Ymchwil. Y maes y mae ganddi’r diddordeb mwyaf ynddo yw effaith – gwneud yn siŵr bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio i ddatblygu atebion priodol i’r cyd-destun y gellir eu rhoi ar waith.

Mae cefndir Amy mewn cymdeithaseg (BA Anrh), iechyd y cyhoedd (MPH), a darparu gwasanaethau iechyd (PhD).

Tagiau