Charlotte Morgan

Teitl swydd Prentis Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt charlotte.morgan@wcpp.org.uk

Mae Charlotte Morgan yn Brentis Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan ymuno â’r tîm ym mis Medi 2022.

Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Charlotte yn gweithio fel Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru lle bu’n ymwneud ag ymgyrchoedd polisi, megis Bias a Bioleg: Bwlch Rhwng y Rhywiau o ran Trawiad ar y Galon. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y dirwedd ymchwil feddygol yng Nghymru, a chyn hynny bu’n darparu ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol o fewn ei rôl yn Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Cefndir Charlotte yw BA mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Aeth Charlotte ymlaen wedyn i ennill ysgoloriaeth MA ym Mhrifysgol Abertawe, dan y teitl Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisïau ac Ymarfer. Ffocws Charlotte drwy gydol y rhaglen oedd cynnal ymchwil i gyfraith a pholisi mewn perthynas â thlodi plant yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y cyfle i fynd ar leoliad gydag Achub y Plant y bu Charlotte yn gweithio gyda nhw i gynhyrchu adroddiad ar lwybrau polisi tlodi plant yng Nghymru.

Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli i Ganolfan Cymru dros Faterion Rhyngwladol lle bu’n gweithio ar draws timau i gefnogi gyda chynllunio prosiectau ymchwil, cyfathrebu ac addysg. Yn ystod ei phrofiad gwirfoddoli yn WCIA y datblygodd Charlotte ddiddordeb mewn llunio polisïau yn ogystal ag ymchwil.

Tagiau