(BSc, MSc)
Abdool yw Arweinydd Gweithredol Gwasanaethau Lleol yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, rôl y mae wedi’i chyflawni ers mis Chwefror 2017.
Cyn hynny bu’n Brif Weithredwr CB Swale am saith mlynedd, a threuliodd bedair blynedd yn Brif Weithredwr Cynorthwyol ym Mwrdeistref Merton yn Llundain. Mae Abdool hefyd wedi gweithio i’r Comisiwn Archwilio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys Rheolwr Gweithrediadau’r Arolygiaeth Tai, Pennaeth Polisi Asesu Perfformiad Cynhwysfawr, ac ar leoliad fel ymgynghorydd arbennig i Swyddfa’r Cabinet. Cyn hynny, gweithiodd am ddeng mlynedd ym maes llywodraeth leol yn Llundain, ym Mwrdeistref Ealing, yn arbenigo mewn digartrefedd a strategaeth tai, a Chorfforaeth Llundain, lle bu’n arwain ym maes rheoli perfformiad.
Mae gan Abdool BSc mewn Economi Wleidyddol o Goleg y Brifysgol, Llundain; MSc mewn Astudiaethau Datblygu o Brifysgol Caerfaddon; ac MSc mewn Tai o Ysgol Economeg Llundain (LSE).
Mae’n aelod o Rwydwaith Ymgynghori Strategol yr ESRC.