Yn raddol ac yna i gyd ar unwaith – System ymfudo ar sail pwyntiau newydd y DU a busnesau bach a chanolig

Wrth ymateb i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar effaith system ymfudo newydd ar ôl Brexit, yn y blog hwn mae Dr Llyr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi yn y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn amlinellu’r materion ymarferol y mae’n eu hachosi i gwmnïau llai.

Mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn cyfrif am 62.3% o gyflogaeth y sector preifat, a 95.4% o gwmnïau yng Nghymru, felly bydd unrhyw system sy’n effeithio ar allu BBaChau i recriwtio yn arwyddocaol.

Mae’r rhan fwyaf o BBaChau yn fusnesau micro – y rheiny sy’n cynnwys rhwng un a naw gweithiwr. O’r herwydd, perchennog y busnes fydd yn gyfrifol am weithlu BBaCh, yn ogystal â rhannau biwrocrataidd eraill o fywyd busnes, gan nad oes ganddynt gapasiti adrannau Adnoddau Dynol na’r arbenigedd ehangach sydd ar gael i’r sector cyhoeddus a chwmnïau mwy.

Felly mae pandemig y Coronafeirws wedi arwain at heriau sylweddol i berchnogion BBaChau, gan gynnwys gorfod llywio trwy’r holl gefnogaeth busnes defnyddiol, ond cymhleth, sydd ar gael. O’r herwydd, mae gallu BBaChau i brosesu rhagor o wybodaeth yn gulach fyth.

Felly mae’n bwysig cadw hyn mewn cof wrth edrych ar Brexit yn gyffredinol a’r newidiadau arfaethedig o ran ymfudo yn arbennig.

 

Eglurder a chysondeb ar heriau Brexit

Cyn pandemig y Coronafeirws, roedd Brexit eisoes wedi dod yn broses hirwyntog, gyda therfynau amser yn symud neu’n dod yn gerrig milltir ar gyfer y set nesaf o drafodaethau. Mae hyn yn creu’r risg o BBaChau yn ystyried y dyddiadau hyn fel cyfres o ‘ryfeloedd ffug’. Er enghraifft, ar gyfer y terfyn gwreiddiol o 29 Mawrth 2019, roedd y rheiny a oedd wedi rhoi adnoddau o’r neilltu i baratoi ar gyfer Brexit dan anfantais gystadleuol o ran costau cyfle o’i gymharu â’r rhai a oedd wedi anwybyddu’r broses. Mae arolygon wedi dangos bod llawer yn ystyried bod y terfyn ar 31 Rhagfyr yn debyg i’r cyfnod pontio ‘Mae Brexit yn digwydd’ yn dilyn 31 Rhagfyr 2020.

At hynny, o safbwynt cwmnïau, mae diffyg eglurder ynghylch yr hyn y mae bargen neu ddim bargen yn ei olygu yn arwain at lai o gymhelliant i ymgysylltu â’r broses. Mae’r Sefydliad ar gyfer Llywodraethu yn nodi bod negeseuon sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd ac yn bychanu’r risgiau gyda Brexit yn golygu bod unrhyw alwad i weithredu hefyd yn cael ei wanhau. Felly mae angen eglurder a chysondeb ar yr heriau o’n blaenau er mwyn gallu paratoi.

 

Heriau recriwtio a’r broses fewnfudo Haen 2

Un o’r negeseuon mwyaf cyson y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei chlywed gan BBaChau yw eu trafferthion recriwtio, ar bob lefel sgiliau. Mae trafferthion recriwtio yn arwain at ddiffyg sgiliau, sy’n llesteirio cynhyrchiant BBaChau, am gost gwirioneddol i’w hunain ac i economi gyfan y DU.

Felly mae newidiadau ymfudo yn berthnasol iawn i BBaChau, ond ar yr un pryd, nid yw 95% o gwmnïau bach wedi ymgysylltu â’r broses ymfudo Haen 2 gyfredol o’r blaen. Mae’r diffyg profiad hwn yn bryder gwirioneddol gan fod disgwyl i wladolion yr UE ddod o dan y prosesau ymfudo Haen 2 llymach – mae’n debyg na fydd llawer o BBaChau yn ymwybodol y bydd rhwyddineb eu mynediad at gronfeydd talent Ewrop yn newid.

Fel y noda adroddiad WCPP ‘Ymfudo ar ôl Brexit a Chymru’, gweithwyr â sgiliau isel a chanolig sy’n fwy tebygol o ddisgyn o dan drothwy cyflog Haen 2 o £25,600, ac mae hyn yn debygol o effeithio ar BBaChau yn benodol. Gydag elw ariannol tynnach na’u cymheiriaid mwy, bydd BBaChau yn aml yn ceisio denu a chadw staff trwy gymhellion fel gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ati, felly mae cwestiwn gwirioneddol ar b’un a yw trothwyon ariannol yn fesur yr un mor gywir yn hyn o beth o ran mesur y sgiliau dan sylw.

 

Cymorth a chamau gweithredu’r Ffederasiwn Busnesau Bach

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn gweithio’n galed iawn i ddiweddaru ein haelodau a’r sector BBaChau gyda deunyddiau a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chynlluniau’r llywodraeth. Yn gynharach eleni, gwnaethom gynhyrchu ein hadroddiad ‘A World of Talent’ ar BBaChau a’r system sy’n seiliedig ar bwyntiau yn y dyfodol, gan alw am bwyslais ar sicrhau bod busnesau bach yn dal i allu cyrchu talent o bob cwr o’r byd.

O ran Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Swyddfa Gartref a phob haen o lywodraeth, yn ogystal â grwpiau trydydd sector allweddol fel Cyngor ar Bopeth, i ledaenu’r neges i entrepreneuriaid a gweithwyr yr UE ar yr angen i sicrhau eu bod wedi setlo eu statws. Mae cyflogwyr yn amlwg yn rhan allweddol o’r llif wybodaeth, ac wrth ddelio â materion cynllunio’r gweithlu maent wedi helpu i gysylltu eu staff â’r broses Statws Sefydlog angenrheidiol pan fyddant yn ymwybodol.

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu llawer o’r un pryderon ag adroddiad WCPP, ac wedi gweithio i ddylanwadu ar y llywodraeth fel a ganlyn:

  • Gwnaethom wthio i ostwng y trothwy cyflog gwreiddiol a gynigwyd o £30,000 ac mae’r trothwy newydd yn welliant i’w groesawu. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu pryder WCPP ar recriwtio gweithwyr â sgiliau canolig, yn arbennig gan fod cyflogau canolrifol Cymru yn is.
  • Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi cytuno gyda’r bwriad o ranbartholi ac yn cefnogi Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder Cymru. Yn ogystal â gwahanol ddemograffeg oedran y boblogaeth a nodir yn yr adroddiad, mae angen i ymfudo a sgiliau alinio â’r modelau datblygu economaidd sydd ar waith ac anghenion y polisïau hynny.
  • Mae cost ariannol ac amser recriwtio yn parhau i fod yn bryder dybryd.
  • Wrth ysgrifennu, rydym ni’n aros am fanylion y system ddigidol i symleiddio’r broses. Mae’n anodd mesur sut mae hyn yn lliniaru’r broblem tan ei fod yn cael ei brofi.

Dylid nodi, ar gyfer llawer o BBaChau, na fydd hyn yn effeithio arnynt ar unwaith nes eu bod wrthi’n recriwtio. Ni fydd hyn yn digwydd am beth amser i’r mwyafrif. Efallai y bydd cefnogaeth barhaus yn sgil y Coronafeirws  – fel y cynllun ffyrlo – hefyd yn cefnogi fymryn ar gynllunio’r gweithlu, gan y bydd BBaChau yn gallu manteisio ar y cynllun ffyrlo tan o leiaf mis Mawrth 2021.

 

Edrych ymlaen

Mae’n bwysig bod strategaeth tymor hwy mewn perthynas â phandemig y Coronafeirws yn agor lle i ymgysylltu â BBaChau ar faterion fel ymfudo, sgiliau a chynllunio’r gweithlu, yn ogystal â helpu’r llywodraeth i ddeall anghenion sgiliau a gwendidau yn y sector hwn yn well.

Oherwydd y strwythurau cymorth Coronafeirws sydd ar waith, mae rhwydweithiau cymorth busnes fel Busnes Cymru mewn sefyllfa well nawr i gyrraedd BBaChau yn gyffredinol.

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu llawer o’r dadansoddi yn yr adroddiad gan WCPP. Yn ymarferol, yr hyn sydd ei angen ar BBaChau yw gwybodaeth dreuliadwy, ynghyd â chyngor clir ac ymarferol ar baratoi, yn seiliedig ar sicrwydd ar sut fydd y berthynas â’r UE yn edrych o fis Ionawr. Mae cyfleoedd i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau a sicrhau mynediad i BBaChau at dalent ledled y byd yn y dyfodol, a bod y system fudo ar sail pwyntiau yn ddigon hyblyg i wneud hynny.

Fel gyda chymaint o bethau eraill yn 2020, y pryder yw y bydd yn rhaid i BBaChau ymdopi â goblygiadau unrhyw system newydd a fydd ar gael yn raddol, ac yna i gyd ar unwaith.