Ymateb i’r rhai hynny sy’n wynebu anawsterau o ran dyledion treth y cyngor yng Nghymru: beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos?

Mae’r blog hwn yn trafod adroddiad diweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ’Ymateb i ddinasyddion sydd mewn dyled i wasanaethau cyhoeddus: Adolygiad cyflym o’r dystiolaeth’ a ysgrifennwyd ar y cyd gan Sharon Collard o Brifysgol Bryste a Helen Hodges a Paul Worthington o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae’n edrych ar sut y gallai awdurdodau lleol ac asiantaethau tai yng Nghymru ymateb yn well i bobl sydd ag ôl-ddyledion o ran treth y cyngor neu rent, gan dalu sylw penodol at brofiad y dinesydd o ddyled.

Ar ryw adeg neu’i gilydd, gall pob un ohonom ddisgyn ar ei hôl hi gyda thaliadau cardiau credyd neu filiau eraill. I rai teuluoedd, gall y dyledion hyn bentyrru er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn enwedig os oes bil annisgwyl neu newid o ran yr arian sy’n dod i mewn. Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 67,000 o deuluoedd yng Nghymru broblemau o ran dyledion. Gall y rhain achosi cryn orbryder, gan effeithio ar iechyd a lles y rhai sydd mewn dyled. Dros y degawd diwethaf, mae nifer y cartrefi sydd mewn dyled i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi cynyddu, ac erbyn hyn, mae’n sylweddol uwch na’r rhai hynny sydd â dyledion defnyddwyr heb eu casglu, megis biliau cardiau credyd.

Un her yn benodol yw’r arian sy’n ddyledus i awdurdodau lleol, o ran taliadau treth y cyngor heb eu casglu.  Oherwydd bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn llai o incwm gan Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cynyddu eu hymdrechion i gasglu’r swm uchaf o dreth y cyngor – gyda 97% o dreth y cyngor wedi’i gasglu yn 2018-19 – ac wedi codi lefel treth y cyngor a godir.  Yn gyffredinol, mae’r cynnydd wedi mynd yn uwch na chyfradd chwyddiant; cynyddodd y cyfartaledd ym Mand D o £1,044 i £1,591 (oddeutu 52%) rhwng 2008-09 a 2019-20. Gall hyn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth ad-dalu dyledion.

Ym mis Mawrth 2019, roedd oddeutu £94m o ddyledion o ran treth y cyngor yn ddyledus gan deuluoedd yng Nghymru, sef tua 6% o refeniw treth y cyngor. Fel y dengys yn Ffigur 1, roedd hyn yn dangos cynnydd bach yn y cyfansymiau cyffredinol a oedd yn ddyledus ledled Cymru o’r sefyllfa deng mlynedd yn flaenorol yn 2009. Mae hyn yn dilyn nifer o flynyddoedd lle’r oedd lefelau treth y cyngor yn parhau’n eithaf cyson ond dal yn sylweddol.

Ffigur 1: Ôl-ddyledion treth y cyngor sydd wedi’u dwyn ymlaen ar 31 Mawrth

Ffynhonnell: Cyfraddau casglu treth y cyngor yng Nghymru, 2018-19 (Llywodraeth Cymru)

Mae tystiolaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu bod y fframwaith deddfwriaethol sy’n llywodraethu’r broses gasglu wedi sicrhau rhywfaint o gysondeb ac unffurfiaeth, a bod rhywfaint o’i lwyddiant o ran gwella’r cyfraddau casglu oherwydd yr hyblygrwydd yr oedd yn ei gynnig iddyn nhw i addasu’r prosesu casglu ac adfer i fod yn addas i anghenion y bobl leol. Fodd bynnag, wrth i’r cyfraddau casglu wella, mae’r gallu i wneud gwelliannau pellach wedi dod yn fwy heriol ac mae’n defnyddio mwy o adnoddau, gan ganolbwyntio ar nifer llai o deuluoedd neu unigolion a gwneud llai o enillion.

Fodd bynnag, fel y dengys yn Ffigur 2, mae’r lefel gyffredinol o ôl-ddyledion yn cuddio amrywiadau mawr rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ffigur 2: Treth y Cyngor yng Nghymru; niferoedd heb eu talu fesul cartref y codir ffi arno, ar 31 Mawrth 2009 a 2018

Nodiadau: Ffigurau a gymerwyd o StatsCymru, cartrefi treth y cyngor fesul awdurdod lleol (nifer y cartrefi)

Yn ôl ein gwaith ni, mae awdurdodau lleol yn tueddu i ymateb i daliadau treth y cyngor a fethwyd drwy ddechrau achosion cyfreithiol yn gyflym.  Yn 2016-17, gwnaeth y llysoedd ynadon yng Nghymru gyflwyno 92,547 o orchmynion dyled ar ddyledion o ran treth y cyngor.  Yn yr achosion mwy difrifol, gwnaed 326 o geisiadau gan awdurdodau lleol i anfon y dyledwyr i’r carchar.  Er mai 20 o achosion yn unig yr anfonwyd y dyledwr i’r carchar gan y Llysoedd, a chyflwynwyd 159 pellach o ddedfrydau gohiriedig, gall y ffurflen gais am draddodeb ei hun achosi gorbryder a straen i deuluoedd sy’n agored i niwed. I gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau’n ddiweddar sy’n dileu dedfryd o garchar fel cosb am beidio â thalu treth y cyngor.

Gall diffinio ac adnabod y rhai sy’n agored i niwed fod yn anodd; gall fod yn amlweddog, a bod yn berthnasol i ystod eang o amgylchiadau megis problemau corfforol neu iechyd meddwl, oedran neu ynysu cymdeithasol. Gall hyn beri heriau wrth dargedu a rhoi cymorth. Yn ôl ymchwil,  er bod awdurdodau lleol yng Nghymru’n ystyried y rhai sy’n agored i niwed, mae hyn yn dueddol o ddigwydd yn hwyr yn y broses, yn aml oherwydd y nifer fawr o achosion y maent yn ymdrin â nhw neu amharodrwydd tenantiaid i wneud eu hunain yn hysbys.

Pe bai awdurdodau lleol yn gallu adnabod y teuluoedd sy’n agored i niwed yn gynnar yn y broses, gallant fabwysiadau ymagwedd wahanol, ac osgoi camau gorfodi costus o bosibl. Diben Protocol Treth Gyngor Cymru a gyflwynwyd yn ddiweddar yw mynd i’r afael â hynny. Mae’r Protocol, a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, yn amlinellu arferion gorau ac yn rhoi canllawiau ynghylch sut i ymdrin â chwsmeriaid sy’n agored i niwed.

Mae’r nodweddion allweddol o gymorth effeithiol yn cynnwys ymgysylltu’n well â dinasyddion, biliau a llythyron sy’n hawdd eu darllen, adnabod problemau ac ymyrryd yn gynnar, a mynediad at gymorth annibynnol ac arbenigol. Ceir sylfaen ar gyfer camau gweithredu pellach ac arloesedd yng Nghymru, gan adeiladu ar arferion sydd eisoes yn dda ymysg awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol eraill. Fodd bynnag, nid yw’n eglur pa mor eang y caiff y sylfaen wybodaeth hon ei defnyddio ledled Cymru. Mae hyn yn peri problemau sy’n gysylltiedig â thrin pobl mewn dyled yn annheg ar sail eu côd post.

Mae hefyd cyfleoedd i gydweithio’n well mewn meysydd megis hyfforddi staff rheng flaen, ac mae deddfwriaeth ddiweddar wedi cynnig posibiliadau ar gyfer rhannu data’n well  rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau priodol eraill. Gall hyn helpu i adnabod pobl sy’n agored i niwed a allai fod yn gymwys i gael cymorth.

Ar gyfer awdurdodau lleol, bydd bob amser her bosibl o ran cysoni eu hangen i gasglu dyledion heb eu talu, â’r awydd i gefnogi’r unigolion hynny sy’n cael anhawster i dalu treth y cyngor. Neges gyson yw bod cymorth personol a rhagweithiol yn gweithio’n well nag un dull cyffredinol ‘sy’n addas i bawb.’ Yr hyn fydd yn profi Protocol Treth Gyngor Cymru fydd ansawdd a chysondeb y ffordd y caiff ei rhoi ar waith, yn ogystal â’r effaith ddiriaethol ar y rhai hynny sydd mewn perygl o ddyledion o ran treth y cyngor.