Ydy dyfodol yr economi yn bygwth trethiant lleol?

Dyma’r ail o’n blogiau gan westeion sy’n ymhelaethu ar rai o’r cwestiynau ynghylch polisi trethu ehangach nad oedd hi’n bosibl rhoi sylw llawn iddynt o fewn cyfyngiadau ein hymchwil i sylfaen drethu Cymru y llynedd.  Yma, mae Hugo Bessis o ganolfan Centre for Cities yn ystyried effaith twf awtomeiddio a chau mannau adwerthu’r stryd fawr ar refeniw treth incwm ac ardrethi busnes yn y drefn honno. Mae’n amlygu bod angen hyrwyddo swyddi y mae’n debygol y bydd mwy o alw amdanynt yn y dyfodol a’r angen am gefnogi canol dinasoedd i esblygu.

Mae datganoli cyllid yn dod â chyfleoedd mawr i gryfhau ymreolaeth leol a gwella twf economaidd ac mae’r chwant am ddatganoli’n gryf ar draws y llywodraeth; tra mae San Steffan yn gweithio ar ddatganoli ardrethi busnes ymhellach i awdurdodau lleol, bydd gan Gymru reolaeth rannol dros dreth incwm o fis Ebrill eleni.

Ond mae twf awtomeiddio a dirywiad y sector adwerthu ill dau yn codi cwestiynau am gynaladwyedd datganoli’r ddwy ffrwd drethi hyn, gan gynnwys pryderon mai gwanhau yn hytrach na chefnogi cyllid lleol y bydd datganoli yn y pen draw. Drwy lwc, mae dealltwriaeth o’r tueddiadau economaidd sylfaenol sydd ar waith yn awgrymu nad gostyngiad mewn refeniw trethi fydd canlyniad y newidiadau hyn, ond i’r polisïau twf cywir gael eu rhoi yn eu lle.

 

Diwedd gwaith?

Nid dyma’r tro cyntaf mewn hanes i newid technolegol effeithio ar natur gwaith. Mae llawer o swyddi a oedd yn gyffredin ganrif yn ôl – fel gweision, negeseuwyr a gweithwyr golchdai – bron wedi diflannu bellach o ganlyniad i awtomeiddio. Eto mae cyfanswm nifer y swyddi wedi parhau i gynyddu dros y ganrif.

Yn hytrach, yr hyn sydd wedi newid ac sy’n debygol o newid yn y dyfodol yw’r math o waith rydym ei wneud. Mae awtomeiddio wedi gwneud i nifer o swyddi llai crefftus fod yn ddiangen, ond hefyd mae wedi cryfhau a chynyddu’r angen am sgiliau dadansoddol, creadigol a rhyngbersonol. Mae hyn yn golygu nad gwasgu nifer y swyddi sydd ar gael o gwbl y mae awtomeiddio (ac felly gwasgu’r refeniw treth incwm), ond yn hytrach newid y math o waith rydym yn ei wneud, drwy symud gweithwyr tuag i fyny ar y gadwyn gynhyrchu.

Yn amlwg, mae canolbwyntio ar ddarparu’r amodau cywir i greu ac i ddenu’r swyddi newydd hynny yn allweddol er mwyn cynnal a chynyddu refeniw o dreth incwm. Rydym yn gwybod bod y swyddi sy’n gallu gwrthsefyll awtomeiddio orau ar hyn o bryd (ac yn ôl pob tebyg, swyddi newydd yn y dyfodol) yn rhai medrus iawn. Mae hyn yn golygu bod rhaid gosod rhaglenni addysg a hyfforddiant priodol yn eu lle i wella sgiliau’r gweithlu lleol (gweler adroddiad WCPP ar Ddyfodol Gwaith a Dilyniant Swyddi). Bydd hyn yn cyfrannu i greu’r amodau cywir i ddenu swyddi newydd ac i gynhyrchu refeniw trethi newydd.

 

Diwedd canol dinasoedd?

Ond nid stori am sgiliau yn unig yw hon. Mae’r gweithgareddau hyn sy’n fedrus iawn, ac yn ddwys eu gwybodaeth, yn fwy cynhyrchiol yng nghanol dinasoedd, lle maen nhw’n manteisio ar fod yn agos at ddiwydiannau tebyg, rhywbeth sydd yn ei dro yn eu cymell i fod yn arloesol. Ac mae’r ffordd y mae’r busnesau hyn yn ffafrio lleoliad yng nghanol dinas wedi cryfhau yn ystod y blynyddoedd diweddar. Felly er mwyn denu’r swyddi newydd hynny, rhaid i ganol dinasoedd ddarparu’r “ecosystem” y mae’r cwmnïau hyn yn chwilio amdano. Mae hyn yn cynnwys bod â mynediad i weithlu medrus, wrth gwrs, ond hefyd datblygu dwyster trefol, cysylltiadau trafnidiaeth da a sylfaen o swyddfeydd o ansawdd uchel.

Yn allweddol, bydd gwneud hynny’n cefnogi gwasanaethau lleol y stryd fawr hefyd. Mae ymchwil gan ganolfan Centre for Cities yn dangos mai 9 y cant yn unig o eiddo adwerthu, bwyd a hamdden a oedd yn wag yng nghanol dinasoedd llwyddiannus yn economaidd – y rhai a oedd yn gallu denu gweithwyr medrus iawn. I’r gwrthwyneb, roedd cyfraddau gwacter yn 16 y cant ar gyfartaledd yn y canol dinasoedd gwannaf yn economaidd. Mae hyn oherwydd bod swyddi mewn swyddfeydd yn cynhyrchu mwy o ymwelwyr – sy’n hanfodol er mwyn i strydoedd mawr oroesi. Ac oherwydd bod gweithwyr medrus iawn yn tueddu i gael cyflogau uwch, mae’r galw am wasanaethau lleol yn cael ei gryfhau ymhellach.

Dydy hyn ddim yn golygu na fydd newidiadau yn y stryd fawr. Wrth i siopau wynebu mwy o gostau a chystadleuaeth gan siopa ar-lein, mae wyneb y stryd fawr yn debygol o esblygu yn y dyfodol. Mae’r newidiadau hyn i’w gweld yn barod mewn canol dinasoedd llwyddiannus, gyda chyfran fwy o’r arwynebedd llawr wedi’i neilltuo i weithgareddau hamdden a bwyd, fel bwytai a bariau (y mae presenoldeb ffisegol, lleoliad da ac eiddo o safon yn dal i fod yn bwysig iawn iddynt) o’u cymharu â chanol dinasoedd gwan.

Awgryma hyn fod canol dinasoedd yn esblygu – maen nhw’n mynd i ganolbwyntio llai ar adwerthu a mwy ar wybodaeth a hamdden. Efallai fod dirywiad adwerthu’n anochel, ond dydy hyn ddim yn nodi diwedd canol dinasoedd fel mannau i weithio, i gwrdd ac i gymdeithasu, na diwedd eu gallu i gynhyrchu refeniw trethi arwyddocaol. Bydd dinasoedd sy’n llwyddo i ailddyfeisio economi canol eu dinas yn dal i allu cynhyrchu ardrethi busnes: bydd yr eiddo’n dal i gael ei feddiannu, ond efallai y bydd gweithgarwch y meddiannydd yn newid ar hyd y daith.

 

Codi trethu yn economi’r dyfodol

Ar y cyfan, does dim rheswm i feddwl bod awtomeiddio a dirywiad adwerthu’n bygwth refeniw trethi. Yr hyn sy’n newid yw y bydd refeniw yn dod o ffynonellau gwahanol – swyddi gwahanol yn achos treth incwm, a mathau gwahanol o fusnesau ar gyfer ardrethi busnes. Wedi dweud hynny, mae natur newidiol yr economi’n golygu bod mwy o angen diwygio’r system gyfredol, yn enwedig ardrethi busnes, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd angen i wneuthurwyr polisi ei ystyried.

Ond fel blaenoriaeth, rhaid i bolisïau yng Nghymru annog a chefnogi’r newidiadau economaidd sydd i’w gweld ledled y wlad. Yn benodol, dylai ymyriadau fod yn rhai sy’n seiliedig ar bobl (yn addysgu’r sgiliau y bydd eu hangen ar fusnesau) ac yn seiliedig ar leoedd (yn canolbwyntio ar wella canol dinasoedd mwyaf Cymru fel y gallan nhw ddarparu’r amgylchedd adeiledig priodol i’r cwmnïau hyn). Bydd cyflawni hyn yn sicrhau y gall Cymru ddiogelu sylfaen trethi cadarn a thyfu economi hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

 

Llun: William Murphy (CC BY-SA 2.0)