Sut mae mynd i’r afael ag unigrwydd? Tystiolaeth ar amddifadedd a chymunedau gwahanol

Dyma’r trydydd mewn cyfres blog tair rhan ar unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru.

Yma, mae Suzanna Nesom yn trafod sut y gellid mynd i’r afael ag unigrwydd yn achos pobl ag amddifadedd materol ac mewn cymunedau gwahanol, o gofio’r dystiolaeth sydd ar gael.

Mae’r gyfres hon o flogiau wedi bod yn archwilio’r hyn sy’n hysbys am unigrwydd yng Nghymru a’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am fynd i’r afael ag unigrwydd, cyn lansio Strategaeth Unigrwydd Llywodraeth Cymru. Nododd Rhan Un mai pobl ifanc a’r rhai sy’n dioddef o amddifadedd materol yw’r grwpiau sydd fwyaf tebygol o fod yn unig, ac roedd Rhan Dau yn trafod ffyrdd addawol o fynd i’r afael ag unigrwydd pobl iau a phobl hŷn. Mae’r erthygl hon yn sôn am ffyrdd o leihau unigrwydd ar gyfer pobl sy’n dioddef o amddifadedd materol. Trafodir ymyriadau gwahanol ar gyfer cymunedau gwahanol hefyd, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu rhywfaint o gysylltiad rhwng unigrwydd a lle’r ydych yn byw.

Mynd i’r Afael ag Unigrwydd Oherwydd Amddifadedd Materol

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod dros draean o bobl a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru fel rhai nad ydynt yn gallu cyrchu nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau, yn ystyried eu bod nhw eu hunain yn unig. Er gwaethaf hyn, nid oes fawr dim tystiolaeth, os o gwbl, ar ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd i’r bobl hyn. Mae’n debyg mai’r rheswm dros hyn yw bod unigrwydd, yn hanesyddol, wedi cael ei weld fel problem henaint, yn hytrach nag yn statws cymdeithasol-economaidd; sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r ymdrechion i fynd i’r afael ag unigrwydd wedi canolbwyntio ar bobl hŷn.

Fodd bynnag, gan fod rhai pobl yn cyfeirio at gysylltiad rhwng amddifadedd materol a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, efallai bod y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch mynd i’r afael ag unigrwydd i bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus yn berthnasol. Yma, daw peth tystiolaeth addawol o  rhagnodi cymdeithasol , sy’n cysylltu cleifion meddygon teulu gyda chyfleusterau anfeddygol sy’n darparu cymorth cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol. Er ei bod yn addawol, mae angen mwy o dystiolaeth am y cysylltiad rhwng rhagnodi cymdeithasol a lleihau unigrwydd cyn iddo lywio polisi.

Yn ddiddorol, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn, ond mae’n annhebygol y byddant yn effeithio ar Strategaeth Unigrwydd Llywodraeth Cymru.

Mynd i’r afael ag Unigrwydd mewn ardaloedd Trefol

Er bod tystiolaeth nad oes unrhyw gysylltiad cyson rhwng ble mae rhywun yn byw a’i debygolrwydd o fod yn unig, mae rhai syniadau diddorol ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwahanol. Ar gyfer ardaloedd trefol, mae un ffordd a awgrymir o fynd i’r afael ag unigrwydd yn cynnwys troi dinasoedd yn ‘ddinasoedd y gellir byw ynddynt’.

I wneuthurwyr polisi, mae hyn yn golygu llunio polisi sy’n rhoi sylw i ansawdd bywyd. Mae ymyriad Transport for London, Healthy Streets Approach yn gwneud hyn drwy osod pobl a’u hiechyd yn ganolog i wneud polisïau er mwyn newid y canolbwynt ar greu strydoedd sy’n ddymunol, yn ddiogel, ac yn ddeniadol. Mae cefnogwyr y dull hwn yn awgrymu y caiff hyn effaith gadarnhaol ar leihau unigrwydd, wrth i hwyluso ymgysylltu cymdeithasol ddod yn flaenoriaeth yn nyluniadau strydoedd. Er nad yw hyn wedi’i roi ar waith, mae’n syniad addawol a fyddai’n elwa pe bai rhagor o dystiolaeth ar gael.

Mynd i’r afael ag Unigrwydd mewn Ardaloedd Gwledig

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer lleihau unigrwydd mewn cymunedau gwledig, ond gan fod gan ddim ond 57% o eiddo yng nghefn gwlad Cymru seilwaith band eang ffibr, gallai mentrau sy’n defnyddio technoleg a chysylltedd i leihau unigrwydd fod yn berthnasol.

Mae llawer o’r ymchwil hwn yn gweld bod defnyddio technoleg yn gallu lliniaru unigrwydd, yn enwedig i bobl hŷn. Mae’r ymyriadau hyn naill ai’n ymwneud â chysylltu pobl â’r rhyngrwyd neu â defnyddio technoleg i helpu rhyngweithio. Mae enghreifftiau o’r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys defnyddio robotiaid mewn gofal henoed sy’n gallu efelychu rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid, yn ogystal â chyrsiau ar sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu apiau ar y we.

Fodd bynnag, gall technoleg atgyfnerthu ymdeimlad o unigrwydd neu arwahanrwydd os na chaiff ei weithredu’n ofalus. Rhaid i ymyriadau sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio’r dechnoleg hon yn unol â’r ffordd a fwriadwyd. Hefyd mae ystyriaethau moesegol a moesol o ran ymdrin ag unigrwydd drwy dechnoleg gan fod modd ei weld yn rhywbeth sy’n disodli rhyngweithio dynol, yn hytrach nag yn gymorth ychwanegol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd unigrwydd yn parhau i ddenu diddordeb llunwyr polisïau yn y DU, yn enwedig yng Nghymru gyda rhyddhau’r Strategaeth Unigrwydd erbyn Mawrth 2019. Bydd y ganolfan What Works Centre for Wellbeing hefyd yn parhau i weithio ar unigrwydd gan ymchwilio i’w gysylltiad â lles trwy gydol oes, ac archwilio cyfraniad gwirfoddoli a dulliau seiliedig ar le wrth leihau unigrwydd.