Sut gallwn ni alluogi dilyniant swyddi mewn sectorau tâl isel?

Nid yw’r gwerth y mae sectorau megis gofal, manwerthu a bwyd yn ei ychwanegu at economi Cymru yn cael ei gydnabod yn gyffredinol ym mhecynnau pae mwyafrif llethol eu gweithluoedd.  Mae llawer o weithwyr yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ac mae ennill profiad a hyfforddiant i symud ymlaen y tu hwnt i swyddi lefel mynediad i swyddi â thâl gwell yn gallu bod yn arbennig o heriol yn y sectorau hyn.

Mae galluogi dilyniant mewn swydd wedi dod i’r amlwg fel blaenoriaeth polisi cyson ar draws llawer o’n haseiniadau diweddar, a hynny o ran lleihau tlodi, twf economaidd a dyfodol gwaith a sgiliau. Fel rhan o’n gwaith cyfredol ar ddilyniant mewn swyddi mewn sectorau tâl isel, cynhaliwyd symposiwm yn mis Gorffennaf 2018 i gasglu gwybodaeth gan ymgynghorwyr gyrfaoedd, darparwyr hyfforddiant, academyddion, cyflogwyr a swyddogion polisi.

Bydd yr hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn yn cyfoethogi’r adolygiad o dystiolaeth yr ydym yn ei gynnal ar hyn o bryd. Ar ôl cymryd stoc o’r trafodaethau yn y symposiwm, dyma thri sylw ar unwaith o’r diwrnod:

Yr angen am gefnogaeth barhaus

Fel y mae ein gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos, mae byd gwaith yn esblygu’n gyflym. Yn ystod y deng mlynedd nesaf, bydd newid sylweddol yn y math o waith a gyflawnir yn y sectorau tâl isel. Mae cynnig dysgu i oedolion i bobl yn barhaus ar hyd eu bywydau yn hanfodol i’w galluogi i gadw i fyny gyda newidiadau a ffynnu yng ngweithleoedd y dyfodol.

Mae dysgu gydol oes yn bwysig i alluogi pobl i symud i fyny ac i mewn i swyddi newydd gyda’u cyflogwyr (‘dilyniant fertigol’ fel y’i gelwir), ac i gefnogi pobl i sicrhau’r sgiliau perthnasol sy’n eu galluogi i symud yn ‘llorweddol’ i alwedigaethau a sectorau eraill twf uchel.

Mabwysiadu ymagwedd sectoraidd

Er bod rhai o’r heriau mae sectorau tâl isel yn eu hwynebu (fel lefelau isel o gadw’r gweithlu)yn gyffredinol, mae gwahanol sectorau yn wynebu heriau penodol o ran prinder sgiliau a chynhyrchiant.

Mae’r ddealltwriaeth arbenigol a gafwyd ar y diwrnod a’r dystiolaeth rydyn ni’n edrych arni yn awgrymu mai dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y sector sy’n gweithio orau.  Mae hyn yn golygu y dylai mentrau dilyniant mewn swyddi gael eu llunio mewn modd unigryw i ymateb i anghenion cyflogwyr a chyflogeion sector.  Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr nodi ble mae prinder sgiliau, ac yna gweithio gyda darparwyr hyfforddiant a chyflogeion i ddatblygu cynlluniau dilyniant mewn swyddi sy’n diwallu eu hanghenion sgiliau. Ar yr un pryd, dylai cyflogeion gael cynnig llwybr ystyrlon i symud ymlaen i waith mwy cynaliadwy, boddhaol, sy’n talu’n well, ar sail caffael sgiliau newydd.

Cyfleu manteision dilyniant

Mae’n hanfodol annog cyflogwyr i gefnogi dilyniant mewn swyddi.  Mae’r dystiolaeth yr ydym wedi bod yn ei hadolygu yn dangos bod manteision clir pan fydd cyflogwyr yn cynnwys dilyniant mewn swydd – cynnydd mewn cynhyrchiant, mwy o debygolrwydd o gadw’r gweithlu a rhagolygon twf gwell yw rhai yn unig o’r manteision cysylltiedig.

Roedd y trafodaethau yn ein symposiwm yn awgrymu bod angen gwneud mwy i gyfleu manteision dilyniant mewn swyddi i gyflogwyr yng Nghymru ac i sicrhau eu cefnogaeth ar gyfer mentrau dilyniant mewn swyddi.

Ein gwaith yn y dyfodol

Ategodd ein Symposiwm bwysigrwydd dilyniant mewn swyddi; a hynny ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr yn y sectorau tâl isel, yn ogystal ag er mwyn cefnogi datblygiad economi Cymru. Bydd yr hyn a ddysgwyd ar y diwrnod yn cael ei fireinio ymhellach a’i ddefnyddio i greu adroddiad newydd, sydd i’w gyhoeddi ym mis Medi 2018.

 

Llun: Neil Moralee (CC BY-NC-ND 2.0)