Sut cyrhaeddon ni’r fan hon a sut gallwn ni adeiladu ar hynny?

Ledled Cymru mae trafodaeth fywiog ar iechyd economi Cymru a’i rhagolygon i’r dyfodol. Derbynnir yn gyffredinol nad yw perfformiad economi Cymru gystal â chyfartaledd y Deyrnas Unedig ac amrywiaeth o ranbarthau cymaradwy mewn mannau eraill yn Ewrop. Ond mae peth newyddion da. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae diweithdra wedi bod yn isel ac mae Cymru’n perfformio’n well na ‘rhanbarthau perifferol’ eraill ar fesurau megis Incwm Gros Gwariadwy Aelwyd fesul person a chyfoeth cyfartalog aelwydydd. Ond mae’r economi yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys lefelau cymharol isel o Werth Ychwanegol Gros (GVA), lefelau uwch o fod heb waith, canlyniadau iechyd gwaelach a chrynodiadau gofodol o dlodi ac amddifadedd lluosog. Mae’r ystadegau wedi bwydo naratifau sy’n cystadlu â’i gilydd ynghylch economi Cymru. Mae rhai economyddion yn dadlau ei bod yn perfformio cystal â’r disgwyl o ystyried yr hyn a ddaeth i ran Cymru. Mae eraill yn dadlau y dylai, ac y gallai, wneud yn llawer gwell.

Er mwyn deall beth sydd y tu ôl i’r data economaidd a’r gwahanol ddehongliadau ohono, mae’n werth ystyried sut mae etifeddiaeth y gorffennol wedi ffurfio economi Cymru heddiw. Yn y blog hwn rydym yn nodi saith digwyddiad gwahanol, y mae pob un ohonynt wedi gadael ôl parhaol ar Gymru, gan ffurfio cyflwr presennol yr economi, ond hefyd gan fwrw cysgod dros lwybrau datblygu posibl i’r dyfodol.

Yn aml diystyrir cyfnod rhag-ddiwydiannol economi Cymru. Mae dadansoddwyr y cyfnod hwn yn gwahaniaethu rhwng yr economïau gwledig oedd yn bodoli ar dir ffrwythlon yr arfordir a’r rhai ar ucheldir Cymru. Maent yn pwysleisio pwysigrwydd hanesyddol cysylltiadau masnach cryf â marchnadoedd Lloegr (yr oedd Porthmyn Cymru’n symbol ohonynt i lawer). Fel mewn llawer rhan o’r Deyrnas Unedig ar y pryd, roedd perchnogaeth ar dir wedi’i grynhoi yn nwylo grŵp bach o’r elît, yr oedd llawer ohonynt yn byw y tu allan i Gymru. Roedd amodau byw llawer o’r boblogaeth yn fregus, fel y gwelir o’r terfysgoedd rheolaidd i brotestio oherwydd diffyg bwyd ac allforio’r ychydig oedd ar gael, ac ar ddechrau’r 18fed Ganrif gwelwyd ton gynyddol o brotestiadau cymdeithasol oedd yn cynnwys Merched Beca, Mudiad y Siartwyr a Gwrthryfel Casnewydd.

Yn y 19eg Ganrif gwelwyd yr ail bennod yn hanes economi Cymru, a ddaeth yn drwm o dan ddylanwad cloddio am lo, chwarela a chynhyrchu haearn. Bu’r diwydiannau hyn, oedd yn annatod glwm wrth dwf yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yn unig yn dylanwadu ar economi Cymru, ond hefyd ar batrwm aneddiadau’r wlad. Sbardunwyd twf sydyn porthladdoedd Abertawe a Chaerdydd, a’r dociau yn y Barri, gan yr angen am allforio allbwn diwydiannol de Cymru i bellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Hefyd gwelwyd trefi newydd yn cael eu geni ar draws Cymoedd de Cymru, yn gartref i weithlu’r gweithiau glo a haearn, lle bu trefi Cymru yn y gorffennol wedi’u cyfyngu i raddau helaeth i arfordir ffrwythlon y de neu’r ardal o amgylch ceyrydd Edward 1af yn y gogledd (Dimmock, 2005). Yn yr un modd, yng ngorllewin Cymru, sbardunodd agor y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro, yn 1814, dwf tref newydd ar gyrion hen anheddiad Penfro.

Gyda throad yr ugeinfed ganrif, gwelwyd arwyddion cyntaf dirywiad conglfeini diwydiannol economi Cymru. Wrth i’r gystadleuaeth gynyddu ac i’r marchnadoedd traddodiadol golli tir, daeth diwydiannau Cymru’n llai cystadleuol. Gadawodd gwladoli rhai sectorau diwydiannol allweddol yn y 1940au a’r 1950au ei ôl ar ddiwylliant gwleidyddol Cymru. Ond nid glo a dur yn unig oedd yn rhan o’r economi, dyma oedd oes y cwmni mawr a mewnfuddsoddi o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Yn sgîl buddsoddiadau sylweddol gan gwmnïau fel Hotpoint, Ferodo a Courtaulds, cafwyd cyfleoedd cyflogaeth newydd i ddynion a hefyd, yn gynyddol, i fenywod.

Yn y 1970au a’r 1980au gwelwyd pedwaredd bennod economaidd Cymru, dan gwmwl dad-ddiwydiannu. Arweiniodd cystadleuaeth fyd-eang a gostyngiad yng nghymorth y wladwriaeth i ddiwydiannau traddodiadol at don ar ôl ton o ddiswyddiadau a chau gweithfeydd. O ddiswyddo 6,500 o weithwyr ar un diwrnod yng Ngwaith Dur Shotton yn 1970, hyd at gau pyllau glo a fu gynt yn llewyrchus, cafodd economi Cymru ei hergydio gan wyntoedd newid economaidd. Ceisiodd polisi diwydiannol ddenu cwmnïau newydd, fel Sony a Panasonic, ac adleolwyd cyflogwyr sector cyhoeddus i Gymru. Yn sgîl hyn etifeddodd Cymru lefelau isel o entrepreneuriaeth, ymhlith gweithlu oedd yn fwy cyfarwydd â gweithio i gyflogwyr mawr, gostyngiad yn lefelau GVA wrth i ddiwydiannau dwys o ran cyfalaf gyda lefelau uchel o gynhyrchiant y pen dorri’n ôl a chau, a dibyniaeth ar swyddi sector cyhoeddus. Ac eto, mae’r cwmnïau hynny sy’n dal yma yn darparu sylfaen o weithgaredd gweithgynhyrchu medrus.

Gwelwyd dirywiad economaidd pellach yn ystod y 1980au a’r 1990au, ond bu hefyd adfywio ac ailddatblygu. Caeodd pyllau glo a ffatrïoedd, gydag effeithiau trychinebus ar gymunedau lleol. Lansiwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn 1987, gyda’r dasg o adfywio dociau adfeiliedig Bae Caerdydd a’r ardal o amgylch. Yn 1999, rhoddwyd statws ‘Amcan 1’ i Orllewin Cymru a’r Cymoedd gan yr UE, ac mae’r ardal wedi cadw’r statws hwnnw hyd heddiw. Cychwynnodd Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), a sefydlwyd yn 1976, ar raglenni sylweddol o adennill tir, darparu ffatrïoedd ymlaen llaw, a denu buddsoddiadau tramor, a ffurfiodd dirlun diwydiannol Cymru. Aethpwyd ar ôl polisi mewnfuddsoddi yn arbennig o egnïol, gan arwain at gyhuddiadau diweddarach bod Cymru’n troi’n economi ‘gweithfeydd cangen’.

Yn sgîl datganoli yn 1999 cafodd Cymru fwy o reolaeth ar ddatblygu economaidd, a digwyddodd hynny ar yr un pryd â dechrau dull gweithredu newydd oedd yn pwysleisio arloesedd, entrepreneuriaeth a datblygiad yr economi wasanaeth. Medodd Caerdydd lawer o fanteision y dull gweithredu newydd hwn, ac mae’r ddinas wedi denu buddsoddiadau a llafur. Ar ddechrau’r 21ain ganrif, hi oedd un o’r dinasoedd oedd yn tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, ac roedd yn cynnwys cyfran uwch o gwmnïau twf uchel nag unrhyw ddinas ‘greiddiol’ arall yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae rhannau eraill o Gymru wedi cael trafferth sicrhau gweithgaredd cyfatebol, ac mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn dal yn un o ardaloedd economaidd mwyaf difreintiedig Ewrop. Mae hyn wedi peri i ymchwilwyr awgrymu, er bod Cymru o bosib wedi cael rhywfaint o ryddid i wneud ei phenderfyniadau economaidd ei hun, nad yw eto’n hunan-ddibynnol yn economaidd.

Bu cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd symud tuag at economi fwy cynaliadwy, ac ers i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol ddod i rym yn 2015, mae dyletswydd statudol ar weinidogion Llywodraeth Cymru i hybu datblygu cynaliadwy, yn awr ac i’r dyfodol. Mae hyn yn ein harwain at ddechrau seithfed pennod bosibl i economi Cymru, un sydd wedi’i seiliio ar ddadgarboneiddio ac sy’n pwysleisio gweithgarwch lleol ar ffurf economi ‘sylfaenu’.  Mae’r broses o lunio strategaeth economaidd hefyd yn cael ei datganoli, wrth i ddwy ‘fargen-dinas’ a dwy ‘fargen-twf’ gael eu cytuno, a chreu rhanbarth economaidd ‘Arfor’ newydd, sy’n arwydd o gydnabod sut gallai polisïau economaidd gefnogi amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach, yn hytrach nag fel arall.

Fel unrhyw lyfr da, bydd pennod nesaf economi Cymru yn adeiladu ar yr hyn a welwyd eisoes, ond nid oes rhaid iddi fod dan ddylanwad y gorffennol. Gall polisi cyhoeddus chwarae rôl bwysig wrth lunio cyfeiriadau newydd sy’n cofleidio treftadaeth a photensial Cymru. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae polisïau economaidd wedi cael eu clymu wrth lwybrau a dulliau gweithredu sydd eisoes ar waith. Wrth lunio pennod nesaf datblygiad economaidd Cymru mae angen i ni greu naratif newydd a llwybrau newydd sy’n hyrwyddo’r gwerthoedd sy’n bwysig i’w phobl, yn hytrach na chopïo dulliau gweithredu mannau eraill. Mae hon yn her bwysig a rennir, a bydd gofyn bod y llywodraeth, busnes a chymunedau lleol yn fentrus ac yn meddwl mewn ffordd newydd.