Sut byddwn ni’n cyllido gofal cymdeithasol?

Mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos, yn fwy nag erioed, bwysigrwydd cyllido gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn poeni am eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, talu cyflog teg i weithwyr gofal a sicrhau marchnad ofal sefydlog o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol. Mae ymateb i bandemig y Coronafeirws wedi rhoi pwysau cost ychwanegol ar ofal cymdeithasol, gan roi mwy o straen ar gyllidebau a chynyddu’r risg o fethu â bodloni anghenion a darparwyr yn tynnu allan o farchnadoedd gofal sydd eisoes yn fregus.

Nid yw trafodaethau am gyllido gofal cymdeithasol ac ymrwymiadau i fynd i’r afael â hyn yn newydd. Mae nifer o gomisiynau, ymgynghoriadau, papurau gwyn a phapurau gwyrdd wedi’u datblygu dros y blynyddoedd yn archwilio cyfleoedd a gwneud argymhellion. Roedd hyn yn un o brif bynciau trafod Etholiad Cyffredinol 2019 a honnodd y llywodraeth mai un o’r blaenoriaethau ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf oedd ‘cychwyn trafodaethau trawsbleidiol i ddod o hyd i ateb parhaol i’r her gofal cymdeithasol’. Fodd bynnag, nid oes datrysiad i gyllid gofal cymdeithasol wedi dod i’r amlwg eto. Er bod cyfrifoldeb polisi wedi’i ddirprwyo, gellid dadlau bod y gallu i ymateb yn ddigonol yn nwylo San Steffan, a bydd gan benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yno oblygiadau i Lywodraeth Cymru.

Mae trafodaethau ynghylch cyllid gofal cymdeithasol yn gymhleth ac yn canolbwyntio ar dri chwestiwn rhyng-gysylltiedig; beth ddylai fod gan unigolion hawl iddo, sut dylid codi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a sut dylai’r cyllid lifo.

 

Beth ddylai fod gan unigolion hawl iddo?

Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd yn isel o hyd ynghylch beth yw gofal cymdeithasol a faint mae’n costio, gyda llawer yn tybio bod gofal cymdeithasol am ddim, yn yr un modd â gofal iechyd. Yn y system bresennol, yng Nghymru a Lloegr, mae’r hawl i ofal cymdeithasol yn seiliedig ar brawf modd, gyda disgwyl i’r rheini sy’n gallu fforddio gwneud hynny dalu tuag at eu gofal. Mae gofal cymdeithasol yn fater sydd wedi’i ddatganoli ac mae’r hawl i ofal yn amrywio; mae gofal personol am ddim ar gael i oedolion yn yr Alban, ac yng Nghymru gall pobl gadw hyd at £50,000 o’u cynilion neu gyfalaf arall heb eu defnyddio i dalu am ofal preswyl, o gymharu â £23,250 yn Lloegr. Hefyd, yng Nghymru, mae cap ar y swm y bydd person yn ei dalu am ofal yn ei gartref.

Yn 2011 cynigiodd Comisiwn Dilnot newidiadau i wneud y system prawf modd bresennol yn fwy hael, gan alw am gap o £35,000 ar gostau gofal. Byddai hyn yn ceisio sicrhau nad oes yn rhaid i unigolion dalu symiau mawr o arian am eu gofal. Mae eraill, fel y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi dadlau dros fodel gofal cymdeithasol sydd ‘am ddim ar y pwynt angen’, wedi’i alinio â’r model o ofal iechyd am ddim. Byddai hyn yn ddrutach ond yn cynyddu mynediad at ofal am ddim ac yn gwaredu’r anghyfartaledd rhwng a’r rhwystrau i integreiddio ein systemau iechyd a gofal.

 

Sut dylid codi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol?

Mae arbenigwyr yn cytuno bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i sicrhau bod gofal cymdeithasol o ansawdd ar gael i’r rheini sydd ei angen. Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio a niferoedd cynyddol o bobl ag anghenion gofal a chymorth parhaus, sy’n peri heriau go iawn o ran sicrhau system gynaliadwy o ofal. Mae ymchwil gan y Sefydliad Iechyd yn 2016 yn amcangyfrif y byddai cyllido’r pwysau gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru yn llawn yn gofyn am £2.3 biliwn erbyn 2030/31, o gymharu ag £1.3 biliwn yn 2015/16. Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i ddylunio system a fydd yn diwallu anghenion gofal cymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol, ac mae wedi sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol i archwilio’r opsiynau ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru.  Mae Adroddiad Holtham yn archwilio’r defnydd o bwerau trethiant newydd yng Nghymru i gyflwyno ardoll treth gofal cymdeithasol. Mae ein gwaith ar y sylfaen drethu yng Nghymru wedi dangos bod y refeniw a gynhyrchir o gyflwyno trethi newydd yn debygol o fod yn gymharol fach.

Mae cyflwyno treth gofal cymdeithasol i godi refeniw ychwanegol wedi’i drafod yn San Steffan, lle mae ASau wedi galw am gyflwyno ‘Premiwm Gofal Cymdeithasol’. Mae rhai yn dadlau y dylai cyllid sy’n cael ei godi drwy dreth gael ei glustnodi neu ei neilltuo, ond mae hyn yn peri nifer o heriau, nid lleiaf yr ansicrwydd posibl, oherwydd bydd unrhyw gymeriant yn codi a gostwng gyda’r economi. Mae ymchwil yn awgrymu bod cefnogaeth gyhoeddus i ddull cyfunol o gyllido gofal cymdeithasol sy’n deg ac yn cyfateb i sut y codir cyllid ar gyfer y GIG.

Mae eraill wedi dadlau dros systemau sy’n seiliedig ar yswiriant sy’n debyg i’n dull gweithredu gyda phensiynau. Mae enghreifftiau rhyngwladol o gynlluniau yswiriant cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau o lwyddiant, gan gynnwys Japan a’r Almaen. Yn yr Almaen, er enghraifft, maent yn gweithredu cynllun yswiriant cymdeithasol ‘cyfuno risg’ gorfodol cenedlaethol. Yn Japan, mae’r system wedi’i disgrifio fel ‘cyfuniad o yswiriant cymdeithasol, trethiant a chyd-dalu’ ac mae’n cael ei chyllido drwy gyfuniad o dreth cyflogres i bobl dros 40, cyfraniadau pensiynwyr a threthiant cyffredinol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu eu bod wedi sbarduno’r farchnad gofal cymdeithasol, cynyddu dewis a chyfuno risg. Maent hefyd yn cynnig incwm cymharol sefydlog a hyblyg, er bod y cymysgeddau cyllido’n gymhleth. Fodd bynnag, mae pwysau poblogaeth a chostau yn dal i gynyddu, mae yna ddiffygion yn y gweithlu, ac mae dibyniaeth fawr ar ofalwyr anffurfiol. Ymhellach, roedd diwygio yn broses hir ac anodd yn y ddwy wlad, er gwaethaf consensws gwleidyddol a chymdeithasol cryf oedd yn cefnogi’r athroniaeth yswiriant cymdeithasol.

 

Sut dylai’r cyllid lifo?

Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu bregusrwydd y system gofal cymdeithasol, ynghyd â’r anghyfartalwch rhwng gofal cymdeithasol a’r system gofal iechyd a’r angen am ddatrysiad cyllido cynaliadwy. Mae cyllid brys wedi’i roi ar gael, sy’n cydnabod y costau cynyddol y mae darparwyr yn eu hwynebu mewn ymateb i’r argyfwng, fel darparu ar gyfer absenoldeb staff a chyflenwi cyfarpar diogelu personol. Ond roedd gofal cymdeithasol o dan straen cyn y pandemig ac mae angen datrysiad hirdymor sy’n cydnabod y bwlch rhwng ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae galwadau wedi’u gwneud am fwy o alinio rhwng cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft gan Gomisiwn Barker yn 2014 a gynigiodd un system iechyd a gofal cymdeithasol gyda chyllideb wedi’i chlustnodi.

Mae’r rhain yn gwestiynau anodd, ond mae her mor bwysig â hon – i Gymru yn ogystal â San Steffan – yn galw am atebion cadarn a manwl.  Roedd hyn yn flaenoriaeth frys cyn pandemig y Coronafeirws ac nid yw’r argyfwng ond wedi prysuro hyn.