Sut all llywodraethau gwella gwaith trawsbynciol?

Mae gwaith trawsbynciol- hynny yw, yr hyn sydd angen i sicrhau bod adrannau a gwasanaethau gwahanol yn gweithio yn effeithiol gyda’i gilydd – yn her barhaus i bob llywodraeth, hyd yn oed un cymharol fach fel Llywodraeth Cymru. Y llynedd, cawsom ni ein comisiynu gan Brif Weinidog Cymru i ddod â thystiolaeth am waith trawsbynciol ynghyd; ac mae ein hadroddiad diweddaraf, Gwella Gwaith Trawsbynciol, yn crynhoi prif ganfyddiadau ein hymchwil, yn ogystal â phwyntiau allweddol seminar a gynhalion gydag aelodau uwch Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr allanol. (Cyhoeddon ni myfyrdodau un o’n harbenigwyr, yr Athro Colin Talbot, ar ein gwefan fis Mawrth.)

Tro ar ôl tro, mae’r gwaith ymchwil yn dangos bod angen y canlynol er mwyn sicrhau gwaith trawsbynciol llwyddiannus:

  • Nodau sydd wedi’u datgan yn glir ac y mae pawb yn cytuno arnynt:
  • Cymorth gwleidyddol lefel uchel;
  • Cefnogaeth uwch-swyddogion;
  • Ymrwymiad unigolion allweddol yn yr asiantaethau neu’r adrannau sydd angen cydweithio; a
  • Digon o adnoddau – amser, arian a chapasiti.

Ond mae’n bwysig cofio nad yw gwaith trawsbynciol, yn enwedig yn ei ffurfiau mwyaf uchelgeisiol, yn ateb i bob problem, nac yn ateb sydyn chwaith. Mae’n mynd yn groes i’r ffordd mae gweithgarwch y llywodraeth yn cael ei drefnu fel arfer, ac weithiau mae rhesymau da iawn am gadw adrannau ar wahân – er enghraifft, i sicrhau atebolrwydd clir, neu i fanteisio ar arbenigrwydd. Felly, ein canfyddiad cyntaf yw y dylai llywodraethau fod yn eglur iawn am beth y maen nhw’n ceisio i gyflawni trwy hybu gwaith trawsbynciol,  ac yn cydnabod bod angen ymrwymiad sylweddol i’w gwireddu. Os nad ydyn nhw’n eglur am bwrpas gwaith trawsbynciol, nac yn fodlon darparu’r adnoddau rheolaethol a gwleidyddol sydd angen, mae’n debyg y byddai’n gallach peidio â cheisio gwneud newidiadau.

Ein hail ganfyddiad yw bod ystod eang o ddulliau gwaith trawsbynciol yn bodoli. Yn y prosiect hwn, dulliau llorweddol (ar draws adrannau) a strategol o ddatblygu polisi, yn hytrach na darparu gwasanaethau, oedd ein prif ddiddordeb. Mae’n bosib meddwl am y dulliau fel continwwm, sy’n amrywio o gydweithredu i lywodraeth gwbl gyfannol.

Fel rheol, po fwyaf eang a dwys yw’r gwaith trawsbynciol, y mwyaf yw’r potensial i amharu ar systemau, llwythi gwaith, cysylltiadau a diwylliannau sy’n bodoli’n barod, a’r mwyaf o adnoddau fydd eu hangen.

Yn drydydd, mae amrywiaeth o brosesau wedi cael eu defnyddio mewn gwaith trawsbynciol. Amlygodd ein hymchwil chewch o gategorïau eang, ac roedd y seminar yn gyfle i’w trin a’u trafod ymhellach. Mae gan bob categori fanteision ac anfanteision gwahanol: unwaith eto, mae’n rhaid i weinidogion a swyddogion benderfynu beth yw bwriad gwaith trawsbynciol er mwyn dewis y proses(au) mwyaf addas mewn cyd-destun arbennig.

Yn olaf, mae ein hymchwil, yn ogystal â’r drafodaeth yn ein seminar, yn awgrymu bod Cymru, fel gwlad fach gyda llywodraeth fach, yn meddu ar lawer o’r rhagofynion sydd eu hangen i wneud gwaith trawsbynciol effeithiol. Ond mae gwaith trawsbynciol yn golygu cyfaddawdu rhwng blaenoriaethau’r llywodraeth drwyddi draw a blaenoriaethau gweinidogion ac adrannau unigol, ac mae cynlluniau trawsbynciol yn dibynnu yn aml iawn ar gefnogaeth unigolion allweddol. Felly, mae’n bwysig deall cymhelliant unigolion a, hefyd, dod o hyd i ffyrdd o wreiddio gwaith trawsbynciol er mwyn iddo gael ei ystyried fel rhywbeth sy’n cael ei wneud fel mater o drefn.