Sgwrs ar Ddyfodol Cymru

Ar 18fed Medi 2020, ynghyd â staff WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru), cynhalion ni seminar ar y we lle y dadansoddodd Carwyn Jones AS (cyn Brif Weinidog Cymru), Auriol Miller (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru) a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) y llwybrau a’r blaenoriaethau a fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth a pholisïau’r wlad hon dros y degawd nesaf. Manteisiodd dros 300 o bobl o bob cwr o Gymru (a’r tu hwnt iddi, efallai) ar y cyfle i wrando ar y dadansoddi a holi’r panel wedyn trwy’r cadeirydd, y Dr Matthew Wall, Prifysgol Abertawe.

Penderfynon ni drefnu seminar ar ôl i bandemig y firws corona arwain at ohirio cynhadledd roedden ni’n gobeithio ei chynnal eleni yn sgîl llwyddiant y gynhadledd gyntaf am wleidyddiaeth a pholisïau Cymru a gynhalion ni ar y cyd â WISERD fis Mai 2019. ‘Cymru mewn oes na welwyd ei thebyg erioed’ oedd enw’r gynhadledd honno ac, erbyn hyn, bron 18 mis wedyn, mae’r enw hwnnw’n fwy perthnasol fyth, a dweud y lleiaf!   Roedden ni’n gwybod y pryd hynny y byddai cwestiynau sylfaenol am ddatganoli, perthynas llywodraethau â’i gilydd a threfn y deyrnas (neu ei hyfywedd, hyd yn oed) yn codi yn sgîl canu’n iach i Undeb Ewrop wrth i rym symud a newid yma yn absenoldeb fframweithiau cyffredinol Brwsel. Roedden ni’n gwybod mai’r newid hinsoddol fyddai’r prif anhawster byd-eang, efallai. Allen ni ddim rhagweld, wrth gwrs, y byddai pandemig byd-eang a chanddo ganlyniadau pellgyrhaeddol ar bob lefel i iechyd, yr economi a chysylltiadau cymdeithasol a gwleidyddol.

Yn ôl pob tebyg, felly, fyddwch chi ddim yn synnu mai’r tair thema hynny – anawsterau parhaus ymadael ag Undeb Ewrop, y newid hinsoddol a’r pandemig – oedd y rhan fwyaf o’r drafodaeth. Ac er y byddai pob thema’n codi cwestiynau hanfodol, gwelon ni’r modd y byddan nhw’n cydblethu i achosi problemau i Gymru dros y degawd nesaf.

Er enghraifft, mae cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru wedi cynyddu o achos y pandemig, yn rhannol. Gan fod llawer o’r ymatebion i’r firws – megis iechyd, addysg a llywodraeth leol – wedi’u datganoli, mae’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn fwy amlwg o dipyn bellach. Mae hynny’n berthnasol i hyder ac ymddiried pobl yn llywodraethau San Steffan a Chymru, nid dim ond i wahaniaethau statudol a sylweddol megis faint o bobl y cewch chi gwrdd â nhw a ble. Mae llawer o bobl o’r farn bod Llywodraeth Cymru wedi ymdopi’n well na llywodraethau eraill y deyrnas ac, yn llygaid rhai, mae’r ddadl dros annibyniaeth yn gryfach o ganlyniad – “Os gallwn ni wneud hynny, gallwn ni wneud rhagor.” Barn pobl eraill yw bod yr argyfwng wedi dangos gwerth cyfuno prosesau penderfynu datganoledig â grym ariannol cyfundrefn y wladwriaeth.

At hynny, mae sawl un – gan gynnwys aelodau ein panel – yn gweld Mesur y Farchnad Fewnol, sydd gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn rhan o broses bontio’r ymadael, yn fygythiad i ddatganoli am ei fod yn gadael i Lywodraeth San Steffan ehangu ei gweithgarwch yng Nghymru. O ganlyniad, mae rhai pobl wedi dod i’r casgliad bod hynny’n golygu na ddylai Cymru barhau’n rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Mae’r ddadl o blaid diddymu’r cyrff datganoledig a rhoi eu swyddogaethau yn ôl i San Steffan wedi codi stêm hefyd, fodd bynnag. Mae hynny wedi digwydd yn rhannol o achos y gwahaniaethau ‘dryslyd’ rhwng ymatebion Cymru a Lloegr i’r pandemig ac, yn rhannol, oherwydd llwyddiant neges Llywodraeth San Steffan sy’n honni ei bod yn bwrw ymlaen â’r ymadael ag Undeb Ewrop.  Rhwng y ddau safbwynt, mae llawer o gefnogwyr datganoli o’r farn y bydd angen ei ddiwygio trwy, er enghraifft, sefydlu trefn ffederal ffurfiol yn y deyrnas hon. Yn ôl ein panel, nid dim ond i’r rhai sy’n hoffi cnoi cil ar wleidyddiaeth yw pryderon o’r fath achos mai dyrannu pwerau yw’r cyd-destun hanfodol a fydd yn galluogi pwy bynnag sy’n llywodraethu Cymru i gynnig gwasanaethau cyhoeddus a thrin a thrafod materion megis cynaladwyedd, dinasyddiaeth a chydraddoldeb.

Felly, mae angen trafodaethau fel hyn ac mae’r ffaith bod ein seminar wedi denu cynifer o bobl i gymryd rhan yn y dadansoddi dros awr a hanner yn dangos bod gwir alw amdanyn nhw. Er y gallai fod modd cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb eto, gwelon ni werth achlysur rhithwir am y gallai llawer mwy o bobl gymryd rhan ac nad oedd rhaid i neb deithio drwy’r dydd i gyrraedd y lle.

Allwn ni ddim gorffwys ar ein bri, fodd bynnag, ac mae angen ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r profiad hwn. Er enghraifft, roedd y panel yn eithriadol o dda ond gan fod seminar yn llai na chynhadledd – un sgwrs gyda thri o bobl – dim ond i hyn a hyn o raddau y bydd modd hybu amrywioldeb ymhlith aelodau’r panel bob tro: felly, rhaid ystyried sut y gallwn ni gyflawni amrywioldeb o leiaf ar draws yr amryw achlysuron rydyn ni’n bwriadu eu cynnal. Ac yng ngoleuni’r newidiadau a welwn ni mewn ymwybyddiaeth wleidyddol yng Nghymru, ynghyd â barn pawb a gymerodd ran yn y seminar bod angen trafod a dadlau eang, cynhwysol a doeth, mae angen inni ofyn sut y gallwn ni gynnwys pobl sydd newydd ymddiddori (neu ailymddiddori) yn y materion hyn.