Rôl newid ymddygiad wrth lywio penderfyniadau ynghylch polisi cyhoeddus

Mae newid ymddygiad yn thema gynyddol gyffredin mewn polisïau cyhoeddus. Mae Peter John yn mynd mor bell â honni mai ‘dim ond drwy newid ymddygiad dinasyddion y gellir mynd i’r afael yn llawn â llawer o’r prif heriau mewn polisïau cyhoeddus’.

Yn flaenorol, mae ymyriadau mewn polisïau cyhoeddus wedi gweithio o safbwynt y dybiaeth mai prosesau rhesymegol yw ymddygiadau a bod codi ymwybyddiaeth o fater ynddo’i hun yn ddigon i newid ymddygiad. Nid yw’r dybiaeth hon yn ystyried yr arferion sy’n rhan o ymddygiad pobl na’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas. Yn fwy diweddar, mae ystod o raglenni gwyddoniaeth ymddygiadol, fel y rhai a ddatblygwyd gan Dîm y Cipolygon Ymddygiadol a’r Ganolfan Newid Ymddygiad, wedi ceisio rhoi ystyriaeth lawer fwy manwl i’r ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad.

Mae’r datblygiadau yn y drafodaeth ynghylch newid ymddygiad yn adlewyrchu’r rhai ynghylch polisïau cyhoeddus a systemau polisi yn fwy cyffredinol: hynny yw, maent yn flêr ac yn gymhleth, ac y dylem gadw hynny mewn cof wrth baratoi camau ac ymyriadau. Mae trafodaeth o hyd ynghylch p’un a yw ymyriadau gwyddoniaeth ymddygiadol yn gallu datrys problemau polisi o hyd, neu a oes angen i lunwyr polisïau feddwl yn hytrach am sut y gellir addasu systemau cyfan er mwyn cael deilliannau mwy ffafriol. Bydd cyfuniad o’r ddau yn fwy llwyddiannus yn ôl pob tebyg.

Mae model ymddygiad COM-B yn declyn defnyddiol er mwyn dadansoddi newidiadau unigol ac mewn systemau. Mae’n nodi tri ffactor sy’n llywio ymddygiad:

  1. Gallu: y gallu seicolegol i ymddwyn mewn modd penodol
  2. Cyfle: yr amgylchedd ffisegol a chymdeithasol sy’n galluogi ymddygiad
  3. Cymhelliant: y mecanweithiau myfyriol ac awtomatig sy’n cymell neu’n atal ymddygiad

Mae’r Ganolfan Newid Ymddygiad yn dadlau bod pob un o’r rhain yn cyfuno i lywio ymddygiad, felly rhaid i unrhyw ymyriadau polisi eu hystyried a mynd i’r afael â nhw i gyd. Yn syml, nid yw gwybod beth yw ymddygiad iach yn ddigonol gan fod angen gwybod beth sy’n cymell yr ymddygiad a pha amgylchedd sy’n ei alluogi.

Mae gan hyn oblygiadau ymarferol i bolisïau cyhoeddus. Er enghraifft, mae ymgyrch wybodaeth yn fath cyffredin o ymyriad i newid ymddygiad. Gallai taflenni gael eu hanfon at bobl berthnasol. Gallai hysbysebion gael eu gosod ar hysbysfyrddau. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn cael unrhyw effaith os mai’r cyfan y maent yn ceisio ei wneud yw newid dealltwriaeth rhywun.

Ni fydd camau newid ymddygiad yn effeithiol ychwaith os canolbwyntir ar un unigolyn ar y tro. Mae newid ymddygiad yn golygu sylweddoli bod ymddygiad yn digwydd o fewn system o ymddygiadau eraill. Er enghraifft, ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, ‘mae’n cynnwys dadansoddi ymddygiad y rhai sy’n derbyn ac yn rhoi gofal iechyd, a’r rhai sy’n paratoi ac yn cyflwyno polisïau iechyd cyhoeddus, a’r rhai sy’n cael eu dylanwadu ganddynt’..

Fodd bynnag, nid yw hyn yn llywio ymyriadau polisi oni bai ein bod yn ystyried sut i’w dylunio a’u defnyddio’n gywir. Mae model COM-B yn cynnig proses chwe cham ar gyfer dylunio ymyriadau er mwyn newid ymddygiad:

  1. Dewis yr ymddygiad a dargedir
  2. Nodi’r ymddygiad a dargedir
  3. Deall yr ymddygiad a dargedir
  4. Creu’r ymyriad
  5. Nodi cynnwys yr ymyriad
  6. Cyflwyno’r ymyriad

Mae rhannu’r ymyriad fel hyn yn wahanol gamau yn fodd o wneud yn siŵr bod yr ymddygiadau cywir yn cael eu targedu (1), eu bod yn cael eu disgrifio mor glir â phosibl er mwyn gallu eu mesur (2), a’u bod yn cael eu deall mewn cymaint o fanylder â phosibl (3). Mae hyn yn golygu bod modd creu ymyriad (4), mewn modd sy’n addas ar gyfer targedu’r ymddygiad (5), ac yna eu cyflwyno yn y cyd-destun priodol (6), er enghraifft drwy ymyriad wyneb yn wyneb, neu newid mewn polisi cyhoeddus.

O fewn y broses hon, bydd deilliannau anfwriadol o hyd a/neu’r posibilrwydd y bydd y polisi yn methu. Bydd gwybodaeth amherffaith bob amser wrth wneud unrhyw benderfyniad polisi. Fodd bynnag, dyna’n union ddiben defnyddio safbwyntiau ymddygiadol. Mae’n ein hannog i ystyried ystod mor eang â phosibl o ffactorau dylanwadol.

Hyd yma, rydym wedi defnyddio’r gwaith hwn mewn dau aseiniad ar wahân. Yn ein gwaith am newid ymddygiad yn y GIG yng Nghymru, fe wnaethom adolygu rhai o’r ymdrechion yng Nghymru i annog newidiadau yn y ffordd y mae’r GIG yn rhyngweithio â chleifion. Mae hyn yn cynnwys newid natur y sgyrsiau rhwng cleifion a chlinigwyr, annog staff anfeddygol i gael sgyrsiau gyda dinasyddion ac annog pobl i ymddwyn yn iachach er mwyn eu helpu i osgoi gorfod cael triniaeth yn y dyfodol.

Rydym hefyd wedi defnyddio fframweithiau newid ymddygiad a allai helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhlith teuluoedd yng Nghymru. Daeth nifer o themâu i’r amlwg gan gynnwys y ffaith fod grwpiau ar wahân i’r llywodraeth mewn sefyllfa i nodi’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag newid eu hymddygiad a dylunio ymyriadau sy’n addas i’r cyd-destun lleol. Fe bwysleisiodd hefyd y gallai ymyriadau newid ymddygiad fod yn fwy llwyddiannus os ydynt yn gallu newid arferion cyfredol.

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Mae angen sylfaen dystiolaeth lawer ehangach er mwyn deall ymddygiadau cyfredol a sut i’w newid. Y tu hwnt i hynny, mae angen i ni wybod rhagor o hyd am sut i ymgysylltu â dinasyddion mewn unrhyw ymyriadau newid ymddygiad. Fodd bynnag, dylai fod defnyddio safbwyntiau newid ymddygiad er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol ym maes polisi fod yn flaenoriaeth o hyd.