Rôl llywodraeth leol Cymru mewn byd wedi’r Coronafeirws

Mae rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael ei hamlygu a’i dwysau ar adegau o argyfwng.  Mae cynghorau ledled Cymru wedi cydlynu a chyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i’r pandemig Coronafeirws, gan gynnwys dosbarthu dros £500m mewn grantiau i fusnesau a chefnogi ystod eang o bobl a theuluoedd mewn sefyllfa fregus.

Mae’n debygol y bydd cynghorau’n parhau i gyflawni rôl bwysig wrth i Gymru symud allan o’r cyfyngiadau symud, gan gynnwys tracio ac ynysu achosion newydd o’r feirws, gan fod timau iechyd amgylcheddol mewn sefyllfa dda i arwain y gwaith cymunedol hwn. Fodd bynnag, mae’r argyfwng presennol hefyd wedi amlygu sawl mater mae llywodraeth leol yng Nghymru yn eu hwynebu a ddylai dderbyn sylw wedi’r Coronafeirws.

 

Sut mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio

Gall cydweithio a chydlynu gwaith amrywiol randdeiliaid ddarparu ymateb mwy cynaliadwy na chanoli mewn argyfwng.  Mae’r ymatebion i argyfyngau yn digwydd ar amrywiol lefelau, ac mae’n bwysig creu cysylltiad rhwng y lefelau hynny.  Er y gellid defnyddio mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli, fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd yn hanfodol canfod pa strwythur sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y tymor canolig i’r hir dymor.  Mae’n bosib na fydd strwythurau sydd wedi methu cyflawni cyn yr argyfwng yn addas at y diben o gydlynu wedi’r argyfwng.  Fodd bynnag, dylid gochel rhag diwygio llywodraeth leol yng Nghymru eto fyth, gan y byddai hynny’n ddrud ac yn amharu’n sylweddol, yn arbennig o dan yr amgylchiadau presennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ymateb ar y cyd.  Mae Gweinidogion wedi bod yn cwrdd ag arweinyddion pob un o’r 22 cyngor o leiaf ddwywaith yr wythnos i drafod problemau a chanfod atebion a chamau gweithredu.   Trwy gynnwys llywodraeth leol yn yr ymateb i’r feirws, mae’r her yn cael ei rhannu ar draws lefelau’r llywodraeth.  Mae arweinyddion grŵp Dinasoedd Craidd y Deyrnas Unedig yn dadlau bod angen i elfennau lleol fod yn ganolog i’r adferiad ac mae enghreifftiau diweddar o Fanceinion Fwyaf  yn awgrymu arwyddion cadarnhaol o ran arweinyddiaeth a gweithio cydlynus. Mae lleoleiddio ymateb yn creu cyfle i gilfachau o arfer da gael eu rhannu ar draws y sector. Mae angen i Lywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru barhau i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau ymateb cydlynus, effeithiol i’r pandemig Coronafeirws.

 

Diffyg capasiti llywodraeth leol

Mae cyni, yn ogystal â degawdau o ddadrymuso a diwygio dro ar ôl tro ym maes llywodraeth leol ar draws y Deyrnas Unedig, wedi peri i gapasiti llywodraeth leol grebachu ac wedi cyfyngu ar ymateb y sector i’r pandemig. Mae’r trydydd sector – sy’n darparu gwasanaethau hollbwysig ar adegau o argyfwng – hefyd wedi dioddef toriadau sylweddol i’w cyllid.

Un o ganlyniadau’r cyfyngiadau ar gapasiti yw’r symudiad i ffwrdd oddi wrth ddarparu gwasanaeth yn uniongyrchol gan gynghorau lleol at gomisiynu a chydlynu rhwydweithiau o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, gyda chyfleoedd i ddinasyddion gyfranogi’n fwy.  Ond nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y newid yn rôl llywodraeth leol – o ddarparwr i gomisiynydd strategol a chydlynydd – yn gwneud defnydd llai dwys o adnoddau, a bod modd ei wneud yn effeithiol heb neilltuo adnoddau. Hefyd nid oes llawer o werthuso cadarn i awgrymu bod dulliau o’r fath, gan gynnwys cyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus gan ddinasyddion, yn arwain at well canlyniadau (er bod peth ymchwil yn dod i’r amlwg). Mae amheuon difrifol hefyd ynghylch cynaliadwyedd mentrau a sut mae goresgyn anawsterau fel sicrhau  atebolrwydd.

Gall llywodraeth leol gyflawni rôl gydlynu yn dda, ac mae rhai astudiaethau achos ‘arfer da’ ynghylch sut mae llywodraeth leol yn cefnogi mentrau cymunedol i ddiwallu anghenion y grwpiau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus.   Ar yr un pryd, mae nifer sylweddol o fentrau a arweinir yn gymunedol wedi tyfu’n organig mewn ymateb i’r argyfwng, a gallent fod yn ‘llenwi bylchau’ yn narpariaeth llywodraeth leol.  Mae rhwydweithiau newydd ar gyfer cydlynu gweithredu gwirfoddol (megis rhaglen wirfoddoli’r GIG a phartneriaeth ymateb gweithredu cymunedol) yn ogystal â miloedd o grwpiau Facebook  cymunedol Cymorth COVID a grwpiau WhatsApp lleol yn y Deyrnas Unedig.  Mae i ba raddau mae cynghorau Cymru yn cyflawni rôl weithredol ac effeithiol wrth gydlynu ymatebion ardal leol a gweithredu fel canolbwynt ar gyfer mentrau cymunedol a thrydydd sector yn debygol o amrywio yn ôl perthnasoedd ac adnoddau presennol.

Yn y cyfnod wedi’r Coronafeirws, bydd yn bwysig trafod a phenderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i barhau â’r mentrau a ddisgrifiwyd uchod.  Ble byddai’r mannau gorau i dargedu buddsoddiad mewn llywodraeth leol a/neu yn y sector gwirfoddol er mwyn ychwanegu’r gwerth mwyaf a chefnogi cymunedau i ymadfer? Mae angen llunio modelau ariannu sy’n cydnabod cryfderau pob sector ac mae angen gwerthuso mentrau presennol a rhannu’r canlyniadau er mwyn lledaenu arfer da.

 

Rôl llywodraeth leol yn y dyfodol?

Fel y dangosodd adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), roedd llywodraeth leol yng Nghymru eisoes ar ymyl y dibyn yn ariannol cyn y pandemig.  Er gwaethaf cynnydd diweddar yn y setliad diweddaraf ac arian argyfwng, mae’r costau i gynghorau wrth ymateb i’r feirws yn sylweddol, a hynny ar ben yr incwm a gollwyd. Er gwaethaf capasiti cyfyngedig, mae llywodraeth leol wedi dangos gallu i ymdopi ac ymateb i’r argyfwng, trwy staff medrus, seilwaith a rheolaeth ar rwydweithiau.  Mae ei natur leol a’i gallu i ddatblygu ymatebion wedi’u targedu ar gyfer meysydd penodol i’w gweld yn y mathau o gamau gweithredu mae cynghorau lleol yn eu defnyddio. Gellid gwneud mwy yn y dyfodol i ddarparu’r offer a’r adnoddau angenrheidiol i ardaloedd lleol er mwyn darparu gwasanaethau rhagorol, yn ogystal â’r pwerau angenrheidiol i lunio ymatebion effeithiol sy’n seiliedig ar le. Mae angen gwreiddio newidiadau cadarnhaol a gyflwynwyd oherwydd y feirws a’u gwneud yn rhai hirdymor, yn hytrach na dychwelyd at hen ffyrdd o weithio.

Mae angen i gynghorau ddysgu gan y rhai sydd wedi ymateb yn gyflym i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, ac mae angen i bob gwasanaeth cyhoeddus ddeall beth sy’n gallu cael ei wneud i annog mwy o ystwythder ar draws y sector.  Mae angen i gynghorau drafod ffyrdd o osgoi dyblygu ac annog gweithio ar y cyd lle gall hynny wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd, er enghraifft trawsffurfio gwasanaeth trwy ei alluogi’n ddigidol. Fodd bynnag, mae’r holl ffyrdd newydd hyn o weithio yn cynnwys heriau, er enghraifft gall gweithio cydlynus a chrynhoi adnoddau arwain at  gur pen o ran atebolrwydd.  Gallai fod yn ddefnyddiol dysgu o sut mae llywodraeth leol wedi ymateb mewn gwledydd eraill – sydd ar gael gan yr OECD a’r Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol – er mwyn rhoi’r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi amlygu’r heriau mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ac wedi datgelu gallu dulliau cydlynu a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus lleol i addasu, arloesi ac ymateb i angen seiliedig ar le.  Wedi’r argyfwng, dylai fod cyfle i fyfyrio ar rôl, statws ac ariannu llywodraeth leol er mwyn cyflawni’r gorau i gymunedau ledled Cymru a sicrhau ein gwydnwch mewn ymateb i argyfwng yn y dyfodol.