Rhaid i waith teg ymwneud â mwy na phwy sy’n cadw’r cildwrn

Bydd cyfraith newydd a gyhoeddwyd gan brif weinidog y DU Theresa May yn golygu na chaiff tai bwyta ym Mhrydain gymryd cildyrnau oddi ar staff yn annheg. Mae sicrhau bod staff yn cadw eu cildyrnau’n sicr yn symudiad cadarnhaol at hyrwyddo tegwch. Ond gan fod gweithwyr yn aml yn defnyddio cildyrnau i ategu eu cyflogau isel, oni ddylai gwella ansawdd y gwaith fod yn fwy pwysig?

Ers o leiaf 2008, mae llywodraethau olynol y DU wedi canolbwyntio’n bennaf ar wella lefelau cyflogaeth. O ganlyniad, cafwyd llai o ffocws ar wella ansawdd swyddi. Ar draws y DU, amcangyfrifir bod 4.9m o bobl yn cael eu cyflogi mewn gwaith â chyflog isel, gan ennill llai na dwy ran o dair o’r cyflog canolrifol fesul awr. Yng Nghymru’n unig, caiff tua 459,000 o weithwyr eu cyflogi mewn galwedigaethau cyflog isel – fel y’i diffinnir gan y Comisiwn Cyflogau Isel.

Mae llawer o’r gweithwyr cyflog isel hyn hefyd mewn sefyllfa lle na allant symud i waith sy’n talu’n well ac o ansawdd gwell. Dangosodd adroddiad sylweddol a gomisiynwyd gan y Joseph Rowntree Foundation yn 2014 fod symud i waith mwy sicr ar gyflog gwell yn rhywbeth nad oes llawer o bobl mewn sectorau cyflog isel fel manwerthu, arlwyo a gofal yn cael cyfle i’w wneud. Gwelir hyn yn y ffaith fod 25% o weithwyr cyflog isel rhwng 2006 a 2016 yn dal i wneud gwaith ar gyflog isel ddegawd yn ddiweddarach. Ac yn y diwydiant gwasanaeth bwyd, er bod cyfleoedd i staff gwasanaethu symud i swyddi rheoli, mae ymchwil yn dangos bod penderfyniadau ynghylch dyrchafu’n aml yn cael eu gwneud ar hap, heb asesiad teg o gymwysterau a sgiliau.

Llwybr arall at wella cyfleoedd i weithwyr.
Erik Kalibayev/Shutterstock

Mae twf yr economi ‘gig’ a dirywiad gweithleoedd sydd ag undebau wedi gwaethygu’r broblem hon, gan danseilio llawer o’r strwythurau gyrfa traddodiadol, fel dysgu’n seiliedig ar waith, oedd yn arfer bodoli yn y sectorau cyflog isel. Mae’r teimlad o fod yn gaeth a chael eich amddifadu o gyfleoedd credadwy – boed  symud i swydd well gyda chyflogwr presennol neu i waith gyda chyflog gwell yn rhywle arall – yn rhy gyffredin o lawer. Ond does dim modd i bethau newid dros nos, ac mae angen i’r llywodraeth ddechrau gwthio cwmnïau i helpu eu staff.

Adeiladu sgiliau

Mae’r cynlluniau dilyniant gyrfa mwyaf effeithiol yn rhoi hyfforddiant a sgiliau angenrheidiol i weithwyr allu symud i fyny, ac ar yr un pryd yn datblygu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar gyflogwyr i hybu twf. Nid mater o wella eu gallu yn eu rôl bresennol yn unig yw hyn, ond hybu eu sgiliau’n gyffredinol.

Er enghraifft, mae cynllun hyfforddi TG  yn y Bronx yn Efrog Newydd wedi arwain at godiad o 27% yn enillion y cyfranogwyr. Roedd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant sgiliau galwedigaethol penodol i’r sector, lleoliadau gwaith priodol a gwasanaethau cadw a datblygu ôl-gyflogaeth i fynd ati’n effeithiol i ddarparu’r sgiliau newydd sydd eu hangen ar gyfranogwyr i symud at waith sy’n talu’n well.

Yn y cyfamser, mae rhaglen yn y DU, a gaiff ei rhedeg mewn partneriaeth gyda’r adwerthwr Pets at Home, wedi sicrhau bod staff rhan amser yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, drwy gynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith rheoli ar sail ran amser a hyblyg. Roedd y dull hwn nid yn unig yn galluogi dilyniant, roedd hefyd yn helpu i ddyrchafu mwy o fenywod yn y gweithle. (Er eu bod yn cynrychioli 65% o staff siopau Pets at Home, roedd llawer o fenywod yn ei chael yn anodd cydbwyso dilyniant gwaith gyda gweithio rhan amser).

Mae rhaglenni fel hyn yn dibynnu ar ddysgu oedolion. Ond mae hwn yn sector sydd wedi’i esgeuluso ers tro yn y DU, gyda diffyg buddsoddi gan gyflogwyr a’r llywodraeth. Yn wir mae ymagweddau polisi presennol wedi atal gweithwyr rhag gallu gwella eu sgiliau i’w helpu i wneud cynnydd.

Ar gyfer ein hadroddiad a gyhoeddir yn fuan, rydym ni wedi bod yn edrych yn benodol ar hyrwyddo dilyniant gyrfa mewn sectorau cyflogau isel. Rydym ni wedi canfod bod cynnig cyfleoedd dilyniant gyrfa nid yn unig yn sicrhau gwaith sy’n talu’n well i weithwyr ac yn gwella eu llesiant, ond mae hefyd yn hybu cynhyrchedd a thwf economaidd. Budd amlwg i weithwyr, busnes a’r llywodraeth.

Yn amlwg, mae’n rhaid gwneud mwy i greu dadl gyda thystiolaeth sy’n argyhoeddi er mwyn denu cyflogwyr, a dangos iddynt y manteision sy’n deillio i bawb o fentrau dilyniant gyrfa. Mae polisi llywodraethol i gymell cyflogwyr yn hanfodol ar gyfer hyn, a gallai ategu polisïau eraill, fel hyrwyddo a gorfodi cyflog byw cenedlaethol. Gallai cymalau caffael newydd, er enghraifft, orfodi cwmnïau sy’n dymuno gweithio gyda’r sector cyhoeddus i ddarparu dilyniant.

Mae gwella ansawdd gwaith yn fater cymhleth ond mae modd ei wneud. Mae sicrhau dosbarthu cildyrnau i staff gwasanaethu a hyrwyddo dosbarthiad tecach o gyflogau i weithwyr yn fwy cyffredinol yn sicr yn rhan o’r datrysiad. Ond mae angen i ni edrych ar yrfaoedd gweithwyr hefyd.

 

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Saesneg yn The Conversation dan Drwydded Creative Commons Darllenwch yr erthygl wreiddiol.