Pwysigrwydd ymgysylltu: sicrhau bod gan y cyhoedd lais yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol Cymru

Mae’r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) Ymgysylltu â’r cyhoedd a ‘Cymru Iachach’ a ysgrifennwyd ar y cyd gan Paul Worthington, Sarah Quarmby a Dan Bristow o’r Ganolfan. Mae’r adroddiad yn ystyried sut y gellir troi’r ymrwymiadau i gynnwys y cyhoedd yng nghynllun Cymru Iachach yn rhaglen o weithgareddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae Cymru Iachach yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hollol newydd, sy’n canolbwyntio ar symud tuag at fodelau gofal yn y gymuned, a dull mwy ataliol.

Yn rhan o hyn ceir y syniad y dylai ‘ymgysylltu â’r cyhoedd’ fod yn ganolog i system y dyfodol ac i’r broses o gyrraedd y system honno.

Nid yw hyn yn syndod. Ceir cymorth eang ar gyfer mwy o ymgysylltu, mewn trafodaethau am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal ag ar draws ystod o feysydd polisi.

Dadleuir bod cynnwys y cyhoedd yn dda – does bosib na ddylai’r rhai hynny y mae penderfyniadau’n effeithio arnynt gael dweud eu dweud?

Yn fwy na hyn, serch hynny, y gobaith yw y bydd ymgysylltu yn arwain at well dyluniad o ran polisi a gwasanaeth a chanlyniadau gwell: mae’r rhai a fyddai’n profi canlyniadau penderfyniadau mewn sefyllfa dda i helpu i asesu eu heffaith bosibl.

 

Beth yw ymgysylltu?

Rhan o’r her wrth geisio gwireddu’r buddion hyn yw bod y term ‘ymgysylltu’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pethau gwahanol iawn; gan amrywio o roi gwybodaeth, i bobl yn cael y pŵer i wneud penderfyniad penodol.

Mae’r ymdrech i gynnwys y cyhoedd yn y broses gwneud penderfyniadau mewn rhyw ffordd yn gyffredin ymysg y rhain.

Ond mae’r diffyg eglurder o ran ystyr ‘ymgysylltu,’ a’r hyn ddylai ei gynnwys, yn arwain at ganolbwyntio ar y broses ar draul cael trafodaeth ynghylch y diben.

 

Ymgysylltu ‘da’ yn erbyn ymgysylltu ‘gwael’

Yn rhy aml, mae ymdrechion i ymgysylltu â’r cyhoedd yn dechrau drwy geisio diffinio’r broses ei hun: a ddylai fod yn ymgynghoriad ar-lein, yn wasanaeth i ddinasyddion, yn sgwrs ar Twitter, neu bob un o’r uchod?

Y broblem gyda hyn yw ei fod yn anghofio am y cam hollbwysig o ddisgrifio pam y gofynnir i’r cyhoedd gymryd rhan. Beth y gofynnir iddynt ei wneud? A pha effaith fydd eu cyfraniad yn ei chael ar y broses gwneud penderfyniadau?

Yr eglurder hwn dros ddiben ymgysylltu yw un o’r prif ffactorau dros ymdrechion fwy a llai llwyddiannus.

Os mai’r man cychwyn yw ‘sut y byddwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd?’, y perygl yw y bydd ymdeimlad bod ymgysylltu’n fwy ac yn ddyfnach yn ‘well’ yn dylanwadu ar y dewis: a bod prosesau sy’n rhoi llai o rôl i’r cyhoedd rywsut yn ‘waeth’.

Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth yn dangos bod unrhyw gynnig o ymgysylltu’n debygol o fod yn aflwyddiannus oni bai bod y cynnig yn ddilys – nid yw’r cyhoedd yn ymateb yn dda i ddulliau ymgysylltu symbolaidd.

Dyma pam mae’n bwysig bod yn glir ac yn dryloyw am rôl y cyhoedd, ac yn agored o ran sut y bydd eu safbwyntiau’n dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd. Os oes penderfyniad eisoes wedi’i wneud, peidiwch â honni fel arall.

 

Ymgysylltu a ‘Cymru Iachach’

Beth yw ystyr hyn oll ar gyfer y rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?

Mae Cymru Iachach yn gwneud cyswllt rhwng ymgysylltu â’r cyhoedd ag ystod o faterion a chanlyniadau gwahanol, gan gynnwys – gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, ymddygiadau iach, dylunio gwasanaeth, ad-drefnu gwasanaeth, a newid y berthynas rhwng y cyhoedd a’r system iechyd a gofal.

Yn ei hadroddiad, rydym yn edrych ar y dystiolaeth am rôl a natur ymgysylltu er mwyn cyflawni pob un o’r rhain. Rydym hefyd yn crynhoi’r wybodaeth a gawsom o’n sgyrsiau gyda rhanddeiliaid am y sylfaen dystiolaeth hon.

Yr hyn sy’n dod i’r amlwg yn eithaf cryf o hyn i gyd yw bod angen gwell dealltwriaeth ac eglurder ar bawb ynghylch diben unrhyw raglen ymgysylltu, y tu hwnt i ymrwymiadau Cymru Iachach.

Ar hyn o bryd, nid yw ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolog i gyflawni’r rhaglen drawsnewid yn y ffordd a ragwelwyd yng nghynllun Cymru Iachach, ac oherwydd bod y cyfrifoldeb amdano wedi’i rhannu rhwng cyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, nid yw’n glir pwy ddylai fod yn gwneud beth.

Dylid rhoi mwy o bwyslais ar sut y gall y cyhoedd lywio’r gwaith o ddatblygu modelau gofal newydd, a sut y caiff gwasanaethau eu trefnu yn y dyfodol. Ond byddai hyn yn gofyn am benderfyniadau gweithredol i roi’r systemau goruchwylio, cydlynu a’r adnoddau ar waith er mwyn gwireddu hynny.

Mae hefyd lle ar gyfer ymarfer ymgysylltu cenedlaethol, megis gwasanaeth i ddinasyddion, ynghylch problem allweddol y mae’r system iechyd a gofal yn ei hwynebu. Yn wir, mae Cymru Iachach, yn awgrymu cynnwys y cyhoedd er mwyn penderfynu’r hyn i’w wneud ynghylch cyllid gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn dangos arweiniad ar ymgysylltu â’r cyhoedd, ac yn arwydd o’r newid yn y berthynas rhwng y cyhoedd a’r sector.

Mae gan y dyhead am ymgysylltu â’r cyhoedd yn fwy sail gadarn yn y dystiolaeth, a chefnogaeth eang gan y sector. Yr her yw cyfuno’r ddau i ddiffinio, a chyflawni, rôl gydlynol ac ystyrlon ar gyfer y cyhoedd.