Pwerau ac Ysgogiadau Polisi – Beth sy’n gweithio i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru?

Wrth i Gymru nodi ugain mlynedd o ddatganoli, mae ein hadroddiad diweddaraf, Pwerau ac Ysgogiadau Polisi: Beth sy’n gweithio i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru?, yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil i’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd ar gael iddi. Wedi amlinellu’r cyd-destun polisi yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r adroddiad yn trafod dwy astudiaeth achos  o lunio polisi ers datganoli pwerau deddfu sylfaenol llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Rydym yn tynnu casgliadau penodol yn y ddau achos, ac yn cynnig pedwar canfyddiad cyffredinol o’r prosiect. Gobeithiwn y byddant yn ddefnyddiol i lunwyr polisi ac i eraill sy’n ymddiddori yn y modd mae llywodraethau- yn enwedig, llywodraethau bach a phwerau ac adnoddau cyfyngedig, megis Llywodraeth Cymru- yn mynd ati i ddatblygu a chyflawni polisïau.

Mae’r ddau achos yn enghreifftiau cyferbyniol o lunio polisi datganoledig. Yr un cyntaf yw datblygu a gweithredu fframwaith statudol newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd. Na allai Llywodraeth Cymru weithredu’r fframwaith newydd ar ei phen ei hun, gan mai awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am wasanaethau digartrefedd. Ond trwy ddatblygu rhwydweithiau cryf gyda llywodraeth leol a’r trydydd sector,  ychwanegodd gweinidogion a swyddogion adnoddau eu partneriaid at adnoddau cyfyngedig  y Llywodraeth ei hun. Wrth i’r Llywodraeth lunio’r fframwaith newydd, byddai’r partneriaid yn rhannu eu profiad a’u harbenigedd, yn enwedig o ran canfod a dadansoddi problemau, ac asesu ymarferoldeb camau gweithredu arfaethedig. Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth, roedd Llywodraeth Cymru’n yn gweithio â nhw i ddatblygu canllaw statudol, i hyfforddi staff i’w gweithredu, ac i fonitro cynnydd. Roedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hyn oll am nad oedd amheuaeth bod digartrefedd yn fater sydd wedi’i ddatganoli; roedd cytundeb ynglŷn â’r hyn roedd angen ei wneud; ac roedd gan Weinidogion yr adnoddau deddfwriaethol ac, er na allai cynyddu’r gyllideb ddigartrefedd yn sylweddol, ariannol  yr oedd eu hangen ar asiantaethau lleol i fynd i’r afael â digartrefedd.

Ein hail achos yw’r ymdrech gyntaf, aflwyddiannus, i gyflwyno isafbris uned o alcohol yng Nghymru. Unwaith eto, nid oedd gan Lywodraeth Cymru’r adnoddau ei hun i weithredu’r isafbris, ond roedd awdurdodau lleol yn hyderus y byddent yn gallu ei gorfodi. Ac roedd gan Lywodraeth Cymru berthnasoedd cryf gyda rhai o randdeiliaid yn y sector alcohol, gan gynnwys academyddion, grwpiau trydydd sector, a chyfranogion iechyd. Roedd y rheiny i gyd yn cytuno bod angen gosod isafbris alcohol er mwyn leihau yfed alcohol problemus. Ond nid oedd gan Lywodraeth Cymru cystal perthynas gyda’r diwydiant diodydd, a phrofodd y polisi wrthwynebiad o gyfeiriad y diwydiant, yn ogystal â Llywodraeth y DU. Er bod Llywodraeth Cymru yn credu bod polisi alcohol yn fater iechyd y cyhoedd, ac felly yn ddatganoledig, mynnai llywodraeth y DU ei fod yn fater plismona a chyfiawnder troseddol, a’i fod felly y tu allan i gymhwysedd Llywodraeth Cymru. Daeth gweinidogion Cymru i’r casgliad y byddai brwydr wleidyddol a chyfreithiol â llywodraeth y DU ac efallai gwrthwynebwyr ariannog eraill yn gofyn am neilltuo mwy o adnoddau nag y gallai eu cyfiawnhau ar y pryd, ac felly tynnwyd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ôl.

 

Mae’r ddau achos yn dangos bod angen i lunwyr polisi ystyried fesul achos pa offerynnau polisi sydd fwyaf addas i gyflawni eu hamcanion. Er bod deddfwriaeth a chyllid yn amodau angenrheidiol, nid ydynt yn ddigon ar eu pen eu hunain ac mae angen i lunwyr polisïau deall sut mae defnyddio pwerau anffurfiol i gyflawni pethau. Rydym yn amlygu dau gysyniad a all eu helpu i wneud hyn. Mae meta-lywodraethu yn ystyried sut all llywodraethau fanteisio ar eu hadnoddau arbennig i greu a rheoli rhwydweithiau. Mae’r Deipoleg NATO  yn amlygu pedwar prif fath o offeryn polisi, sef Nodaledd  (‘y nodwedd o fod yng nghanol rhwydwaith gwybodaeth neu gymdeithasol’), Awdurdod, Trysor, a Threfniadaeth (‘Organisation’ yn Saesneg). Gall y deipoleg helpu llunwyr polisi i ddeall dosbarthiad eu hofferynnau polisi, a’u perthynas â’i gilydd.

Mae adran olaf yr adroddiad yn cyflwyno pedwar canfyddiad cyffredinol o’r astudiaeth:

  • Yn gyntaf, rydym yn argymell bod llunwyr polisi yn cydnabod y cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru ac i ganolbwyntio ar amcanion polisi y mae modd eu cyflawni. Nid yw hyn yn golygu peidio â bod yn uchelgeisiol, ond mae yn dangos pwysigrwydd cymryd golwg realistig a chreadigol ar yr hyn y gellir ei gyflawni.
  • Yn ail, dylai ystyried ar y cychwyn pa offerynnau polisi sydd eu hangen arnynt fel y gellir eu trefnu a’u defnyddio’n briodol. Mae edrych mewn ffordd realistig ar y cymysgedd o offerynnau polisi sydd ar gael yn gallu helpu llunwyr polisi i benderfynu a yw menter polisi’n debygol o lwyddo.
  • Yn drydydd, gan mai adnoddau deddfwriaethol, ariannol a materol Llywodraeth Cymru’n gyfyngedig o hyd, mae’n bwysig ei bod ni’n chwilio am ffyrdd o ategu ei hadnoddau ffurfiol drwy annog cyfranogiad sefydliadau eraill.
  • Yn olaf, dylai wneud y gorau ar y manteision y mae’r cyd-destun polisi Cymreig yn ei gynnig. Er enghraifft, mae’r lefel uchel o sefydlogrwydd gwleidyddol yn golygu y dylai fod modd edrych y tu hwnt i’r cylch etholiadol nesaf, a dylai maint cymharol fach Cymru ei gwneud yn haws i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y ‘rheng flaen’.