Prif Weinidog yn Agor Digwyddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, y sylwadau agoriadol yn ystod Dyfodol Gwaith yng Nghymru, sef digwyddiad cyntaf Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 1 Tachwedd 2017, ac ymhlith y siaradwyr roedd Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, a Stijn Broecke, Uwch Economegydd mewn Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.