Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau trwy Gyllidebu Rhywedd

Yn sgîl y cyfle sy’n cael ei ddarparu gan yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd a’r ymrwymiad i  egwyddorion ffeministaidd gan Lywodraeth Cymru, mae’n adeg ddelfrydol i’r Llywodraeth gamu’n llawn i mewn i ddadansoddiad rhywedd o’i phroses gyllidebol.  Gyda fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gweithredu asesiadau effaith integredig, mae’r cam hwnnw i mewn i gyllidebu rhywedd yn cyfateb yn glir i gyfeiriad polisi.

Cyllidebu rhywedd yw dull o lunio polisi sy’n rhoi dadansoddiad rhywedd yng nghanol y broses polisi a chyllideb, gan gyfuno’r ddau mewn dull gweithredu systemau cyfan. Mae hefyd yn cwblhau’r cylch polisi trwy gyflwyno penderfyniadau gwariant a refeniw.  Nid yw’n broses o osod cyllidebau ar wahân ar gyfer benywod a dynion.

Mae gwersi clir ar gyfer Llywodraeth Cymru o’n hadolygiad o’r dystiolaeth ryngwladol ar gyllidebu rhywedd. Er mwyn sicrhau cyfeiriad strategol, mae angen arweiniad gwleidyddol, ac arweiniad ac ymgysylltiad ar lefel weithredol gan adrannau Llywodraeth Cymru. Ar lefel weithredol, mae dadansoddiadau cydraddoldeb cadarn a chynhyrchu a chymhwyso data cydraddoldeb yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod realiti gwahanol bywydau pobl yn llywio penderfyniadau polisi ac adnoddau. Mae ymgysylltiad Seneddol yn hanfodol ar gyfer darparu mewnbwn wrth i gynigion cyllidebol gael eu llunio ac ar gyfer craffu ac atebolrwydd effeithiol wrth weithredu’r gyllideb.

Mae profiadau o gyllidebu rhywedd ar wahanol lefelau o’r llywodraeth yn datgelu gwirioneddau’r gwrthsafiad sy’n gallu bodoli yn wyneb yr ymgyrch i newid ffyrdd sefydledig o weithio.  Mae cyllidebu rhywedd yn ddull gweithredu trawsffurfiannol o lunio polisi sy’n galw am ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd fel nod gwleidyddol cyfreithlon.  Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion ffeministaidd a fframwaith arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn tystio i benderfyniad i arloesi.

Mae llywodraethau eraill sydd wedi cymryd camau i arloesi a thrawsffurfio polisi trwy gyllidebu rhywedd yn cynnwys Gwlad yr Iâ ac Awstria, lle bu cyfleoedd gwleidyddol newid cyfansoddiadol yn gatalydd.  Darparodd datganoli a chreu Senedd yr Alban a’r Weithrediaeth ‘foment’ wleidyddol debyg.  Yn ystod bron ugain mlynedd o weithgaredd, mae cyllidebu rhywedd yn dal heb ei weithredu’n llawn yn yr Alban, gan ategu’r angen am ddal i bwyso am hynny – y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth.  Cafwyd rhwystrau a chamau cadarnhaol ar hyd y ffordd, gan gynnwys y cam arloesol o gynhyrchu Datganiad Cyllideb Cydraddoldeb ers 2009: yr unig un o’i fath yn y Deyrnas Unedig.  Mae arfer sy’n datblygu ers 2005 yng nghymuned annibynnol Andalucía wedi cynhyrchu cyfres o drefniadau sefydliadol, offer a modelau ar gyfer llunio polisi, gan gynnwys y dull G+ a chyfres o archwliadau rhywedd i werthuso’r canlyniadau.  Ar lefel dinas, mae Cyngor Dinas Barcelona yn ymroddedig i ddadansoddiad rhywedd o ymrwymiadau gwariant ar draws ei linellau polisi a rhaglenni, o dan ddwy golofn graidd y dull strategol o ymdrin â llywodraethu – llywodraeth ffeministaidd a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae enghreifftiau o gyllidebu rhywedd ar wahanol lefelau o fewn y llywodraeth – cenedlaethol, datganoledig a rhanbarthol, cynghorau lleol – yn bodoli ledled Ewrop. Mae’r gweithgaredd a’r ymchwil yma wedi cynhyrchu ystod o offer, methodolegau a dulliau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru dynnu arnynt wrth symud ymlaen.

Dros flynyddoedd lawer, mae dadansoddiad Grŵp Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig wedi datgelu’n gyson effeithiau anghyfartal a chamwahaniaethol penderfyniadau gwariant cyhoeddus ar fenywod a dynion. Yn arbennig yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ‘gyni’, mae benywod Du ac Asiaidd, benywod sy’n unig rieni i blant anabl, a benywod hŷn wedi dioddef yn waeth na neb.  Mae’r dadansoddiad gan y sefydliad cymdeithas sifil hwn yn dangos bod dwy wers allweddol i Lywodraeth Cymru.  Yn gyntaf, rôl bwysig cymdeithas sifil wrth ddatblygu polisi, fel sy’n amlwg yng Nghymru trwy arweinyddiaeth Chwarae Teg ar yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd.  Yn ail, mae’r ffaith bod dadansoddiad Grŵp Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig wedi bod yn angenrheidiol i ddatgelu canlyniadau anghyfartal polisi cyhoeddus yn datgelu diffygion difrifol ymarfer llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas â dadansoddi rhywedd.  Mae cyllidebu rhywedd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel “cyllidebu da”. Mae hefyd yn ddull o sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol. Yn y Deyrnas Unedig, a’r gwledydd sy’n rhan ohoni, mae dadansoddi rhywedd yn un o ofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus oddi mewn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae cyllidebu rhywedd yn edrych ar ddyraniad adnoddau, yn ailddosbarthu adnoddau fel bod targedau cyllid cyhoeddus yn targedu canlyniadau cyfartal o ran rhywedd, ac yn ceisio unioni anghydraddoldebau presennol a rhai sy’n parhau.  Mae’r dull hwn o ymdrin â chyllid cyhoeddus a pholisi cydraddoldeb rhywedd gweithredol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ei hybu a’i gefnogi gan OECD, y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), a Banc y Byd.   Faint mwy o resymau sydd eu hangen, felly, ar unrhyw lywodraeth i weithredu er mwyn cyflwyno cyllidebu rhywedd?

Mae datganoli wedi cynhyrchu amrywiadau sylweddol yng nghynnwys a dulliau gweithredu llunio polisi rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Rydym wedi rhannu dysgu rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a gallwn barhau i feithrin arfer arloesol trwy weithio i ddatblygu uchelgais a rennir o ran cydraddoldeb a hawliau dynol ar wahân yng Nghymru a’r Alban, yn ogystal â chyda’n gilydd.

Mae’r ffocws presennol ar gydraddoldeb rhywedd a’r map ffordd clir o’r Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd yn darparu adeg addas i Lywodraeth Cymru ymateb i anogaeth “Gweithredoedd nid Geiriau”. Mae’n bryd bod yn fentrus wrth weithredu fel llywodraeth ffeministaidd.

 

Am yr awdur:

Dr Angela O’Hagan yw prif awdur ‘Mynd i’r afael ag Anghydraddoldeb drwy Gyllidebu ar Sail Rhyw’ ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae’n Gadeirydd annibynnol ar Grŵp Ymgynghorol Llywodraeth yr Alban ar Gydraddoldeb a Chyllidebau, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Grŵp Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig.  Mae hi’n Uwch-ddarlithydd mewn Cydraddoldeb a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow.  Mae hi’n cyfrannu at bodlediad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyllidebu rhywedd, sydd ar gael yn: