Interniaethau PhD – Dysgu trwy wneud

Ym mis Ionawr 2021, croesawodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau fyfyriwr doethurol ar interniaethau tri mis a ariannwyd gan ESRC. Bu Aimee Morse o Brifysgol Swydd Gaerloyw yn astudio ecosystem tystiolaeth leol – astudiaeth achos o grŵp ffermwyr yng Ngogledd Cymru, a bu Findlay Smith o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda ni i astudio defnydd Llywodraeth Cymru o offer polisi ar gyfer prif-ffrydio cydraddoldeb.

Isod, maen nhw’n dweud wrthym beth oedd eu barn am eu cyfnod gyda’r Ganolfan, a beth bydd hynny’n ei gyfrannu wrth iddyn nhw hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.

 

1. At ei gilydd, sut brofiad oedd eich cyfnod yn y Ganolfan?

Aimee – rydw i wedi cael tri mis gwych yn gweithio gyda’r Ganolfan. Er ei fod yn rhyfedd peidio â chwrdd â chydweithwyr wyneb yn wyneb na threulio amser mewn swyddfa yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfarfodydd mynych gyda holl aelodau’r tîm yn bendant wedi gwneud y profiad rhithwir yn werth chweil! Mae wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu mwy am waith y Ganolfan a sut maen nhw’n cefnogi llunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth Dr Hannah Durrant a’r tîm ymchwil ehangach; mae eu harweiniad a’u hadborth adeiladol wedi bod yn amhrisiadwy.

Findlay – Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio gyda’r Ganolfan. Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai gweithio o bell yn her, ond mae yna drefniant da iawn gyda chyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd, felly doeddwn i byth yn teimlo mod i’n gweithio ar fy mhen fy hun. Mae’r gefnogaeth gan y staff hefyd wedi bod yn wych, yn enwedig fy ngoruchwyliwr Dr Andrew Connell. Roeddwn i’n teimlo fel rhan o’r tîm o’r cychwyn cyntaf ac rydw i wedi mwynhau clywed am waith y staff eraill hefyd.

 

2. Beth ydych chi wedi gallu ei wneud / cymryd rhan ynddo trwy eich interniaeth na fyddech wedi gallu ei wneud fel arall?

Aimee – Rhoddodd fy ymchwil yn ystod fy nghyfnod yn y Ganolfan gyfle i mi weithio gyda grŵp ffermwyr yng ngogledd Cymru, gan gymhwyso sgiliau yr oeddwn wedi’u datblygu yn ystod fy ngwaith gyda grwpiau ffermwyr yn Lloegr, er mwyn deall sut roedd y gwahanol gyd-destunau cenedlaethol yn effeithio ar eu gwaith cydweithredol. Rwyf eisoes wedi dysgu llawer am waith y grŵp, eu nodau, a’u cyfraniad at ein gwybodaeth am arferion rheoli tir cynaliadwy mewn ardaloedd ucheldir, ond rwy’n gobeithio teithio i gwrdd â nhw’n bersonol a diolch iddynt am gymryd rhan yn fy mhrosiect unwaith bydd hynny’n bosibl.

Hefyd, doeddwn i erioed wedi meddwl am greu podlediad nes i mi gyrraedd y ganolfan a thrafod allbynnau’r prosiect. Cyfrannais at gyfres sgyrsiau PEP Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), gan drafod Gweledigaeth Cymru Wledig gyda’r Athro Michael Woods, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a Guto Davies , ffermwr yng ngogledd Cymru. Roedd yn brofiad gwych!

Findlay – Mae’r interniaeth wedi rhoi cyfle i mi gynhyrchu gwaith a fydd, gobeithio, yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i lunwyr polisi. Mae gweithio gyda’r Ganolfan hefyd wedi caniatáu i mi ymgysylltu’n fwy uniongyrchol â llunwyr polisi wrth gasglu data. Rwyf wedi gallu cynnal cyfweliadau â staff uwch o fewn y llywodraeth, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei wneud fel arall.

 

3. Sut ydych chi’n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi’ch astudiaethau PhD?

Aimee – Mae’r interniaeth wedi bod yn gyfle i ddatblygu fy meddyliau ar gyfer fy PhD yn fwy cyffredinol, ac erbyn hyn mae gen i fwy o werthfawrogiad o’r broses o lunio polisi a’r llenyddiaeth gysylltiedig. Bydd fy nghanfyddiadau o’r prosiect hwn yn bwydo i mewn i astudiaeth gymharol o brofiadau grwpiau ffermwyr o Loegr a Chymru yn ystod cyfnod o newid polisi sylweddol.

Findlay Mae yna lawer iawn o orgyffwrdd rhwng fy mhwnc PhD a’m gwaith yn y Ganolfan, gan fod fy holl waith yma yn cyfrannu i ryw raddau at fy ymchwil. Mae’r amser a dreuliais yn gweithio ar rywbeth heblaw fy PhD hefyd wedi rhoi cyfle i mi edrych yn ôl ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud hyd yma a nodi meysydd i’w gwella.

 

4. Sut ydych chi’n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi’ch datblygiad proffesiynol ehangach?

Aimee – Roedd gweithio gyda Thîm Ymchwil y Ganolfan yn rhoi cyfle i mi feddwl sut gallwn i gymhwyso fy ngalluoedd presennol mewn tîm newydd. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth gynllunio a chyflawni prosiectau tymor byr ac wrth rannu fy ngwaith â chynulleidfa ehangach. Rwyf wedi cael amser i ddatblygu sawl sgil allweddol yn ystod fy interniaeth ac rwy’n edrych ymlaen at eu defnyddio wrth i mi barhau â’m hymchwil PhD.

Findlay – Rwyf wedi mwynhau yn arbennig bod yr interniaeth wedi canolbwyntio ar gynhyrchu allbynnau ymarferol sy’n berthnasol i lunwyr polisi. Mae hynny wedi rhoi ffocws i mi y tu hwnt i gyd-destun academaidd ac mae’n bendant wedi helpu fy natblygiad fel ymchwilydd.

 

Dywedodd yr Athro James Downe, Cyfarwyddwr Ymchwil WCPP – “Nod rhaglen Interniaethau PhD y Ganolfan yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o ymgymryd ag ymchwil mewn sefydliad sy’n gweithio yn y man lle mae ymchwil a llunio polisi yn cwrdd â’i gilydd. Mae Aimee a Findlay wedi gwneud cyfraniad rhagorol i’r Ganolfan yn ystod y misoedd diwethaf ac maen nhw wedi caffael sgiliau ymarferol i’w defnyddio yn eu gwaith yn y dyfodol. Byddwn yn hysbysebu am interniaethau PhD pellach yn fuan ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth ddarparu tystiolaeth ar gyfer polisi.”