Gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol: dysgu o brofiad

Ar 31 Mawrth 2021, cychwynnodd Llywodraeth Cymru Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a adweinir fel y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.  Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, roi “sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol”.  Mae hyn yn arwydd o’r ymgais ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i wreiddio egwyddorion cydraddoldeb yn ei gweithgareddau ei hun, a rhai’r sector cyhoeddus ehangach.

Fel y dengys fy adroddiad Defnydd Llywodraeth Cymru o offer polisi ar gyfer prif ffrydio cydraddoldebau, mae gan Lywodraeth Cymru brofiad helaeth o ymgorffori cydraddoldeb yn ei phenderfyniadau, er ei bod wedi wynebu nifer o heriau wrth wneud hynny.  Mae’r profiadau a gwersi a ddysgwyd hyn yn cynnig awgrymiadau ar gyfer gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach.

 

Nid yw dyletswyddau statudol yn ddigonol ar eu pennau eu hunain i weithredu newid

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o ofynion statudol i hyrwyddo cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau.  Fodd bynnag, er mor drawsnewidiol yw eu potensial, nid yw’r gofynion hyn yn ddigonol ar gyfer sicrhau newid sylweddol ar eu pennau eu hunain.  Mae bylchau gweithredu, a datgysylltiad rhwng gofynion statudol i ystyried cydraddoldeb, ac allbynnau a chanlyniadau polisi, yn gyffredin. Hyd yn oed mewn achosion lle mae dyletswyddau deddfwriaethol wedi’u sefydlu, mae’r graddau y mae cydraddoldeb wedi’i ymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau yn aml yn gyfyngedig.

 

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fod yn uchelgeisiol wrth weithredu’r ddyletswydd

Dylai cyrff cyhoeddus anelu’n uchel wrth weithredu’r ddyletswydd.  Hyd yn oed pan fo dyletswyddau statudol wedi’u cyfleu’n glir a’u gweithredu’n effeithiol, mae’n bosibl na fyddant yn ddigon uchelgeisiol i gyflawni’r nodau a ddymunir.  Gall hyn fod yn wir wrth weithredu’r ddyletswydd yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y gofyniad i roi ‘sylw dyledus’, a’r diffyg ymddangosiadol o ganlyniadau penodol i gyrff cyhoeddus eu cyflawni.   Mae’n gwbl bosibl rhoi ‘sylw dyledus’ i fater, ac i hyn gael fawr ddim effaith ar allbynnau polisi na chanlyniadau economaidd-gymdeithasol.

 

Perchnogaeth ar y cyd 

Un o’r rhwystrau allweddol i weithredu yw’r diffyg cydberchnogaeth wrth ymgorffori cydraddoldeb mewn llywodraeth.  Er gwaethaf gwaith swyddogion unigol ymroddedig, mae materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn ei chael hi’n anodd ennill tir ym mhob rhan o’r llywodraeth, gyda chydraddoldeb yn aml yn cael ei ystyried yn fusnes rhywun arall.

Gan fod y ddyletswydd yn berthnasol i ‘benderfyniadau strategol’ yn unig, bydd ennyn ymroddiad a chefnogaeth ar lefel uchel yn hanfodol.  Fodd bynnag, bydd y siawns o’i gweithredu’n effeithiol yn fwy os yw swyddogion ym mhob rhan o gorff cyhoeddus yn teimlo lefel o gyfrifoldeb ar y cyd am ei gweithredu.

 

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Wrth adeiladu’r gydberchnogaeth hon ynghylch y ddyletswydd, dylai cyrff cyhoeddus weithio i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar draws eu sefydliadau.  Fel y dengys profiad Llywodraeth Cymru o brif ffrydio cydraddoldeb, un o’r rhwystrau allweddol i weithredu yw diffyg ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ymhlith swyddogion, ynghyd â dealltwriaeth gyfyngedig o sut i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu gweithgareddau.

 

Osgoi diwylliant o gydymffurfiaeth ‘blwch ticio’

Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol fod yn ymwybodol o osgoi ymddangosiad diwylliant o gydymffurfiaeth ‘blwch ticio’ wrth weithredu’r ddyletswydd.  Yn amlwg mewn profiad blaenorol o brif ffrydio cydraddoldeb yng Nghymru, ac fel a amlygwyd yn ystod ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn cychwyn y ddyletswydd, mae gofynion i ymgorffori mater wrth wneud penderfyniadau yn aml yn cael eu hystyried yn ychwanegiadau biwrocrataidd at brosesau gwneud penderfyniadau.  Dylai cyrff cyhoeddus felly weithio i sicrhau y gweithredir y ddyletswydd mewn modd ystyrlon yn hytrach na’u bod yn gweithio i wneud dim mwy na chyflawni rhwymedigaethau statudol.

 

Bod yn atebol

Un o’r rhwystrau allweddol i ymgorffori cydraddoldeb yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau yw atebolrwydd, a bydd y graddau y gellir gorfodi’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar hyn.  Fel y dengys tystiolaeth mewn nifer o achosion, os nad oes unrhyw ganlyniadau o beidio â’i wneud, mae gweithredu’n debygol o fod yn is-optimaidd, a glynu wrth y ddyletswydd yn ysbeidiol.

Yn ôl canllawiau statudol Llywodraeth Cymru, gellir dwyn achos adolygiad barnwrol yn erbyn corff cyhoeddus os teimlir nad yw’n cydymffurfio â’r ddyletswydd.  Mae archwilio dyletswyddau statudol blaenorol ar faterion cydraddoldeb yn dangos y bu hyn yn rhwystr yng Nghymru yn gyson.  Nid oes gan lawer o sefydliadau a all fod ag achos i herio’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus yr adnoddau i wneud hynny, gan gyfyngu ar y graddau y gellir gorfodi’r dyletswyddau blaenorol ynghylch ymgorffori cydraddoldebau a’r graddau y bu i hynny ddigwydd.

 

Data a thystiolaeth 

Mae profiad Llywodraeth Cymru wrth brif ffrydio cydraddoldeb yn tynnu sylw at yr angen am ddata sy’n berthnasol i gydraddoldebau wrth ymgorffori cydraddoldebau wrth wneud penderfyniadau.  Mae prinder data sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, a diffyg eglurder ynghylch sut mae’r data hwn yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau, wedi bod yn rhwystr allweddol i ymgorffori cydraddoldeb yng Nghymru yn effeithiol.

Heb ddata digonol, bydd cyrff cyhoeddus yn ei chael yn anodd ystyried anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yn effeithiol ac yn gywir wrth wneud penderfyniadau strategol, ac ni fydd ganddynt unrhyw fodd o werthuso effaith penderfyniadau o’r fath yn gywir.

Trwy ystyried y gwersi a ddysgwyd o brofiad Llywodraeth Cymru wrth brif ffrydio cydraddoldebau, gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru fod yn fwy llwyddiannus o ran gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.  Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn anodd gweithredu dyletswydd o’r fath yn effeithiol, a bydd angen mabwysiadu dull rhagweithiol ymhlith cyrff cyhoeddus os yw’r ddyletswydd am ddod yn offeryn ystyrlon ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.