Gweithio mewn partneriaeth

Yn y blog hwn, mae ein Uwch-gymrawd Ymchwil, Megan Mathias yn trafod sut mae’r Ganolfan yn denu arbenigedd er mwyn mynd i’r afael â heriau ym maes polisi cyhoeddus Cymru

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn ffodus i allu gweithio ar draws ystod eang o feysydd polisi. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar faterion mor amrywiol â sylfaen dreth Cymru, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, sefydliadau iechyd sy’n tangyflawni, cydraddoldebau, caffael – ymhlith llu o rai eraill.

Nid ydym yn arbenigwyr ym mhob un o’r meysydd hyn. Nid yw hynny’n bosibl. Yn hytrach, ein rôl yw cysylltu rhai o arbenigwyr gorau’r byd â heriau polisi yr ydym yn eu wynebu yma yng Nghymru, a gwneud hynny mewn modd deallus.  Mae hynny’n golygu ein bod yn treulio amser yn dod i ddeall yr heriau allweddol ac ystyried pa fath o arbenigedd fyddai o gymorth, cyn mynd ati i chwilio am bartneriaid posibl ar gyfer y prosiect.

Yn y pen draw, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid arbenigol mewn sawl ffordd: cydweithio ar adolygiadau o dystiolaeth, ceisio cyngor a barn arbenigol pan mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn brin, cynnal digwyddiadau er mwyn cysylltu arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus a llunwyr polisïau yn uniongyrchol â syniadau arbenigol, ac ati. Rydym bob amser yn rhoi sylw i’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud yng Nghymru, a cheisio gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth a’r cyngor arbenigol a ddarperir gennym yn amserol ac yn berthnasol.

Felly, pwy yw’r arbenigwyr hyn? Wel, mae’n bleser gennym ddweud bod rhai ohonynt yn gydweithwyr o brifysgolion yma yng Nghymru. Nid ydym yn chwilio am arbenigwyr o Gymru yn unig, ond weithiau mae ceisio dod o hyn i’r partneriaid arbenigol cywir yn ein tywys adref. Dyma’r hyn a ddigwyddodd ar gyfer y prosiect presennol ar sylfaen dreth Cymru sy’n cael ei arwain yn fedrus gan Guto Ifan ac Ed Poole yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.

Yn aml, daw i’r amlwg bod arbenigwyr yn y DU mewn sefyllfa dda i helpu. Yn aml, gall pobl sydd â gwybodaeth eang am eu maes, ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi yng Nghymru a’r DU yn ehangach, fod mewn sefyllfa i helpu i ddefnyddio tystiolaeth a syniadau sy’n deillio o bob cwr o’r byd yn ein cyd-destun ninnau (er nad ydym, yn y Ganolfan, yn rhoi’r gorau i’r cyfrifoldeb hwnnw yn llwyr). Mae’r canlynol yn enghreifftiau o bartneriaid arbenigol yr ydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd ar sail y rhesymwaith hwn:

  • Yr Athro Chris Pascal a Tony Bertram yn y Ganolfan er Ymchwil Plentyndod Cynnar yn Birmingham ar y dystiolaeth ynghylch systemau blynyddoedd cynnar yn rhyngwladol;
  • Yr Athro Sharon Collard, Cyfarwyddwr Ymchwil y Ganolfan Ymchwil Cyllid Personol ym Mhrifysgol Bryste ar y modd mae awdurdodau cyhoeddus Cymru yn trin dyledwyr sy’n agored i niwed.
  • Yr Athrawon Ellen Hazelkorn a John Goddard ar opsiynau polisi er mwyn ymgorffori cenhadaeth ddinesig prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill.

Rydym hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd. Mae hyn yn bwysig dros ben i ni – mae cyflwyno dealltwriaeth newydd yng Nghymru yn rhan greiddiol o’n cenhadaeth. Rydym yn ymgynghori’n rheolaidd ag arbenigwyr academaidd ac ymarfer rhyngwladol, ar bob prosiect. Gyda rhai heriau, rydym hefyd yn nodi partneriaid arbenigol dramor sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn bartneriaid arweiniol i ni ar brosiect. Unwaith eto, mae prosiect presennol y Ganolfan sy’n adolygu’r dystiolaeth ryngwladol ar atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yn enghraifft o hyn. Yn y maes hwn, pleser o’r mwyaf yw cydweithio â’r Doctoriaid Kaitlin Schwan a Stephen Gaetz, o’r Canadian Observatory on Homelessness a David French a Melanie Redman o A Way Home Canada, clymblaid genedlaethol Canada sy’n ceisio dod â digartrefedd ymysg pobl ifanc i ben.

Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o bartneriaethau arbenigol a gynhelir yn y Ganolfan ar hyn o bryd. Cawsom y fraint o weithio gyda nifer o bobl eraill ar brosiectau yn y gorffennol hefyd – sydd i’w gweld yn ein catalog o gyhoeddiadau.

Os hoffech ddod i wybod rhagor am sut ydym yn gweithio ar y cyd, ein partneriaethau presennol, neu’n wir os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bartneriaid gyda ni yn y dyfodol cysylltwch â mi ar bob cyfrif.