Gweithio at gyflawni economi wydn

Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd mae’r sylw’n aml yn troi at wydnwch economïau yn wyneb sioc a dirywiad. Wrth i ni fynd i’r afael â chanlyniadau economaidd tebygol coronafeirws, heb sôn am oblygiadau tymor hirach gadael yr Undeb Ewropeaidd, does dim syndod bod ein meddyliau’n troi at sut i sicrhau bod ein heconomi’n gallu gwrthsefyll unrhyw argyfwng economaidd posibl. Yn y cyd-destun hwn, mae adolygiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r dystiolaeth ynghylch gwydnwch economaidd yn dod yn fwy arwyddocaol.

Cafwyd nifer o astudiaethau ers cwymp ariannol 2008-09 sy’n edrych ar sut mae economïau’n delio gyda sioc, a beth y gall llywodraethau ei ddysgu. Mae astudiaethau o’r fath yn pwysleisio bod gwydnwch yn golygu mwy na gwrthsefyll sioc economaidd yn unig, a bod angen addasu i amgylchiadau newydd hefyd. Mae gan economi wydn y gallu i’w thrawsnewid ei hun, a thrwy wneud hynny ddosbarthu costau a buddion gweithredoedd o’r fath mewn modd cyfiawn a theg. Mae gwydnwch economaidd yn lluniadaeth gymdeithasol lawn cymaint ag un economaidd. Mae’n fater o ddewisiadau.

Mae’r llenyddiaeth yn egluro nad oes un fwled hud yn bodoli fyddai’n arwain at economi wydn. Yn hytrach, ceir cyfres o gerrig sylfaen y gellir eu gosod. Mae’r rhain yn cynnwys sail ddiwydiannol amrywiol ond rhyng-gysylltiedig, gweithlu medrus a phrofiadol, gogwydd allforio gadarnhaol, lefelau uchel o arloesi, a chorff o gwmnïau dynamig a all gystadlu ar sail ansawdd yn hytrach na’r costau isaf. Mae dibynnu ar nifer fach o sectorau, cwmnïau neu gadwyni cyflenwi cyfyngedig oll yn ein gwneud yn agored i ddioddef siociau yn y dyfodol.

Ceir tystiolaeth y gall clymau cymdeithasol cwmnïau a chymunedau hefyd chwarae rôl bwysig yng ngwydnwch economïau, gyda chwmnïau sy’n ymrwymedig i’w lleoliad, ond sydd yn dal i geisio tyfu a datblygu, yn fwy tebygol o hyrwyddo economïau gwydn. Mewn argyfwng economaidd ar sail galw, fel yr hyn sy’n cael ei greu gan yr epidemig coronafeirws, bydd goroesiad cwmnïau sydd wedi’u gwreiddio’n lleol yn pennu siâp ein cymunedau ar ôl i don gyntaf yr argyfwng basio.

Mae’r dystiolaeth ynghylch rôl polisïau’r llywodraeth yn hyrwyddo gwydnwch economïau’n gymysg. Mae’r profiad a gafwyd yn sgil cau gwaith cynhyrchu ceir Longbridge yng Nghanolbarth Lloegr yn awgrymu y gall polisïau cyhoeddus helpu i amrywio economi, cynorthwyo gweithwyr yr effeithiwyd arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth newydd a chefnogi cwmnïau y mae’r cau wedi effeithio arnyn nhw. Yn benodol, roedd gweithredu tymor byr i helpu cwmnïau oedd fel arall yn ddiddyled i fasnachu, fel gwyliau TWE a TAW, yn arbennig o effeithiol. Fodd bynnag, mae Longbridge hefyd yn dangos y bu’n rhaid i weithwyr a ddadleolwyd yn aml gymryd gwaith llai sicr ar lefel is o dal, gan ddangos bod economïau gwydn yn dal i wynebu costau unigol.

Yr hyn sy’n glir o’r dystiolaeth yw bod angen i lywodraethau wahaniaethu rhwng gweithredoedd sy’n helpu economïau i oroesi effeithiau uniongyrchol sioc, a gweithredu tymor hirach fydd yn helpu cwmnïau, gweithwyr a chymunedau i addasu i amgylchiadau economaidd yn y dyfodol. Mae’r penderfyniadau y mae llywodraethau yn eu gwneud ynghylch pa gwmnïau i’w cefnogi ac i beidio â’u cefnogi, pa weithwyr sydd i’w cefnogi ac i ba raddau, yn chwarae rhan sylweddol yn ffurfio ein heconomi i’r dyfodol.

Gall gweithredoedd polisi tymor byr fod yn seiliedig ar ysgogiadau ariannol, cymorthdaliadau, benthyciadau, credydau treth a mathau eraill o ymyrraeth, fel sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd mewn ymateb i’r epidemig coronafeirws. Bydd gweithredoedd tymor hirach yn seiliedig ar y rôl y gall llywodraeth ei chwarae yn hyrwyddo addasu a thrawsnewid, fel drwy fuddsoddi mewn technolegau newydd, uwchsgilio’r gweithlu, hyrwyddo arloesi neu annog datblygu marchnadoedd newydd.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu mai anaml y bydd gwydnwch yn amcan strategol i lywodraeth. Ychydig o enghreifftiau yn unig a geir o ymagweddau systemig at adeiladu gwydnwch economaidd. Yn hytrach, caiff polisïau eu ffurfio i fynd i’r afael â phroblemau mewn pwynt penodol mewn amser dan fathodyn gwydnwch economaidd.

Fel y mae coronafeirws wedi dangos yn greulon, does dim modd rhagweld pob sioc, sy’n golygu bod rhaid i economi wydn fod â’r gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid yn annisgwyl. Gall polisïau llywodraeth chwarae rôl yn hyn o beth drwy gryfhau’r capasiti ar gyfer gweithredu annibynnol a thrwy ymdrin ag unrhyw wendidau a nodir mewn economi. Mae hyn yn galw am safbwynt eithaf gwahanol i’r ymagweddau polisi mwy traddodiadol, sy’n gweithredu mewn ffordd ragweithiol at amcanion cyffredin.

Mae profiad diweddar yr epidemig coronafeirws hefyd yn dangos nodwedd arall o economïau gwydn sy’n aml yn cael ei hanwybyddu yn y llenyddiaeth: pŵer cyfunol penderfyniadau unigol. Gall gweithredoedd unigol gan gartrefi, cwmnïau a chyrff eraill fod yn rym pwerus yn hyrwyddo gwydnwch economi, neu fel arall.

Yn yr amgylchiadau presennol, mae penderfyniadau unigol i ganslo digwyddiadau chwaraeon, cwtogi teithio a dechrau ar ‘bellhau cymdeithasol’ cyn cael cyngor gan y llywodraeth i wneud hynny’n creu perygl o wthio’r economi i ddirwasgiad, yn enwedig pan fydd y gweithredoedd yn atgyfnerthu ei gilydd. Er bod hyn yn amlygu rôl bosibl llywodraeth yn fframio naratif ‘gwydnwch’, mae hefyd yn dangos bod angen dealltwriaeth gyffredin o’r risgiau a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd i fod yn effeithiol. Mae’r ffordd orau i harneisio’r pŵer ‘gweithredu’ hwn yn parhau’n gyfle ac yn her.

Rydym ni wedi dysgu o’n gwaith ni bod cryfhau gwydnwch economi’n dibynnu ar bolisïau cadarn sy’n ceisio hyrwyddo gallu economi i addasu yn wyneb ansicrwydd, yn ogystal ag ymateb os ceir sioc ac yn ei sgil. Dim ond un actor ymhlith llawer yw’r Llywodraeth, ac mae pwerau Llywodraeth ddatganoledig yn fwy cyfyngedig fyth. Mae hyn yn atgyfnerthu’r neges fod polisïau sydd wedi’u hanelu at gryfhau gwydnwch economi yn gorfod cael perchnogaeth gyffredin ac ymdeimlad cyffredin o gyfeiriad. Ymhellach, os ydym ni wir am adeiladu economi wydn yna mae angen gweledigaeth gyfannol sy’n cwmpasu meysydd y tu hwnt i’r rheini sy’n gysylltiedig â datblygu economaidd yn draddodiadol.

Mae’r potensial gan Lywodraeth Cymru  i fod ar flaen y gad gydag ymagwedd arloesol o’r fath os yw’n dymuno hynny. Mae ganddi’r offerynnau a, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae ganddi’r fframwaith ar gyfer gweithredu. Wrth geisio cryfhau gwydnwch economi Cymru, mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ill dwy ddewisiadau i’w gwneud o ran ble i osod ffocws eu cymorth. Bydd y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud heddiw yn siapio economi Cymru am flynyddoedd i ddod.