Gofalu am y Sector Gofal: Sut Gallwn Ni Gefnogi Modelau Newydd ar gyfer Cartrefi Gofal

Mae angen help ar ofal cymdeithasol. Dim ond am hyn a hyn o amser y gallwn ddweud bod gwasanaeth mewn “argyfwng” cyn bod hynny’n dod yn normal, ac mae’r enw “gofal cartref” ei hun yn gwneud i’r peth swnio fel tasg y mae angen ei chwblhau. Yn ein hymgais i “drwsio’r” system gofal cymdeithasol rydym wedi dechrau siarad amdani fel petai’n beiriant mewn ffatri. Rydym yn siarad am y “model”, y “sector”, ond mae’r holl dermau hyn yn esgeuluso un gydran graidd – y bobl wrth eu gwraidd.

Mae’r heriau sy’n wynebu gofal cymdeithasol yn amlwg; o gyllid i broblemau staffio cyn Covid-19 i brinder Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn ystod y pandemig. Mae’r problemau sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol wedi dechrau dominyddu’r sgwrs. Felly, mae polisi ac ymchwil wedi dechrau cael eu dominyddu gan ddyhead i “drwsio’r” problemau, gyda disgwyl i unrhyw wasanaethau newydd allu ehangu a lledaenu i fynd i’r afael â phroblemau o’r fath.

Rydym wedi creu system lle nad yw’r rheini sy’n manteisio ar wasanaeth yn cael eu galluogi i fyw bywyd da a lle mae’r rheini sy’n darparu gwasanaethau yn aml yn ennill cyflog isel.

Mae’r adroddiad – Modelau amgen o ofal cartref – gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn adolygiad i’w groesawu o rai o’r modelau gofal cartref llai adnabyddus neu lai o faint, fel timau hunan-reoli (Timau Lles), micro-ddarparwyr fel y rheini yng Ngwlad yr Haf, neu gydweithfeydd gofal (NW Care Coop). Mae’r modelau hyn yn herio’r model gofal cartref confensiynol – y model amser a thasg y profwyd ers cryn amser nad yw’n bodloni anghenion y rheini y dylai fod yn eu gwasanaethu.

Yn fy adroddiad yn 2019, Radical Home Care: How Self-Management Could Save Social Care archwiliais nid yn unig y gwerth y gallai ffyrdd newydd o weithio ei gynnig i ofal cymdeithasol ond hefyd y problemau sylfaenol sydd, yn aml, yn golygu bod y modelau newydd hyn yn ei chael hi’n anodd datblygu y tu hwnt i’r gofod arloesi.

Wrth i ni archwilio dyfodol gofal cymdeithasol, mae’n bwysig nad ydym yn aros ac aros am y fwled arian neu’r greal sanctaidd a fydd yn creu “datrysiad”. Yn union fel y bobl y mae gofal cymdeithaso yn eu cefnogi, mae angen archwilio llawer o anghenion a llawer o opsiynau i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn bodloni anghenion ein poblogaeth heddiw a fory. Fodd bynnag, y prif beth y mae angen i ni ei ddatrys yw arian. Tanariannu sydd wedi ein harwain ni i’r pwynt hwn, yn y bôn. Os na fyddwn yn mynd i’r afael â hyn bydd llawer o bobl yn parhau i gael cefnogaeth annigonol a llawer o staff yn parhau i gael eu tan-dalu, gan wneud rôl y gweithiwr cymdeithasol yn un anneniadol, nad yw’n cael ei gwerthfawrogi’n iawn.

Un her i ofal cymdeithasol yw symud i ffwrdd o’r syniad bod yna ‘fodel gwasanaeth cyfan’ a all fodloni’r holl anghenion hyn. Mae angen i ni greu system sydd â lle i wasanaethau pitw, i anghenion unigol, waeth pa mor gymhleth maen nhw’n ymddangos, lle mae staff yn teimlo’n werthfawr a hapus ac yn cael eu talu’n dda. Yn y bôn, i alluogi pobl i gael bywyd da mae’n rhaid i ni alluogi staff i brofi gwaith da – mae cysylltiad annatod rhwng y ddau.