Gofal Cartref: y gwirionedd?

Fy enw i yw Lucy ac ar hyn o bryd dwi’n gweithio fel Swyddog Polisi i’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (NCB). Mae’r NCB yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Nod y bwrdd yw cefnogi a hyrwyddo’r broses o integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gomisiynu, polisi ac ymarfer. Ond stori arall yw sut y cyrhaeddais i yma!

Dechreuais i mewn gofal yn 18 oed a chwympais i mewn i’m gyrfa drwy ddamwain, a dweud y gwir. Buan y darganfyddais, ar ôl cael fy lleoli mewn gofal preswyl i oedolion ar brofiad gwaith, mai dyna lle ro’n i eisiau bod. Doedd gen i ddim syniad cyn hyn o ba mor foddhaus y gall fod i ofalu am eraill. Dwi wedi gweithio mewn nifer o rolau gofal, ond mae’n rhaid i mi ddweud mai gofal cartref yw lle dwi’n dwlu bod. Rhedodd fy chwaer a minnau asiantaeth ofal fach lwyddiannus dan berchnogaeth y teulu am 14 mlynedd a dyma’r profiad gorau dwi wedi’i gael yn fy ngyrfa hyd yn hyn. Dyma hefyd y peth anoddaf i mi ei wneud erioed ac o bosib y mwyaf straenus!

Mae gofal cartref yn fyd unigryw. Mae’n ddi-stop, yn newid yn gyson ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth. Mae ‘na ddyddiau da, dyddiau gwael, a diwrnodau pan ry’ch chi am fynd i weithio’n rhywle arall!  Ond yna ry’ch chi’n mynd i gynnig gofal ymarferol, neu gefnogi staff gofal, ac maen nhw’n eich atgoffa o’r rhesymau dros ‘neud be’ chi’n ‘neud. Pe bai’n rhaid i mi ddweud un stori dda ac un stori wael wrthych chi, byddwn i’n ei chael hi’n anodd. Mae ‘na amseroedd anodd wedi bod, a dyddiau pan dwi wedi crio a methu â chysgu’n poeni am ddefnyddwyr gwasanaeth, staff, arian, rotas, tywydd garw, ceir yn torri i lawr, prinder staff, salwch ac, yn fwyaf annifyr, colli defnyddwyr gwasanaeth. Ond, ar ochr arall y geiniog mae’r teimlad gorau yn y byd, yn fy marn i – mae gwybod eich bod chi wedi helpu a chefnogi rhywun pan oedd wir eich angen chi arno, a’r cyfan yng nghysur ei gartref ei hun, yn anrhydedd. Mae aberthau personol fel codi o’r gwely am 6am fore Nadolig, cerdded ar flaenau’ch traed drwy’r tŷ i beidio â deffro’ch teulu a mentro i’r oerfel i gyd yn werth chweil pan ry’ch chi’n gweld gwên braf y person ry’ch chi’n gofalu amdano pan fyddwch chi’n ei ddeffro gyda het Siôn Corn sy’n fflachio neu dinsel yn eich gwallt! Mae cefnogi staff i fod y gorau y gallant fod, cwrdd â rhywun sy’n newydd i ofalu mewn cyfweliad a gweld y potensial ynddo, a’i wylio’n datblygu ei sgiliau, ei wybodaeth a’i yrfa yn deimlad mor wych. Fel gofalwr ifanc, a thrwy gydol fy ngyrfa, dwi wedi cael mentoriaid a staff profiadol a wnaeth fy nghymryd i o dan eu hadain a dysgu cymaint i fi. Fyddwn i ddim yr un person heddiw hebddyn nhw, a byddaf bob amser yn ddiolchgar.

Dwi’n teimlo nad yw gofal cartref bob amser yn cael y clod mae’n ei haeddu. Mae’r staff sy’n gweithio yn y diwydiant hwn yn wirioneddol anhygoel ac ro’n i bob amser yn synnu at gryfder a gwytnwch ein tîm, hyd yn oed yn wyneb adfyd. Roedd y Diawl o’r Dwyrain yn gynnar yn 2018 yn enghraifft dda o hynny. Roedd staff gofal yn barod i gerdded milltiroedd drwy’r eira a’r rhew i roi gofal i’r bobl fwyaf agored i niwed, nid gan fod yn rhaid iddyn nhw ond gan eu bod nhw’n poeni – dydyn nhw byth yn stopio poeni. Dywedodd rhywun wrtha i unwaith, pe baech chi’n torri gwir ofalwr yn ei hanner, byddai’r gair ‘gofal’ yn rhedeg drwyddo fel india-roc! Mae gofal yn alwedigaeth, nid “dim ond swydd”. Mae’r heriau sy’n wynebu gofal cartref yn niferus: cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol; rheoli teithio; a disgwyliadau ‘amser a thasg’, dim ond i enwi rhai.

Mae’n ysbrydoledig gweld y gwaith y mae’r NCB yn ei wneud o ran mesur gwir gostau gofal, cefnogi datblygiad dulliau newydd o gomisiynu a darparu, archwilio modelau gofal cymhleth, a chodi proffil staff gofal a’r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r staff hyn yn delio â sefyllfaoedd anhygoel o gymhleth, anodd a blinderus (yn gorfforol ac yn emosiynol) bob dydd ac yn dal i wenu’r holl ffordd. Nhw yw’r rhai sy’n dal llaw eich anwyliaid pan maen nhw’n hapus, yn drist, yn ofnus, yn ddig, yn rhwystredig, neu hyd yn oed yn marw.

Dwi’n gweld eisiau gofalu’n fawr a dwi’n falch iawn o fod yn weithiwr gofal. Gobeithio y gall fy rôl newydd yn yr NCB helpu i gefnogi a hyrwyddo’r diwydiant sydd mor annwyl i fi.

Mae’r Bwrdd yn cynnal digwyddiad i ddathlu gwaith y sector gofal cartref ddydd Mercher 24 Mawrth 2021. Ein nod yw i hwn fod yn ddigwyddiad lle gall darparwyr a chomisiynwyr ddod ynghyd, rhannu arfer da a chael gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes megis comisiynu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, rhoi meddyginiaeth yn ddiogel ac yn effeithiol a chyflogau teg i staff yn y sector, dim ond i enwi rhai.

Mae gwaith yr NCB yn llawer ehangach na gofal cartref yn unig. Os hoffech wybod mwy am y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ym mis Mawrth, cysylltwch â ni. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am y gwaith ry’n ni’n ei wneud ar hyn o bryd a’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

I bawb sy’n gweithio yn y diwydiant anhygoel hwn – cofiwch pa mor anhygoel ydych chi a daliwch ati i wneud yr hyn ry’ch chi’n ei wneud cystal.