Ein rhan ni yn adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywedd

Mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog adolygiad o “bolisïau rhywedd a chydraddoldeb [i roi] symbyliad newydd i’n gwaith”. Bydd yr adolygiad yn ystyried yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad yw’n gweithio gystal yng Nghymru, yn cynnig adolygiad o ymarfer gorau rhyngwladol ac yn argymell sut y gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd yn well.

Bydd cyfnod cyntaf yr adolygiad yn disgrifio camau gweithredu buan y gallai’r Llywodraeth eu cymryd, yn ogystal ag amlinellu meysydd lle bydd angen tystiolaeth, polisi a gweithredu pellach yn y tymor canolig a hir. Cynhelir yr ail gyfnod rhwng mis Gorffennaf 2018 a mis Gorffennaf 2019, gan arwain at fap ffordd ar gyfer cydraddoldeb, wedi’i deilwra i Gymru.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn darparu adolygiad o dystiolaeth o ymarfer gorau sy’n ystyried sut mae llywodraethau o gylch y byd wedi prif-ffrydio cydraddoldeb rhywedd wrth lunio polisi, deddfwriaeth a mentrau.  Mae’r gwahaniaeth hwn, rhwng prif-ffrydio cydraddoldeb ym mhob polisi, a mentrau tymor byr gyda chyllid ansicr, yn debygol o fod yn allweddol i’r adolygiad a’r argymhellion dilynol. Mae modd i fentrau tymor byr gael effaith leol, ond gan eu bod yn gweithredu yn yr ymylon, y perygl yw bydd y normau ac arferion sefydliadol sylfaenol sy’n cynnal y status quo yn aros yn ddigyfnewid.

Mae’r ‘ddyletswydd i brif-ffrydio cydraddoldeb’, sy’n unigryw i Gymru ac sy’n golygu ei bod yn ofynnol i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru hyrwyddo cydraddoldeb cyfle i bawb yn eu portffolios, yn llywio ymagwedd croestoriadol at yr adolygiad. Mae hyn yn cydnabod bod cysyniadau cymdeithasol o rywedd, rhywioldeb, ethnigrwydd, anabledd, dosbarth ac oedran yn fecanweithiau pwerus ar gyfer siapio syniadau am rolau, ymddygiadau a nodweddion. Gall y tybiaethau hyn alluogi neu gyfyngu, gan hwyluso’r llwybr i rai a chreu rhwystrau i eraill, er enghraifft yn y farchnad lafur a bywyd gwleidyddol. Mae’r ymagwedd hon hefyd yn cydnabod gwahaniaethau ymhlith menywod a’r ffyrdd y maent yn profi anghydraddoldebau rhywedd, felly mae’n bosibl fod angen datrysiadau polisi cynnil mewn perthynas ag addysg, iechyd, diogelwch personol, cyflogaeth ac ati.

Wrth gasglu tystiolaeth yn y tymor canolig i hir dylid ceisio clywed gan ‘arbenigwyr drwy brofiad’ yn uniongyrchol a thrwy ychwanegu’r wybodaeth hon at dystiolaeth ymchwil ar anghydraddoldebau, gellid llywio’r modd y caiff polisi ei greu.

Mae hon yn foment i ymestyn ac adeiladu ar y sail ddeddfwriaethol uwch a’r ewyllys wleidyddol barhaus yng Nghymru i herio anghydraddoldebau. Mae’n gyfle i ddefnyddio tystiolaeth am ysgogwyr anghydraddoldeb i gynyddu effeithiolrwydd polisi, ac, fel y cyhoeddodd Carwyn Jones ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ‘ystyried sut rydym ni’n symud rhywedd i’r blaen ym mhob penderfyniad.’

Ceir diddordeb sy’n pontio’r cenedlaethau i greu cynnydd fel y gwelwch o’r ffilm fer hon (yn Saesneg) a grëwyd gan fyfyriwr, Ella Green, ar gyfer ei thraethawd terfynol. Mae’n dangos menywod yng Nghymru yn siarad am y dystiolaeth, yr heriau a’u profiadau o anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle.