Ehangu addysg ôl-orfodol: yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu

Ar 5ed Mai, cynhalion ni ein cyfarfod personol cyntaf ers mis Mawrth 2020, a hynny yn ein cartref newydd, sbarc|spark. Roedd yn dda gyda ni groesawu gwesteion a siaradwyr i drafodaeth am bolisïau a allai helpu i gynyddu nifer y rhai sy’n ymwneud â hyfforddiant ac addysg ar ôl 16 oed, yn sgîl ein hadroddiadau diweddar am Godi oedran addysg orfodol at 18 oed a Chynnal trefn Dysgu Gydol Oes Cymru. Roedd y cyfarfod yn gyfle gwych inni gnoi cil ar faterion o’r fath yng nghyd-destun Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil Llywodraeth Cymru sydd am roi sector yr addysg drydyddol o dan adain comisiwn newydd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio, rheoleiddio ac ariannu addysg ôl-orfodol yn y wlad hon. Cynigiodd aelodau’r panel – yr Athro Sue Maguire, y Dr Matt Dickson a’r Dr Sue Pember CBE – yn ogystal ag Olly Newton o Sefydliad Edge a Huw Morris (Llywodraeth Cymru) sylwadau a syniadau a allai helpu’r comisiwn i ehangu cyfleoedd i ddysgu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Dyma rai pethau ddysgon ni:

  1. Mae angen inni wybod beth y mae pobl ifanc yn ei wneud pan nad ydyn nhw mewn addysg ffurfiol. Ers dechrau pandemig Firws Corona, mae rhagor o anweithgarwch economaidd, llai o fyfyrwyr mewn addysg ôl-16 a mwy a mwy o bobl ifanc heb gymwysterau ffurfiol. Mae rhai pobl ifanc yn ‘anweledig’ i drefn addysg y wlad. Allwn ni ddim llunio polisïau effeithiol ar gyfer denu pobl ifanc yn ôl iddi heb ddeall ble maen nhw a pham.
  2. Daw rhagor o gyfranogi â buddion economaidd, a daw’r rhan fwyaf o’r rheiny trwy werth gydol oes cymwysterau ychwanegol a fydd yn cryfhau gallu rhywun i ennill cyflog da a llwyddo yn ei yrfa.
  3. Mae codi oedran addysg orfodol yn annhebygol o fod yn effeithiol ar ei ben ei hun, fodd bynnag. Y bwriad yn Lloegr oedd y byddai addysg orfodol hyd 18 oed yn rhan o ddiwygio ehangach sydd wedi’i roi o’r neilltu bellach. Felly, dim ond hyn a hyn o gydymffurfio sydd wedi digwydd yn Lloegr ac, o ganlyniad, dim ond hyn a hyn o fuddion sydd wedi dod. Yn lle codi oedran addysg orfodol, gallai camau eraill i annog pobl ifanc i ddysgu fod yn well — o ran costau a deilliannau.
  4. Trwy ymgysylltu â phobl ifanc y tu allan i’r drefn, gallwn ni leddfu’r hyn sy’n eu rhwystro rhag cyfranogi a gofalu bod cymorth ar gael. I rai pobl ifanc, gallai fod ar ffurf cynnig mwy hyblyg sy’n cydblethu ag amryw gyfrifoldebau eraill; i eraill, bydd cysylltiadau â chyflogwyr neu gymorth ariannol ar gyfer astudio yn bwysig. O ddeall meini tramgwydd mae dysgwyr yn eu hwynebu, bydd modd eu chwalu.
  5. Rhaid dechrau’n gynnar er mwyn i hyn oll fod yn fwyaf effeithiol. Gallai 16 oed fod yn rhy hwyr i newid meddyliau pobl ifanc a allai fod wedi penderfynu eisoes nad yw rhagor o addysg at eu dant neu nad oes amser rhydd gyda nhw i ddysgu. Felly, rhaid i ddysgu fod yn fwy hygyrch, perthnasol a diddorol drwy gydol addysg orfodol gan ofalu y bydd hyblygrwydd ac amrywiaeth o ddarpariaeth briodol ar ôl i ddisgyblion droi’n 16 oed.

Yn olaf, pwysleisiodd ein siaradwyr fod angen cynnig eglur a chydlynol ar draws llwybrau ôl-16, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y bydd Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn eu cyflwyno. Bydd angen peth amser i ddatblygu trefn addysg hyblyg, hawdd ei defnyddio, sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ond bydd o fantais fawr i Gymru ac i yrfaoedd ei phobl ifanc.