Cyflwyno Aelodau ein Bwrdd Ymgynghorol

Mae’r grŵp yn gyfuniad disglair o fwy na 20 o unigolion blaenllaw sydd â phrofiad o fod wedi gweithio ar y lefelau uchaf yn y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, academia, melinau trafod a sefydliadau ymchwil annibynnol. Mae’n cynnwys aelodau sydd â phrofiad fel gwleidyddion cenedlaethol a lleol, ymgynghorwyr gwleidyddol, gweision sifil uwch, uwch-reolwyr llywodraeth leol, iechyd, y system cyfiawnder troseddol, ysgolion ac addysg uwch.

Mae ein Grŵp Ymgynghorol yn helpu i sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn drylwyr, yn awdurdodol, ac yn annibynnol. Y grŵp yw ein ffrindiau beirniadol, yn helpu i lywio strategaeth gyffredinol y Ganolfan a’i datblygiad i’r dyfodol, ac yn ein cynghori ar ffyrdd o sicrhau bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae’r grŵp yn adlewyrchu ymrwymiad y Ganolfan i weithio ar lefel genedlaethol a lleol trwy gynnig gwybodaeth fanwl am weithio yn y ddau rychwant a’r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cyfuno arbenigedd ym mhob un o’r pedwar maes polisi allweddol y mae gwaith y Ganolfan yn canolbwyntio arnynt, sef iechyd a gofal cymdeithasol, yr economi a sgiliau, cyfiawnder cymdeithasol, a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae rhai aelodau o’r grŵp wedi’u trwytho yn yr heriau y mae Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn ymdrechu i fynd i’r afael â nhw. Mae eraill yn dod â gwybodaeth amhrisiadwy ynghylch sut mae materion tebyg yn derbyn sylw yn yr Alban, yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Mae pob aelod o’r grŵp yn gytûn yn eu cred a’u hymroddiad i ddatblygu rôl tystiolaeth wrth lywio ymatebion i’r heriau polisi hyn.

Yn ei gyfarfod cychwynnol ym mis Tachwedd, bu’r grŵp yn trafod cenhadaeth y Ganolfan, ei ffyrdd o weithio gyda gweinidogion a gwasanaethau cyhoeddus i gyd-gynhyrchu tystiolaeth a’i defnyddio, a sut gallwn ni fwyafu effaith ei gwaith. Edrychwyd yn fanwl ar waith y Ganolfan ym maes yr economi a iechyd a gofal cymdeithasol, gan drafod ei gweithgareddau, ei digwyddiadau a’i hadroddiadau diweddar yn y meysydd polisi hyn, a sut byddwn ni’n adeiladu ar hynny yn ystod y misoedd sy’n dod.

Rydym wrth ein bodd yn cael cyngor, profiad a mewnwelediad grŵp sydd mor gryf, mor brofiadol ac mor ddylanwadol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn parhau i ymledu ac yn cynnal llunwyr polisi ac ymarferwyr ledled Cymru mewn ffyrdd sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol trwy wella’r canlyniadau i ddinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth.

Tagiau