Cydgynhyrchu’n Allweddol i Gynllunio Ymyriadau Iechyd a Chyflogaeth Llwyddiannus

Roeddwn yn falch iawn o ddarllen adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth a oedd yn ystyried sut y gellid gwella canlyniadau iechyd a chyflogadwyedd drwy newid y ffordd y mae sefydliadau’n cydweithio. Mae hwn yn adroddiad amserol iawn, gan mai problemau iechyd yw un o’r rhesymau mwyaf sylweddol nad yw pobl yn gweithio yng Nghymru, gydag iechyd meddwl ac anhwylderau cyhyrysgerbydol yn cyfrannu fwyaf at y rhesymau hyn. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn dangos y gall gweithio, yn aml, fod o fudd i bobl sy’n dioddef o’r problemau hyn, ond y dylid rheoli gwaith gyda gofal a sylw er mwyn helpu pobl i fyw’r bywydau mwy heini y maent yn dymuno eu byw.

A bod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o ran canolbwyntio ar iechyd a chyflogaeth, ond roedd atebion blaenorol yn aml yn cael eu rhoi ar waith o’r brig i’r bôn, ac nid oedd cynllun yr atebion hynny na ffyrdd o’u rhoi ar waith yn cael eu hystyried yn bwysig iawn. O ganlyniad, ni wnaeth y Nodyn Ffitrwydd na’r Rhaglen Waith, ymhlith pethau eraill, wireddu eu potensial. Felly, rwy’n cefnogi prif ganfyddiadau’r adroddiad, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydgynhyrchu, partneriaethau amlasiantaethol a ffyddlondeb wrth gynllunio a gweithredu ymyriadau gyda gweithwyr iechyd a chyflogaeth proffesiynol.

Mae bod yn rhan o’r broses yn gynnar a chydgynhyrchu yn fwy tebygol o arwain at ddulliau gweithredu llwyddiannus, gan y bydd gweithwyr proffesiynol yn teimlo eu bod yn rhan o’r ateb. Mae angen cynnwys gweithwyr iechyd a chyflogaeth proffesiynol ar bob cam o’r broses, o nodi’r problemau i ystyried y dystiolaeth, datblygu’r ymyriadau ac, yn bwysig ddigon, roi’r arfer ar waith. Er hynny, mae angen cydnabod hyn hefyd fel rhan o’u rôl, nid fel cyfrifoldeb ychwanegol. Dim ond drwy’r dull hwn a gydgynhyrchwyd, sy’n seiliedig ar weithio mewn partneriaeth a thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, y byddwn yn cau’r bwlch rhwng polisi a chyflawni yn y maes hwn ac yn cael effaith wirioneddol ar fater cymhleth ac amlochrog sydd wedi effeithio’n sylweddol ar Gymru am gyfnod rhy hir o lawer. Felly, rwy’n gobeithio y caiff canfyddiadau’r adroddiad hwn eu hadlewyrchu yng nghynllun cyflogadwyedd nesaf Cymru ac y gall y camau gweithredu yng Nghymru helpu i sicrhau mwy o dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio yn y maes hwn.