Beth mae Brexit yn ei olygu i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru?

Waeth beth fydd canlyniadau’r trafodaethau Brexit ehangach, mae newid ar ddod ar 1 Ionawr; bydd y rhyddid i symud yn dod i ben, a chaiff y “system pwyntiau” newydd ei chyflwyno.  Mewn ymchwil newydd ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, edrychais i, Craig Johnson ac Elsa Oommen ar beth fydd hyn yn ei olygu i’r gweithlu iechyd yng Nghymru; ac ers i’n hadroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi, mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi llunio ei adolygiad diweddaraf o’r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder.

Mae ein casgliadau’n cynnig newyddion da a newyddion drwg. Yn hanfodol, mae’r system newydd yn sylweddol fwy rhyddfrydig na’r un a gynigiwyd yn wreiddiol gan Theresa May. Mae’r trothwy cyflog ar gyfer y Fisa Gweithiwr Crefftus wedi’i leihau o £30,000 i £25,600, ond yn ogystal â hyn mae Fisa Iechyd a Gofal newydd wedi’i gyflwyno. Ar gyfer y fisa hwn, sy’n cwmpasu nid yn unig staff meddygol ond amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, caiff y trothwy cyflog ei osod ar raddfa gyflog briodol y GIG – mewn geiriau eraill, ar gyfer rolau o’r fath gall y GIG recriwtio gweithwyr o’r tu allan i’r DU heb fodloni’r trothwy cyflog cyffredinol.

Felly er bod y system yn sylweddol fwy cyfyngol i’r rheini sy’n dod o’r UE, mae’n llai cyfyngol o lawer i’r rheini sy’n dod o’r tu allan i’r UE. O’r tua 7.5% o staff presennol y GIG nad ydynt yn wladolion y DU, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y byddai o leiaf ddau o bob tri yn gymwys am fisa gwaith.  Ni fyddai rhai o wladolion yr UE yn gymwys, yn arbennig y rheini yn y grŵp “gwasanaethau clinigol ychwanegol”, gan gynnwys gyrwyr ambiwlans, cynorthwywyr llawfeddygaeth ddeintyddol a chynorthwywyr gofal iechyd.

Er bod gan y sawl sy’n gweithio yma yn barod yr hawl i barhau i fyw a gweithio yma o dan Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE, mae’n debygol y bydd rhywfaint o effaith ar recriwtio yn y dyfodol.  Bydd yn hanfodol bwysig i’r sector – a Llywodraeth Cymru – barhau i roi cefnogaeth ac anogaeth i breswylwyr presennol sy’n hanu o’r UE i gofrestru. Ac yn wir, gallai’r llacio ar amodau i wladolion nad ydynt o’r UE helpu’r GIG, yn arbennig ar raddfeydd meddygol, lle mae 1 o bob 5 aelod o staff eisoes o’r tu allan i’r DU neu’r UE.

Fodd bynnag, mae’r goblygiadau i ofal cymdeithasol yn fwy difrifol o lawer. O ystyried pwysigrwydd darpariaeth gofal cymdeithasol i wasanaethau’r GIG a’r dyhead am system iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghymru, mae’r heriau penodol sy’n dod i’r wyneb yma yn cynrychioli bregusrwydd posibl.

Diffinnir llawer o rolau gofal cymdeithasol hanfodol fel rhai “sgil isel”, felly bydd llawer llai o rolau yn gymwys am Fisa Iechyd a Gofal neu Fisa Gweithiwr Crefftus, ac mae’r trosiant uwch o staff yn y sector yn dod â heriau penodol; gyda sgil-effeithiau tebygol i’r GIG.  Dim ond tua £17,000 yw’r cyflog cyfartalog yn y sector, sy’n is o lawer na’r trothwy cyflog.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo yn cydnabod dyfnder y pryderon, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, o ran effaith diwedd y rhyddid i symud; yn wir, mae’n trafod “goblygiadau llwm”. Mae’n argymell rhai addasiadau, yn arbennig ychwanegu uwch weithwyr gofal a chynorthwywyr nyrsio i’r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder.

Ond yn ehangach, mae’r PCY yn glynu wrth ei farn hirdymor, sef bod y broblem gyda recriwtio a chadw staff yn y sector yn ymwneud â chyflogau isel, sy’n cael ei sbarduno mewn tro gan dan-ariannu – ac mai’r ateb felly yw mwy o arian, nid ymfudo.  Mae’n anodd dadlau gyda’r egwyddor hon – ond yn ymarferol ni fydd hyn yn gysur i’r bobl yn y sector a fydd yn gorfod delio â’r pwysau uniongyrchol ar y galw a’r cyflenwad dros y misoedd i ddod.

Ac nid oes gan y PCY lawer i’w gynnig i Gymru – yr unig alwedigaeth sydd wedi’i hychwanegu at RhAP Cymru yw gweithwyr iechyd proffesiynol, ac fel dywed yr adroddiad, “mae’r manteision ymarferol o gael eich cynnwys ar y RhAP ar gyfer yr alwedigaeth hon yn eithaf cyfyngedig”, gan ei bod eisoes wedi’i chwmpasu gan y Fisa Iechyd a Gofal.

Mae’r dirwedd ymfudo, a’r goblygiadau i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, yng ngafael y set bwysicaf o newidiadau ers deugain mlynedd o bosibl; a hyn ar adeg pan mae pandemig y Coronafeirws wedi dod ag ansicrwydd ar raddfa enfawr. Yn ffodus, mae’r system newydd yn cydweddu’n well ag anghenion y GIG a Chymru na’r hyn a edrychai’n debygol ddwy flynedd yn ôl: fodd bynnag, mae heriau sylweddol o hyd, yn arbennig i’r sector gofal cymdeithasol.