Beth a wnaer ar draws y byd i fynd i’r afael â llygredd aer?

Mae’r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Strategaethau a thechnolegau ansawdd aer: Adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ryngwladol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Sarah Quarmby, Georgina Santos a Megan Mathias ac sy’n archwilio’r hyn a wyddom am wahanol ffyrdd o lanhau’r aer a anadlwn. 

Beth yw ansawdd aer?

Caiff ansawdd aer ei fesur yn ôl lefelau cymharol y llygredd yn yr aer. Mae’r rhan fwyaf o lygredd aer mewn ardaloedd trefol yn cael ei achosi gan draffig ar y ffyrdd. Mae diwydiant trwm, amaethyddiaeth a llygredd aelwydydd yn chwarae rhan hefyd, ond mae’r rhain yn tueddu i fod yn gwella neu’n aros yr un peth dros amser, tra bod llygredd traffig ffyrdd yn gyffredinol yn gwaethygu.

Mae pum prif lygrydd sy’n fwyaf niweidiol i iechyd dynol: mater gronynnol (PM2.5 a PM10), ocsidau nitrogen (NOx), sylffwr deuocsid (SO2), carbon monocsid (CO) a chyfansoddion organig anweddol (VOCs). Mae cyfrannau uchel o’r sylweddau hyn yn yr awyr yn achosi amrywiaeth o broblemau iechyd, ac am y rheswm hwn mae eu lefelau’n cael eu rheoleiddio gan ganllawiau rhyngwladol, er enghraifft gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â deddfwriaeth gwledydd unigol. Mae’n werth nodi bod y nwyon tŷ gwydr sy’n achosi cynhesu byd-eang yn wahanol i’r llygryddion a restrir uchod, ond mae llosgi tanwydd ffosil yn achosi llygredd yn yr aer a chynhesu byd-eang. Yn y modd hwn, mae cynhesu byd-eang ac ansawdd aer yn faterion ar wahân ond mae cysylltiad rhyngddynt.

Beth sy’n cael ei wneud am lygredd aer?

Mae llywodraethau ledled y byd yn dechrau gweithredu’n greadigol o ran ffyrdd i wella’r aer y mae eu dinasyddion yn ei anadlu. Mae dwy brif ffordd o edrych ar ansawdd aer: naill ai ceisio atal llygryddion rhag cael eu cynhyrchu, neu eu dileu unwaith maen nhw yn yr aer. Mae’r ymdrechion i wneud yr olaf yn tueddu i fod yn fwy anghyffredin, gydag enghreifftiau sy’n cynnwys simnai anferth yn Xi’an, Tsieina sy’n hidlo’r aer sy’n mynd trwyddi, canonau dŵr yn Delhi sy’n golchi llygredd o’r aer, a phaent sy’n adweithio â nitrogen deuocsid, gan ei dynnu o’r aer. Yn ddiweddar, mae dyfeisiau hidlo aer hefyd wedi’u gosod ar fysiau yn Southampton. Nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y math hyn o fentrau yn gweithio, nid lleiaf oherwydd mai â chyfran fach iawn o’r aer yn unig y maent yn dod i gysylltiad.  Fel yr ysgrifennodd yr Athro Alastair Lewis yn ddiweddar, “mae’n llawer haws meddwl am dechnolegau a chynlluniau sy’n atal allyriadau niweidiol yn y ffynhonnell, yn hytrach na cheisio cipio’r llygredd sy’n digwydd o ganlyniad ar ôl iddo gael ei ollwng a chyrraedd yr aer.”

Felly beth sy’n gweithio?

Gan fod y rhan fwyaf o lygredd aer trefol yn dod o’r traffig, un ffordd o atal llygryddion rhag cael eu cynhyrchu yw cyfnewid defnydd unigolion o geir tanwydd ffosil am ffurfiau cludiant amgen. Mewn cyferbyniad â cherbydau sy’n cael eu gyrru gan danwydd ffosil, nid yw cerbydau trydan yn cynhyrchu allyriadau wrth gael eu gyrru.  Gan fod rhaid i’r trydan sy’n eu pweru gael ei gynhyrchu rywsut, mae cerbydau trydan yn dal i gynhyrchu mater gronynnol o ôl traul breciau a theiars, ond maent yn creu llawer llai o lygredd na’u cymheiriaid tanwydd ffosil.

Gall rhai dulliau effeithiol eraill o wella ansawdd aer fod yn llawer symlach, er bod tŵr sugno mwrllwch Tsieina a cheir trydan yn creu penawdau gwell.  Ceir tystiolaeth o blaid y mentrau hyn:

Dangoswyd bod parthau allyriadau isel, lle mae defnydd o gerbydau yn gyfyngedig, yn cael effeithiau cadarnhaol ar ansawdd aer yn lleol, er bod perygl y gallai pobl osgoi’r ardal yn hytrach na pheidio â defnyddio’r car o gwbl, a fyddai’n golygu bod y llygredd yn syml wedi symud i rywle arall.

Mae gostwng terfynau cyflymder yn fesur effeithiol, yn bennaf oherwydd ei fod yn golygu bod gyrwyr yn stopio a chychwyn llai, yn hytrach na bod o ganlyniad i yrru arafach ynddo’i hun. Mae terfynau cyflymder is hefyd yn cael effaith ar unwaith bron ar ansawdd yr aer, sy’n golygu eu bod yn fesur tymor byr defnyddiol.

Gall rhwystrau ffisegol ar hyd ffyrdd atal llygredd rhag ymledu i’r ardaloedd o amgylch, yn dibynnu ar eu dyluniad a’r tywydd lleol.  Gwell fyth yw rhwystrau sydd wedi’u creu’n rhannol o lystyfiant.

Hefyd nid yw teithio llesol, sy’n cynnwys cerdded a beicio, yn cynhyrchu unrhyw lygredd. Os yw beicio i fod yn ffordd ddeniadol o deithio o gwmpas, mae angen seilwaith addas, megis rhwydwaith o lonydd beicio pwrpasol.

Mae dulliau teithio a rennir, fel trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn achosi llai o lygredd, ond yn aml mae angen anogaeth ar bobl i newid o ddefnyddio ceir preifat. Mae un ffordd o sicrhau’r newid ymddygiad yma ar waith ym mhrifddinas Estonia, Tallinn, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod ar gael am ddim ers 2013.

Yn olaf, ceir rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod mentrau “trefi gwyrdd” fel gerddi fertigol a waliau gwyrdd yn cael effaith fuddiol ar ansawdd aer, yn enwedig mewn amgylcheddau adeiledig. Gall llystyfiant weithredu fel hidlydd aer naturiol, gan fod rhai llygryddion yn cael eu hamsugno gan y dail. Ar y llaw arall, ar strydoedd ag adeiladau tal, gallai coed gadw’r llygredd ar lefel y stryd, gan wneud ansawdd  yr aer yn waeth-maen nhw’n fwyaf buddiol mewn ardaloedd llai adeiledig. (Mae yna hyd yn oed astudiaethau wedi cael eu gwneud ar y rhywogaethau gorau o goed ar gyfer gwella ansawdd aer).

Mae hyn oll yn dangos nad y mentrau mwyaf effeithiol o ran ansawdd aer yw’r rhai mwyaf cyffrous o reidrwydd.  Mae’r technolegau sy’n dileu llygredd o’r aer heb eu profi eto i raddau helaeth, yn enwedig ar y raddfa a fyddai’n angenrheidiol i sicrhau unrhyw effaith amlwg.  Er y gallai dyfodol mesurau ansawdd aer gynnwys technolegau newydd megis cerbydau trydan, gallai hefyd fod yn seiliedig ar bethau mor syml â’r terfyn cyflymder, rhwystr wrth ymyl y ffordd a llwybr beicio.