Atgyfnerthu’r Cysylltiadau rhwng Ymchwil Academaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Derbynnir yn gyffredinol bod gan ymchwil academaidd rôl bwysig i’w chwarae o ran llunio a chraffu ar bolisi, ond nid oes un ffordd yn unig o gael y maen i’r wal. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) yn ymwneud â rhai mentrau cyffrous i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno i’r gwleidyddion sydd ei hangen ar yr adeg gywir.

Gan adeiladu ar flog blaenorol, ‘How does research get into the National Assembly for Wales?‘, edrychwn ar rai o’r ffyrdd y gall y Cynulliad ac ymchwilwyr academaidd gadw mewn cysylltiad.

Y Cynulliad yw’r sefydliad sy’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau a’i chamau gweithredu. Wrth feddwl am y Cynulliad, mae’n hawdd iawn meddwl am ddadl yn y Senedd lle mae Aelodau’r Cynulliad yn trafod deddfwriaeth neu’n croesholi’r Prif Weinidog. Mae llawer mwy o waith na hynny yn cael ei wneud yn y cefndir, yn aml gan glercod ac ymchwilwyr.

Yn wir, mae gan y Cynulliad ei Wasanaeth Ymchwil pwrpasol ei hun sy’n ymgymryd â nifer o rolau. Mae rhan fawr o waith y Gwasanaeth Ymchwil yn ymwneud â phwyllgorau. Mae’r rhain yn grwpiau ffurfiol o Aelodau’r Cynulliad sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion penodol sy’n ymwneud â pholisi. Gallwch weld y pwyllgorau gwahanol ar wefan y Cynulliad yma. Mae pwyllgorau’n ystyried gwariant y Llywodraeth, yn archwilio polisïau ac yn trafod unrhyw gyfreithiau newydd y mae’r Llywodraeth yn eu hargymell. Ar gyfer pob ymchwiliad i fater penodol, mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn gwneud ymchwil gefndirol, a bydd yn rhoi dogfen friffio ar gyfer pob cyfarfod i Aelodau’r Cynulliad ar y pwyllgor.

Ar wahân i friffio pwyllgorau, mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn ymateb i geisiadau difyfyr am wybodaeth gan Aelodau’r Cynulliad, a elwir yn ymholiadau. Gall y rhain ddeillio o faterion penodol sy’n wynebu etholwyr, neu bryderon ar lefel fwy cenedlaethol nad yw pwyllgorau yn rhoi sylw iddynt ar hyn o bryd. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn gwneud gwaith rhagweithiol ac yn ymchwilio i faterion amserol nad ydynt yn ymwneud ag ymchwiliad nac ymholiad penodol, ond sy’n bwysig i’w trafod, gan gynnwys materion sy’n destun dadl yn y Senedd. Caiff allbynnau eu cyhoeddi ar flog y Gwasanaeth Ymchwil, Pigion, ar ffurf erthyglau cryno sy’n crynhoi’r materion hyn.

Mae ymchwilwyr academaidd yn ymgysylltu â’r Cynulliad fwyaf drwy ddarparu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau pwyllgorau. Fel arfer, bydd ymchwilwyr yn cadw llygad ar y pynciau y mae’r pwyllgorau yn ymchwilio iddynt, a phan fydd rhywbeth sy’n berthnasol i’w hymchwil yn codi, byddant yn ymateb i gais am dystiolaeth ysgrifenedig. Mae gwefan y Cynulliad yn manylu ar y broses hon yma. Mae academyddion yn defnyddio’u gwybodaeth am bwnc penodol er mwyn ymateb i’r ceisiadau hyn. Os caiff y dystiolaeth ysgrifenedig ei hystyried yn arbennig o berthnasol, efallai y gofynnir i’r academydd gyflwyno’i ymchwil ac ateb cwestiynau yn ystod cyfarfod pwyllgor. Fel arall, ar gyfer ymchwilwyr ar adeg gynharach yn eu gyrfa, mae’r interniaethau tri mis y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn eu cynnig i chwech i wyth o fyfyrwyr PhD y flwyddyn yn ffordd arall o ymwneud â’r broses bolisi.

Yn ogystal â’r systemau traddodiadol sy’n cael eu defnyddio gan ymchwilwyr yn ystod y broses bolisi, mae’r Cynulliad yn treialu ffyrdd newydd o atgyfnerthu ei gysylltiadau â’r gymuned academaidd. Mae un o’r mentrau hyn, sef y Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd, yn gofyn i uwch academyddion weithio gyda’r Gwasanaeth Ymchwil ar bwnc penodol sy’n ymwneud â’u maes arbenigedd. Mae’r cynllun wedi bod ar waith am ychydig dros flwyddyn, ac mae chwe academydd wedi bod yn rhan ohono. Maent wedi cyfrannu at weithgareddau sy’n amrywio o lunio adroddiad ar ddatblygu economi’r gogledd, casglu tystiolaeth ar ddementia ac ystyried rhaglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol. Er mwyn gweld pwy sydd wedi cymryd rhan a’r hyn y maent wedi’i wneud, darllenwch yr erthygl hon yn Pigion. Mae’r Cynulliad yn bwriadu gofyn am geisiadau ar gyfer rownd nesaf y Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd yn ddiweddarach yn 2018.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled y DU i dreialu gwasanaeth “paru” ymchwilwyr academaidd â llunwyr polisi, sef y Gwasanaeth Gwybodaeth am Dystiolaeth. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd o ran casglu data a threialu yng Nghymru, nod y gwasanaeth yw creu cronfa ddata o academyddion sy’n fodlon rhoi tystiolaeth i Aelodau’r Cynulliad ar gais ac ar fyr rybudd. Mae’r tîm sy’n gyfrifol am greu’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Dystiolaeth hefyd wedi bod yn gweithio gyda Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon er mwyn creu adnodd sy’n ategu gwaith presennol eu priod Gwasanaethau Ymchwil orau.

Fodd bynnag, tan i’r gronfa ddata fod ar waith, efallai y bydd angen i ymchwilwyr a hoffai fod yn rhan o’r broses llunio polisi fabwysiadu strategaethau amgen er mwyn dod yn hysbys i’r Cynulliad. Un dull gweithredu na ddylai ymchwilwyr ei ddiystyru, er ei fod yn un syml, yw cysylltu â’r Gwasanaeth Ymchwil er mwyn rhoi esboniad o’u cymwysterau a’u meysydd arbenigedd. Y person gorau i gysylltu ag ef/hi yw’r arbenigwr perthnasol yn y maes pwnc, a gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yma. Yna, bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn cofnodi manylion yr ymchwilydd ac yn cysylltu ag ef/hi pan fydd angen ei (h)arbenigedd.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil bob amser yn ceisio ymgysylltu ag academyddion er mwyn gwella gwaith y Cynulliad o graffu ar Lywodraeth Cymru. Yn yr un modd, mae ymchwilwyr yn chwilio am fwy o ffyrdd y gallant ymwneud â’r broses llunio polisi, yn bennaf oherwydd mwy a mwy o ofynion i ddangos effaith wirioneddol eu hymchwil. Mae’r mentrau uchod yn ceisio manteisio ar barodrwydd pawb ac atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng y Cynulliad ac ymchwil academaidd.