Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru

Er mwyn helpu i ddatblygu ein gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cefais fy nghomisiynu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal ymarfer mapio cychwynnol o’r ymyriadau sydd ar waith ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Er mwyn strwythuro’r mapio, defnyddiais yr un deipoleg atal a’r hyn a fabwysiadwyd gan Kaitlin Schwan a’i chydweithwyr yn eu hadolygiad rhyngwladol o dystiolaeth sy’n nodi pum categori atal; atal strwythurol, atal systemau, ymyriadau cynnar, atal dadfeddiannu a sefydlogrwydd cartrefu. Gwnaed y mapio o safbwynt cartrefu, gan dynnu ar wybodaeth a gyhoeddwyd a chyfweliadau ffôn gydag unigolyn allweddol ym mhob un o’r timau opsiynau cartrefu.

Profodd teipoleg atal yn fframwaith defnyddiol i osod yr ystod o ymyriadau digartrefedd ymhlith pobl ifanc ynddo. Mae’r adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth yn casglu y dylai atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc gynnwys y pum edefyn atal i gael yr effaith fwyaf. Mae’r mapio’n dangos bod y rhan fwyaf o ymyriadau lleol yng Nghymru’n dod dan gategorïau atal systemau, ymyriadau cynnar a sefydlogi cartrefu. Felly mae gwaith i’w wneud ar atal strwythurol ac atal dadfeddiannu sydd wedi’i dargedu’n benodol at bobl ifanc.

Mae’r mapio hefyd yn dangos bod trefniadau gwaith a gwasanaethau i bobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd yn amrywio’n sylweddol rhwng awdurdodau. Mae gan rai awdurdodau dimau amlasiantaethol sydd wedi’u cyd-leoli, cysylltiadau gwaith agos rhwng gwasanaethau tai a phlant ac amrywiaeth o opsiynau atal, cartrefu a chymorth i bobl ifanc hyd at 25 oed. Mewn awdurdodau eraill, mae’n amlwg nad yw hyd yn oed yr arferion gwaith sy’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth – e.e. cyd-asesiadau i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a chynllunio llwybrau i’r rheini sy’n gadael gofal – yn cael eu cynnal yn gyson. Mae gan leiafrif o awdurdodau agwedd generig at ddigartrefedd, gan ddisgwyl i bobl ifanc gyrchu gwasanaethau a phrosiectau sydd yn cael eu darparu i bob grŵp oedran, yn hytrach na chael agwedd fwy targedig ac arbenigol. Ac er nad oedd y mapio’n edrych ar effeithiolrwydd yr amrywiol ymyriadau oedd ar waith, mae geiriau cynrychiolydd un awdurdod lleol a gyfwelwyd yn aros yn y cof: ‘mae gennym ni ddarpariaeth ond rydym ni’n methu’n ormodol – mae trosiant oherwydd nad yw’r cynlluniau’n cynnig yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc.’

Fodd bynnag, yr hyn oedd hefyd yn amlwg o’r sgyrsiau a gefais i gyda’r bobl roeddwn i’n cyfweld â nhw oedd bod digartrefedd pobl ifanc yn faes dynamig. Yn ddiweddar mae nifer o awdurdodau wedi penodi swyddi arbenigol pwrpasol ar gyfer atal a mynd i’r afael â digartrefedd pobl ifanc ac mae gan lawer gynlluniau i wella gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau plant ac asiantaethau allanol. Ceir tystiolaeth hefyd o arloesi yn y ddarpariaeth mewn rhai awdurdodau.

Yn y cyd-destun hwn, roedd yn gadarnhaol iawn cael clywed datganiad Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar 20 Tachwedd 2018. Pwysleisiodd y Gweinidog fod ymagwedd draws-lywodraethol yn cael ei mabwysiadu at atal a mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Hefyd cyhoeddodd fanylion cyllid ychwanegol ar gyfer 2019-20. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer amrywiaeth o fentrau gan gynnwys cydlynydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc ym mhob awdurdod, cronfa arloesi newydd i gefnogi datblygu opsiynau tai a chymorth addas i bobl ifanc, dyblu’r gronfa Dydd Gŵyl Dewi sy’n cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i’r rheini sy’n gadael gofal a chynnydd yn y grant cymorth i bobl ifanc.

Roeddwn i’n wirioneddol falch i weld y Gweinidog yn nodi bod yr adolygiad cartrefu fforddiadwy’n bwysig wrth ymdrin ag atal strwythurol. Nododd yr holl awdurdodau y cyfwelwyd â nhw ar gyfer y mapio ddiffyg tai fforddiadwy i bobl ifanc ag anghenion cyffredinol. Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i gydnabod yr anawsterau strwythurol sy’n wynebu pobl ifanc wrth geisio cael cartrefi addas a fforddiadwy a sefydlu polisïau a threfniadau cyllido fydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl ifanc ar draws Cymru.

Ar yr un diwrnod ag y gwnaeth y Gweinidog ei datganiad ar ddigartrefedd pobl ifanc, cyhoeddwyd map ar gyfer atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghanada. Mae cyhoeddi’r adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth a mapio yng Nghymru a datganiad y Gweinidog ar 20 Tachwedd yn elfennau pwysig mewn map sy’n esblygu i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru erbyn 2027.