2019 – Adolygiad

Wrth i flwyddyn gythryblus arall dynnu tua’i therfyn, rydym ni wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gyflawniadau allweddol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2019.  Rydym ni’n byw mewn cyfnod diddorol dros ben, ond mae ansicrwydd gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf wedi’i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu darparu tystiolaeth awdurdodol, annibynnol i lunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar yr heriau mwyaf cymhleth sy’n eu hwynebu: sut i fodloni’r galw cynyddol am ofal iechyd a chymdeithasol, sut i ymateb i argyfwng newid yn yr hinsawdd, a sut i hybu ffyniant economaidd a thegwch – i enwi tri yn unig.

Mae’n ddwy flynedd ers i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gael cais i fabwysiadu mandad ehangach a gweithio gyda’r gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â gweinidogion Llywodraeth Cymru.  Dros y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi cyhoeddi dros 40 o adroddiadau gan weithio gyda thros 100 o arbenigwyr ar draws y DU, ac mor bell â Canada a Sweden.

Mae adroddiadau diweddar wedi cynnwys gwaith ar: Llywodraeth Leol Cymru a chyni; cefnogi gwelliannau yn y byrddau iechyd; a’r effaith y gallai Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fewnfudo ei gael ar Economi Cymru.

Rydym ni wedi gweithio gyda Chwarae Teg ar yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd a gomisiynwyd gan Weinidogion, yn cynhyrchu adroddiadau ar ymdrin ag anghydraddoldeb drwy gyllidebu rhywedd, a’r gwersi i’w dysgu gan y cenhedloedd Norwyaidd.

Rydym ni wedi dadansoddi pam fod cynghorau Cymru’n gosod nifer cynyddol o blant mewn gofal, edrych ar beth gall Cymru ei ddysgu gan ranbarthau twf uchel ar draws Ewrop, ac ystyried sut i fesur gwerth undebau llafur i’w haelodau ac i gyflogwyr.

Rydym ni wedi cyhoeddi 30 blog, gyda phynciau’n amrywio o’r angen am ‘drawsnewid cyfiawn‘ i gymdeithas net-sero carbon, i ymdrin â phroblem unigrwydd, i holi a yw Model Preston yn cynnig sail ar gyfer diwygio caffael yng Nghymru i adolygiad o gyfraddau hunanladdiad dynion.

Rydym ni wedi cynnull cyfres o Gynadleddau Beth sy’n Gweithio i ddod â’r dystiolaeth a grëwyd gan Ganolfannau Beth sy’n Gweithio eraill i Gymru a’r cenhedloedd datganoledig eraill, ac rydym ni wedi cynnal digwyddiadau pwysig yng Nghymru ac yn Llundain gan gynnwys: cynhadledd gyda Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru ar bolisi a gwleidyddiaeth mewn cyfnod digynsail; seminar gyda Pharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ar fanteision ac arfer gorau symudedd gwybodaeth, gyda’r Athro Jonathan Sharples o’r Sefydliad Gwaddol Addysg yn cyflwyno’r prif anerchiad, a chynhadledd rhwng gweithwyr caffael proffesiynol ac arbenigwyr yn cynnwys Liz Lucas o Gyngor Caerffili a  Steve Robinson o Gyngor Caerdydd ar yr heriau ymarferol sy’n wynebu gweithwyr caffael a’r camau ymarferol i ymdrin â nhw.

Yn yr haf fe lansion ni ein podlediad newydd PEP Talk, sy’n cynnwys gorolwg difyr yn cynnig blas ar ddigartrefedd pobl ifanc, y dreth gyngor a dyledwyr agored i niwed, a chydraddoldeb rhywedd. Gwrandewch am ein rhifyn diweddaraf ar undebau llafur yn y flwyddyn newydd.

Roeddem ni wrth ein bodd yn cael ein gosod yn y rownd derfynol ar gyfer Effaith Eithriadol ar Bolisi Cyhoeddus yng Ngwobrau clodfawr Dathlu Effaith yr ESRC.  Roedd hwn yn ymdrech tîm gwirioneddol a hoffwn ddiolch i’n cyllidwyr, yr arbenigwyr oedd yn bartneriaid i ni, gweinidogion, swyddogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gweithio gyda ni, a fy holl gydweithwyr yn nhîm WCPP am wneud 2019 yn llwyddiant.

Ar ran y Ganolfan dymunwn Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd dda iawn i chi.

Tagiau