Polisi mudo’r DU a’r gweithlu gofal cymdeithasol a GIG Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig bod system fewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau yn dod i rym pan fydd Cyfnod Pontio’r UE yn dod i ben. Prif effaith y system newydd fydd rhoi statws cyfartal i fewnfudwyr o’r UE a mewnfudwyr o’r tu allan i’r UE ac i roi diwedd ar ryddid llafur i symud i’r Undeb Ewropeaidd ac oddi yno. Er bod darpariaethau wedi cael eu cyflwyno i eithrio rhai o staff y GIG a gofal cymdeithasol, bydd y newid hwn mewn polisi mewnfudo yn cael effaith ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n cynnwys staff o bob cwr o’r DU, yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd.

Fel rhan o’r Grant Cyllid Cymorth ar gyfer Cyfnod Pontio’r UE a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, fe wnaeth Conffederasiwn GIG Cymru gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ddadansoddi’r effeithiau posibl ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, pa grwpiau staff y bydd yn cael yr effaith fwyaf arnynt, a’r goblygiadau o ran y strategaeth dymor hir ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys recriwtio a chadw staff yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data presennol am weithlu GIG Cymru sydd wedi dod o Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a chyrff cenedlaethol eraill, yn ogystal â dogfennau wedi’u cyhoeddi a chyfweliadau â rhanddeiliaid i ddadansoddi’r effeithiau tebygol. Er bod y goblygiadau o ran gofal cymdeithasol yn cael eu trafod, nid oes data parod ar gael am y gweithlu gofal cymdeithasol, yn rhannol oherwydd nifer y darparwyr gofal ledled Cymru. Nid oes data am staff gofal sylfaenol ar gael ar hyn o bryd chwaith, ond mae cynlluniau i fynd i’r afael â hyn.

Mae’r adroddiad wedi dod i’r casgliad y bydd effeithiau tebygol y rheolau newydd ar GIG Cymru yn fach. Yr her i’r system fydd helpu gweithwyr mudol newydd i weithio’u ffordd drwy’r heriau biwrocrataidd cysylltiedig. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd mwy o wendidau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, a bydd hyn yn cael effaith ar y system iechyd a gofal cymdeithasol integredig os na chaiff hyn ei ddatrys, gan gynnwys mwy o alw ar wasanaethau sylfaenol, cymunedol ac acíwt y GIG.