Rôl Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Gau’r Bwlch mewn Cyrhaeddiad

Yn dilyn cais gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, gwnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru gomisiynu arbenigwr blaenllaw, yr Athro Chris Day, i astudio rôl Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gau’r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol yn fanwl.

Mae’r adroddiad yn nodi, er bod Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn bwysig i fynd i’r afael â’r bwlch yng nghyrhaeddiad y plant lleiaf a mwyaf difreintiedig, fod angen ystyried ffactorau ehangach i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r Athro Day yn defnyddio tystiolaeth i ddangos bod angen targedu adnoddau a chreu partneriaethau yn y gymuned/ysgol er mwyn cael effaith sylweddol ar broblem sydd wedi hen sefydlu yn y rhan fwyaf o wledydd ledled y byd. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â rhieni a chreu partneriaethau rhagweithiol yn y gymuned, ac mae’n tynnu sylw at yr angen i gael strategaethau ar lefel system er mwyn cau’r bwlch yng nghyrhaeddiad y rhai ar y brig a’r rhai ar y gwaelod yng Nghymru.

Mae’r adroddiad o blaid gweithredu ar sail cynlluniau peilot lleol sy’n targedu’r ardaloedd sydd â’r angen fwyaf. Mae angen i arweinwyr ysgolion fod yn berchen ar y strategaethau lleol, ac mae angen i ‘hyrwyddwyr mewn ysgolion’ sy’n cael cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chymorth effeithiol eu gweithredu a’u monitro. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i brofi strategaethau lleol a’i gwneud yn bosibl i uwchraddio mentrau llwyddiannus o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig i’r ysgolion hynny â phroblemau llai cymhleth.