Goblygiadau Brexit i Amaethyddiaeth, Ardaloedd Gwledig a’r Defnydd o Dir yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr heriau a’r cyfleoedd posibl i amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig yng Nghymru yn sgil Brexit.

Mae awdur yr adroddiad, yr Athro Janet Dwyer, yn dadlau y bydd y newidiadau mwyaf tebygol i amodau masnach yn arwain at sefyllfa lle mae amaethyddiaeth yng Nghymru dan anfantais o gymharu â’r prif gystadleuwyr masnach. Bydd ymateb proseswyr bwyd a choedwigaeth a masnachwyr allweddol yn hollbwysig.

Gallai ffermwyr defaid a chig eidion fod dan anfantais yn benodol ar ôl Brexit. Mae’n debygol y bydd hyfywedd economaidd y broses o gynhyrchu defaid yn dirywio. Efallai mai ffermydd llaeth, garddwriaethol, cymysg ac eraill fydd yn y sefyllfa orau i elwa o’r newidiadau ar ôl Brexit.

Gallwn ddisgwyl llai o arian cyhoeddus ar gyfer amaethyddiaeth pan fyddwn wedi gadael yr UE, ac yn dilyn cyfnod pontio tebygol o dair blynedd; h.y. ar ôl 2022. Mae’n debygol o effeithio’n fwy negyddol ar y gogledd a’r gorllewin na’r de a’r dwyrain.

Gall canlyniadau amgylcheddol ddeillio o Brexit. Bydd helpu ffermwyr i reoli tir neu ei symud i sectorau eraill yn bwysig, yn ogystal â sicrhau bod digon o arian ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru.