Mynd i’r afael ag Anghydraddoldeb drwy Gyllidebu ar Sail Rhyw

Mae cyllidebu ar sail rhyw yn agwedd at lunio polisi cyhoeddus sy’n sicrhau bod dadansoddiad o ryw yn ganolbwynt i brosesau cyllidebu, cyllid cyhoeddus a pholisi economaidd, fel dull o hyrwyddo cydraddoldeb rhyw. Mae’n adolygiad beirniadol o’r ffordd mae dyraniadau cyllidebol yn effeithio ar gyfleoedd economaidd a chymdeithasol menywod a dynion, ac mae’n ceisio ailstrwythuro penderfyniadau cyllid a gwario er mwyn diddymu canlyniadau anghyfartal, a deall y cyd-destunau y mae’r gwahaniaethau hynny’n codi’r un pryd.

Mae’r adroddiad yn cyfuno tystiolaeth ar gyllidebu ar sail rhyw, cyflwyno profiadau o lywodraethau cenedlaethol ac is-genedlaethol, a chyfranogwyr cymdeithas sifil o bob rhan o’r byd, Mae’n cynnwys enghreifftiau o offer, dulliau ac agweddau  cyllidebu ar sail rhyw sy’n gweithredu ar draws nifer o gamau gwahanol yn y broses gyllideb a chefnogi gweithrediad yn yr hirdymor.

Mae tair elfen allweddol i gyllidebu ar sail rhyw: i) asesiad ar sail rhyw – mae angen i asesiadau ar sail rhyw gael eu hategu gan ddata wedi’i ddadgyfuno a defnyddio amser; ii) gweithredu newidiadau yn seiliedig ar ddadansoddiad rhyw; a iii) gweithio gyda chyfranogwyr perthnasol o fewn a thu allan i’r llywodraeth.

Nid yr her ar gyfer gweithredu cyllidebu ar sail rhyw effeithiol yw nodi’r rhwystrau at eu gweithredu’n barhaus, yn hytrach cyflawni’r newidiadau strwythurol, diwylliannol a sefydliadol sydd eu hangen i gwblhau’r trawsnewidiad.

Mae’r Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol wedi amlygu’r meysydd gweithredu allweddol ar gyfer datblygu cydraddoldeb rhyw, a chyllidebu ar sail rhyw yw un o’r ymatebion sefydliadol. Mae llawer o’r amodau sydd eu hangen i gynorthwyo Cymru i fabwysiadu ei ffurf ei hun o gyllidebu ar sail rhyw eisoes ar waith mewn ymrwymiadau polisi ar gydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd.