Ymateb i Ddinasyddion Sydd Mewn Dyled i Wasanaethau Cyhoeddus

Gofynnodd y Prif Weinidog i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar y dystiolaeth ynghylch y cwestiwn ‘Sut byddai gwasanaethau cyhoeddus a’u partneriaid dan gontractau yng Nghymru yn gallu ymateb yn well i ddyledwyr agored i niwed, yn enwedig y rheini sy’n cael eu herlyn a’u carcharu?’

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddyledion treth gyngor ac ôl-ddyledion rhent i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol fel mathau allweddol o’r dyledion sydd ar ddinasyddion i wasanaethau cyhoeddus a’u partneriaid dan gontractau yng Nghymru.