Mudo ar ôl Brexit a Chymru

Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi effeithiau posibl polisïau mudo ar ôl Brexit ar farchnad lafur, poblogaeth a chymdeithas Cymru, ac yn nodi sut y gallai Llywodraeth Cymru ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n dod yn sgil hyn.

Bydd dod â rhyddid i symud i ben yn cael effaith sylweddol ar newid yn y boblogaeth yng Nghymru, sydd wedi bod yn fwy dibynnol ar fudo o’r tu allan i’r DU er mwyn tyfu ei phoblogaeth oedran gweithio na sawl ardal yn Lloegr. Gallai lleihau mewnfudo o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) roi mwy o bwysau ar y rhai sydd mewn gwaith i gefnogi pobl oedran pensiwn.

Gallai Llywodraeth Cymru geisio mynd i’r afael â materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn drwy:

  • Geisio cael cytundeb ar gyfer amrywiadau rhanbarthol a sectoraidd ym mholisi mudol y DU;
  • Dadlau y dylai cytundebau rhwng y DU a’r UE gynnwys fframweithiau symudedd a chydnabyddiaeth gilyddol o gymwysterau proffesiynol; a
  • Defnyddio pwerau datganoledig ac offerynnau polisi yn uniongyrchol i hybu integreiddio, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a diogelu’r cyflenwad llafur mewn cymunedau gwledig.