Cydraddoldeb Rhywiol: Dysgu Gwersi gan Wledydd Nordig

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi trafodaethau a gafwyd mewn cyfnewidfa wybodaeth cydraddoldeb rhywiol a hwyluswyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rhwng arbenigwyr o wledydd Nordig, gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, a Chwarae Teg.

Nid oes ‘ateb sydyn’ i sicrhau cydraddoldeb rhywiol, na glasbrint ar gyfer llwyddiant; mae golwg wahanol arno mewn gwahanol wledydd, ac mae’n waith sy’n parhau drwy’r amser.

Mae dull croestoriadol sy’n ystyried sut mae rhywedd yn rhyngweithio â ffactorau pwysig eraill fel hil a dosbarth yn hanfodol i sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Mae gwledydd Nordig yn ceisio cynnwys persbectif croestoriadol yn eu dulliau presennol; mae cyfle gan Lywodraeth Cymru i gynnwys croestoriadedd yn ei gwaith at y dyfodol.

Mae prif ffrydio rhywedd yn fecanwaith allweddol i sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Mae’n golygu ystyried rhywedd wrth ddatblygu pob polisi yn ogystal â llunio polisïau penodol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol. Mae’n bosibl mai prif ffrydio rhywedd mewn polisïau newydd yn hytrach nag mewn polisïau presennol fydd y man cychwyn mwyaf effeithiol i Lywodraeth Cymru.

Mae gosod nodau clir gyda dangosyddion, a mesur cynnydd ar eu cyflawni, yn hanfodol i wneud cynnydd ar gydraddoldeb rhywiol. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried gosod nodau cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol.

Nid cyfrifoldeb i lywodraeth yn unig yw sicrhau cydraddoldeb rhywiol – mae angen cynnwys gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, busnesau, y cyfryngau a chymdeithas yn gyffredinol hefyd.