Mudo yng Nghymru

Ym mis Rhagfyr 2018 bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar Fewnfudo oedd yn nodi polisi ymfudo ar ôl Brexit, ac roedd yn ymgorffori nifer o argymhellion o adroddiad blaenorol gan y Pwyllgor Cynghori Mudo. Mae’r adroddiad hwn yn trafod effeithiau tebygol y polisïau yma ar economi Cymru.

Er y bydd y gostyngiad cyfrannol mewn ymfudo yn uwch yng Nghymru nag yn y DU, oherwydd bod Cymru yn llai dibynnol ar ymfudo na’r DU gyfan, at ei gilydd bydd yr effaith ar Gymru yn llai. Rydym yn amcangyfrif y bydd yr ergyd i GDP rhwng tua 1 a 1.5% o GDP dros gyfnod o ddeng mlynedd, o’i gymharu â 1.5 i 2% ar gyfer y DU gyfan.

Bydd y cynigion a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Fewnfudo yn rhoi terfyn ar ryddid i symud. Bydd raid i ymfudwyr o’r EU a thu allan sydd yn dymuno dod i’r DU i weithio wneud cais fel arfer drwy’r llwybr gweithwyr sgiliedig Haen 2, fydd yn cael ei ryddfrydoli a’i symleiddio; ond yn gyffredinol ni fydd rhai sydd yn ennill llai na £30,000 (fydd yn destun ymgynghoriad) yn gymwys.