Unigrwydd yn ystod y Cyfyngiadau ar Symud

Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn rhai o’r prif heriau i les. Gan fod gwella lles yn parhau’n flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a pholisi Cymru, bydd taclo unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn parhau ar yr agenda, a hynny ar lefel genedlaethol a lleol.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddod â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol, o lywodraeth leol a’r trydydd sector, at ei gilydd gydag academyddion o ledled y DU (a’r tu hwnt iddi) i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod materion a heriau lleol, deall yr effaith ac ystyried sut mae lliniaru ac atal unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn effeithio ar lawer o wahanol bobl ac yn peryglu lles ar draws cwrs bywyd. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod pobl ifanc a’r rheiny sy’n ddifreintiedig yn faterol yn sôn am lefelau uwch o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, ac mae’n awgrymu bod perthynas rhwng unigrwydd a ble rydych chi’n byw. Y tu hwnt i’r data hwn, mae sylfaen gynyddol o dystiolaeth sy’n deillio o ymchwil ac ymarfer yn bwrw goleuni newydd ar achosion unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, sut profir hynny, a sut mae ei oresgyn.

Mae pandemig parhaus COVID-19 a chyfyngiadau symud presennol y DU yn golygu bod materion ynghylch unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn dwysáu ac yn debygol o fod yn fwy helaeth nag erioed o’r blaen dros y misoedd nesaf. Ymhellach, mae dulliau confensiynol o fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn cael eu herio gan y mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar droed ar draws y DU; mae hyn yn creu angen i ystyried y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r rôl y gall technoleg ei chwarae wrth gysylltu pobl a chymunedau.