Gwella cydraddoldeb hiliol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a luniwyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol ac ethnig strwythurol yng Nghymru. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiadau tystiolaeth i lywio datblygiad y Cynllun Gweithredu ar draws chwe maes polisi allweddol, a ddewiswyd gan y credid mai’r rhain sy’n cael yr effaith fwyaf ar anghydraddoldeb hiliol: arweinyddiaeth a chynrychiolaeth,  iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth ac incwm, addysg, tai a llety, throsedd a chyfiawnder. Mae’r adolygiadau hyn yn canolbwyntio ar dystiolaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol ac argymhellion allweddol i’w cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar draws pob un o’r chwe maes polisi allweddol.

 

Yn ogystal â’r camau gweithredu a’r argymhellion allweddol a nodwyd yn y chwe adroddiad polisi-benodol, amlygodd ein hymchwil nifer o feysydd allweddol ar gyfer gweithredu ar draws meysydd polisi. Mae’r camau gweithredu hyn yn aml yn cwmpasu’r system gyfan, ac maent yn ymdrin â phedwar maes allweddol, sef casglu, adrodd a dadgyfuno data; arweinyddiaeth a chynrychiolaeth; newid diwylliannau sefydliadol; ac ymgysylltu ac estyn allan.  Bydd y canfyddiadau a’r argymhellion trawsbynciol hyn yn bwysig wrth lunio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a’i roi ar waith, a bydd llwyddiant wrth fynd i’r afael â’r themâu trosfwaol a nodwyd gennym hefyd yn cyfrannu at lwyddiant wrth weithredu argymhellion mewn meysydd polisi penodol.  Amlinellir y canfyddiadau a’r argymhellion trawsbynciol hyn yn ein hadroddiad cryno, sydd hefyd yn argymell egwyddorion a all helpu i sicrhau bod y gweithredoedd a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.