Yr Angen a’r Galw yn y Dyfodol am Dai yng Nghymru

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, gwnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru gomisiynu’r diweddar Alan Holmans i lunio amcangyfrif newydd o’r angen a’r galw am dai yng Nghymru rhwng 2011 a 2031. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r gwaith hwn.

Cyflwynir dau amcangyfrif – un sy’n seiliedig ar amcanestyniadau swyddogol Llywodraeth Cymru o’r cynnydd yn nifer y cartrefi (y ‘prif amcanestyniad’), a’r llall yn seiliedig ar amcanestyniad Dr Holmans (yr ‘amcanestyniad amgen’), sy’n dadlau y gall Llywodraeth Cymru fod wedi tanamcangyfrif cynnydd yn nifer yr aelwydydd yn y dyfodol.

Yn seiliedig ar y prif amcanestyniad, mae Dr Holmans yn amcangyfrif y bydd angen 174,000 o dai neu fflatiau ychwanegol rhwng 2011 a 2031, sy’n cyfateb i 8,700 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae disgwyl i 60% ohonynt fod yn y sector preifat (5,200 y flwyddyn, 104,000 dros y cyfnod) a 40% ohonynt fod yn y sector cymdeithasol (3,500 y flwyddyn, 70,000 dros y cyfnod)*.

Mae’r amcanestyniad amgen yn amcangyfrif yr angen a’r galw yn uwch: 240,000 o unedau dros y cyfnod, neu 12,000 y flwyddyn; byddai 58% ohonynt yn y sector preifat (7,000 y flwyddyn, 140,000 dros y cyfnod) a 42% ohonynt yn y sector cymdeithasol (5,000 y flwyddyn, 100,000 dros y cyfnod).

Ochr yn ochr â chyfraddau adeiladu tai hanesyddol yng Nghymru, mae dadansoddiad Dr Holmans yn awgrymu, er mwyn diwallu’r angen ac ateb y galw am dai yng Nghymru, fod angen adeiladu tai ar gyfradd nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a sicrhau cynnydd cyflymach yn nifer y tai fforddiadwy.