Cydweithio a gweithredu polisi ar y lefel leol yng Nghymru

Bydd ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar y diwydiant amaeth yng Nghymru. Mae polisi amaeth yn bwnc datganoledig, a Llywodraeth Cymru’n cael cyllideb flynyddol ar ei gyfer gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; cyn Brexit, deuai’r cyllid hwn drwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2021-2022, £242 miliwn o gyllideb sydd wedi’i dyrannu i Gymru, sy’n £137 miliwn yn llai nag a ddisgwyliwyd (Undeb Amaethwyr Cymru, 2020). I liniaru effeithiau’r golled hon, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu cynigion polisi sy’n ceisio cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar dalu am gynhyrchu nwyddau cyhoeddus. Ar sail dadansoddiad polisi a dau ymgynghoriad ers refferendwm 2016, mae’r Llywodraeth wedi datblygu fframwaith polisi ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy, fydd yn cynnig arweiniad drwy gydol y cyfnod hwn o newid mawr. Mae’r cynigion yn seiliedig ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly mae datblygu cynaliadwy’n ganolog iddynt, ac maent yn adlewyrchiad uniongyrchol o ddyheadau ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer ein cymdeithas. Amlinellodd y Llywodraeth ei bwriadau ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol a’i huchelgais i ddiwygio yn y Papur Gwyn Amaeth (Cymru), a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2020.

Bydd yr adroddiad hwn yn defnyddio esiampl o astudiaeth achos i weld sut mae un grŵp ffermwyr wedi ymateb i newid yn y polisi amaeth drwy fynd ati mewn ffordd gyfranogol i ddatblygu cynlluniau sydd o fudd i’r tirwedd yng ngogledd Cymru. Wrth wneud hynny, bydd yn ateb y cwestiwn canlynol: Sut all mynd ati mewn ffordd gyfranogol i gynllunio arferion rheoli tir cydweithiol a chynaliadwy baratoi ffermwyr ar gyfer newidiadau yn y sector yn sgil Brexit?