Tu Hwnt i Gontractio: Stiwardiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus i Uchafu Gwerth Cyhoeddus

Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £6 biliwn y flwyddyn gyda chyflenwyr allanol. Mae hyn bron yn un rhan o dair o gyfanswm y gwariant datganoledig.

Craffwyd yn feirniadol ar ddulliau caffael yn ddiweddar ac mae strategaeth gaffael genedlaethol newydd yn cael ei datblygu.

Mae angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru sicrhau bod eu penderfyniadau caffael yn adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd mabwysiadu egwyddorion stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus yn hwyluso hyn drwy sicrhau bod penderfyniadau caffael yn rhoi sylw i flaenoriaethau strategol a hirdymor yn hytrach na meini prawf cul, byrdymor sy’n seiliedig ar gost.